Gweinyddwyr yn trafod tri chynnig am gwmni Peacocks

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Peacocks yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Collodd 249 o weithwyr y pencadlys eu gwaith ym mis Ionawr

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod trafodaethau yn parhau rhwng gweinyddwyr cwmni Peacocks a thri chynigydd.

Fe gafodd y cwmni dillad, sydd a'i phencadlys yng Nghaerdydd, ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ym mis Ionawr.

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod trafodaethau gydag un o'r prynwyr posib, Edinburgh Woollen Mill, wedi dod i ben.

Mae disgwyl i'r gweinyddwyr KPMG, wneud penderfyniad ar y cais buddugol yr wythnos nesaf.

Does 'na ddim manylion a fydd y cwmni yn cael ei werthu yn gyfan gwbl neu yn rhannol.

Mae gan y cwmni tua 600 o siopau ar draws y DU.

Cafodd 249 o weithwyr yn y pencadlys eu diswyddo ym mis Ionawr gan y gweinyddwyr.

Dywed KPMG fod dyled gyffredinol y grŵp yn £750m, tua'r un swm a gwerthiant cyffredinol y grŵp.

Mae Peacocks yn cyflogi tua 9,000 o bobl ar draws y DU.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol