Leanne Wood: "Mwy ymosodol' tuag at Lafur
- Cyhoeddwyd
Bydd arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn mabwysiadu safbwynt "mwy ymosodol" tuag at y Blaid Lafur, mae rheolwr ei hymgyrch i fod yn arweinydd wedi dweud.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards y gallai Leanne Wood apelio at bleidleiswyr ledled Cymru, nid dim ond yng nghadarnleoedd y blaid.
Cyhoeddwyd dydd Iau mai hi yw arweinydd newydd Plaid Cymru, gan olynu Ieuan Wyn Jones.
Y ddau ymgeisydd arall oedd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ac Elin Jones.
Yn ôl Mr Edwards, mae'n rhaid i Blaid Cymru gael yr oruchafiaeth yng nghadarnleoedd Llafur, megis cymoedd y de.
"Dwi'n credu y byddwn yn gweld strategaeth llawer mwy ymosodol wrth herio Llafur yn y misoedd sydd i ddod," meddai Mr Edwards.
"Fel rhywun a fagwyd yn y Rhondda, sy'n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, hi yn amlwg yw'r person i herio Llafur yng nghymoedd y de".
Y llynedd rhoddodd Leanne Wood awgrym am ddyfodol y blaid ar ôl cyhoeddi cynigion i adfywio'r hen feysydd glo.
Mae'n weledigaeth sy'n rhoi blaenoriaeth i adnewyddu economaidd a chreu swyddi fel sail ar gyfer Cymru annibynnol - "annibyniaeth go iawn ar gyfer Cymru er mwyn i ni o'r diwedd chwalu'r system sy'n ein gormesu".
Wrth ddadansoddi pam y collodd Plaid Cymru sedd yn etholiad 2011, dywedodd Ms Wood bod y blaid wedi methu "cynnig rhywbeth unigryw" i etholwyr ar ôl llwyddo gydag amcanion tymor byr pan oedden nhw yn y llywodraeth.
Ms Wood yw'r nawfed arweinydd yn hanes y blaid, a'r fenyw gyntaf i wneud y swydd.
Gan fod yr etholiad ar ben, meddai, roedd y gwaith go iawn yn dechrau.
'Ailadeiladu cymuned'
"Efallai nad fi yw Arweinydd yr Wrthblaid Swyddogol ond rwy'n bwriadu arwain y weledigaeth swyddogol, y weledigaeth bod Cymru arall yn bosibl.
"Dim ond gan Blaid Cymru y gall y weledigaeth gadarnhaol, uchelgeisiol yma ddod.
"Felly dyma fy neges i bobl Cymru - ni yw eich plaid chi, plaid y bobl, plaid â'u gwreiddiau yng Nghymru, ar gyfer Cymru.
"Ymunwch â ni. Helpwch ni i ailadeiladu eich cymuned.
"Helpwch ni i ailadeiladu'r economi. Gyda'n gilydd gallwn ni adeiladu Cymru newydd deg, Cymru newydd fydd yn ffynnu a Chymru newydd rydd."
Fe fydd araith fawr gyntaf Ms Wood yng nghynhadledd wanwyn y blaid ar Fawrth 23 a 24.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2011