Gwasanaeth derbynfa i ddiflannu mewn rhai o orsafoedd Heddlu Gwent

  • Cyhoeddwyd
Car heddluFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn dweud bod rhaid gwneud arbedion

Fe fydd Heddlu Gwent yn cael gwared ar swyddi derbynfa mewn 10 o'u gorsafoedd fel rhan o doriadau, yn ôl undeb.

Dywedodd undeb Unsain bod y newidiadau wedi cael eu hamlinellu i staff mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

O ganlyniad fe fydd nifer y gorsafoedd sydd ar agor i'r cyhoedd yn cael eu cwtogi i bump.

Mae'r undeb wedi galw am adleoli staff fydd yn gweld effaith y newidiadau (sy'n cyfateb i 22 swydd llawn amser) i swyddi eraill.

Dywedodd Heddlu Gwent bod rhaid iddyn nhw wneud arbedion o £32 miliwn.

Mae'r heddlu wedi bod yn ymgynghori gyda'r undebau am fesurau arbed arian.

Yn ôl y llu, mae pobl yn dweud eu bod "eisiau mwy o swyddogion heddlu yn y gymuned a gwell mynediad".

Mae Heddlu Gwent felly, meddai nhw, wedi "ail-ddylunio'r ffordd y mae cymunedau'n gallu defnyddio gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion pobl sydd â bywydau prysur."

Ychwanegodd y llu fod gwaith ymchwil yn dangos fod llai a llai o bobl yn ymweld â gorsafoedd heddlu erbyn hyn.

Cau gorsafoedd

Yn gynharach yn y mis, fe gyhoeddwyd datganiad oedd yn dweud eu bod yn edrych ar ailgynllunio'r modd y byddai pobl yn cael mynediad i'r gwasanaethau.

Dywedodd y datganiad bod ymchwil yn dangos bod 'na ffyrdd mwy effeithlon na buddsoddi "cyllid cyfyngedig ar hen adeiladau heddlu, sydd weithiau wedi'u lleoli yn wael ar gyfer y gymuned".

Yn ôl Unsain, cafodd eu haelodau - sy'n gyflogedig gyda Heddlu Gwent ond sydd ddim yn swyddogion heddlu - wybod na fydd angen eu rôl mewn 10 gorsaf sydd ar hyn o bryd yn agored rhwng 9am a 5pm.

Fe fydd y dderbynfa yn parhau yn agored yng Ngorsaf Ganolog Casnewydd 24 awr y dydd, yn ôl Ysgrifennydd yr Undeb yn Heddlu Gwent, Linda Sweet.

'Pryderus'

Fe fyddan nhw'n parhau hefyd yn Y Coed-duon, Y Fenni, Cwmbrân a Glyn Ebwy.

Ond dywedodd bod aelodau wedi cael gwybod na fydd 'na dderbynfa yn y gorsafoedd eraill o Orffennaf 1 ymlaen.

"Rydym yn bryderus bod hyn wedi digwydd," meddai.

"Ond rydym yn optimistaidd y bydd y staff yn cael swyddi eraill ar hyn o bryd.

"Mae gan y gweithwyr yma'r sgiliau gorau ac mae 'na gryn feddwl amdanyn nhw o fewn y gwasanaeth gan fod ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth."

Ychwanegodd bod gan Heddlu Gwent oddeutu 800 o staff heddlu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol