Heddlu'n ymuno gyda gorymdaith
- Cyhoeddwyd
Bydd cannoedd o blismyn yn ymuno gyda'r orymdaith gan streicwyr yn Llundain ddydd Iau er nad oes ganddynt hawl cyfreithiol i streicio eu hunain.
Plismyn sydd ddim ar ddyletswydd yw'r rhain, gan gynnwys hyd at 200 o heddweision Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr wedi trefnu'r brotest i bwysleisio'u pryderon am doriadau o 20% i'w cyllidebau.
Disgrifiwyd y toriadau gan y Ffederasiwn fel "ymosodiad anghymesur ar blismona gan y llywodraeth" ac yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd.
Dywed llywodraeth San Steffan fod rhaid gwneud arbedion er mwy lles yr economi, ond mae'r heddlu'r dadlau eu bod eisoes wedi gwneud cyfraniad sylweddol i daclo'r ddyled genedlaethol.
'Dechrau brathu'
Yn ôl ffigyrau Arolygaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi :-
Bydd y gwasanaeth yn colli dros 16,000 o blismyn dros y pedair blynedd nesaf;
Bydd £163 miliwn yn cael ei dynnu o gyflogau heddweision eleni yn unig;
Mae cyfraniadau pensiwn yr heddlu wedi cynyddu;
Mae cyflogau plismyn wedi eu rhewi am ddwy flynedd.
Dywedodd Richard Eccles, ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: "Mae realiti'r toriadau i blismona yn dechrau brathu.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym wedi colli dros 70 o heddweision o'r rheng flaen ar draws Gogledd Cymru.
"Mae swyddogion yn wynebu'r un lefel o fygythiad o drais wrth ymateb i alwadau gan y cyhoedd, ond mewn gwirionedd mae ganddynt lefelau llawer is o gymorth ar gael iddyn nhw bellach.
"Rhaid i'r llywodraeth fod yn realistig am y goblygiadau o doriadau i blismona; ni allwn fforddio cyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd, ac rwy'n teimlo bod y llywodraeth yn dinistrio'n gwasanaeth mewn modd sy'n drosedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012