Gwirfoddolwyr a gwaddol y gemau
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o'r rhai sy'n cludo'r Fflam drwy Gymru yn helpu pobl ifanc i ymddiddori mewn chwaraeon fel y bydd y gemau'n gadael eu hôl yn y dyfodol.
Bydd dwy â chyfraniad yn y maes yn cludo'r fflam trwy ogledd Cymru dros y dyddiau nesa' - Elin Catrin Owen ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Llun, a Kaeti Breward yn Llandudno ddydd Mawrth.
Mae'r ddwy wedi bod yn gwirfoddoli gyda chlybiau chwaraeon Urdd Gobaith Cymru ers blynyddoedd.
Ers pan oedd hi'n 14 oed mae Elin, disgybl 18 oed yn Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon, wedi helpu'r mudiad.
Mae'n dysgu pob math o chwaraeon i blant am wyth awr pob wythnos - o bêl-rwyd, hoci a dringo i ddawnsio a gymnasteg.
"Er bod pethau'n reit bell oddi wrthon ni'n Llundain," meddai Elin, "'da ni'n cael ein tynnu allan o bethau oherwydd y ffaith ein bod ni yng ngogledd Cymru.
"Ond mae'r ffaith bod y fflam yn fan hyn, a 'mod i 'di cael fy newis, mae'n fraint anhygoel."
'Mwy o gyfleoedd'
Mae Elin yn credu'n gryf bod diddordeb plant a phobl ifanc mewn chwaraeon wedi cynyddu oherwydd Gemau Llundain.
"Er bod gogledd Cymru'n reit dda beth bynnag, mae 'na lot mwy wedi dechrau. Mae 'na wahanol bethau maen nhw'n cael wneud rŵan, pethau oedda' nhw ddim yn gallu'i wneud o'r blaen.
"Yn lle bod nhw'n gwneud pethau fel pêl-rwyd, pêl-droed, rygbi, mae 'na fwy'n gwneud athletau, jiwdo a phethau fel 'na, mae 'na fwy o gyfleoedd iddyn nhw."
Trwy Gemau Cymru, sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd dros yr haf, mae'r Urdd yn rhoi cyfle i athletwyr y dyfodol gystadlu mewn pob mathau o gampau Olympaidd.
Ond mae'r mudiad hefyd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau fwy lleol, fel sesiynau a chystadlaethau athletau.
Un arall sy'n helpu gyda'r gweithgareddau hyn, ac sydd hefyd wedi'i dewis i gario'r fflam yw Kaeti Breward, 24 oed o Fangor.
Mae hi'n gwirfoddoli gyda'r Urdd ers naw mlynedd.
'Elfen gystadleuol'
"Nes i ddechrau'n ifanc, yn mynd i Glan Llyn i swogio a ballu, ac wedyn nes i ddechrau clybiau chwaraeon," meddai.
"Ar hyn o bryd dwi'n gwneud clybiau athletau, pêl-rwyd a gymnasteg, tua phum gwaith yr wythnos - yn y gymuned, yn cyflwyno chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Dwi 'di bod o gwmpas ysgolion lleol yn gwneud athletau, ac mae 'na lot o blant wedi bod yn gofyn - yn enwedig yn y tywydd braf - pryd maen nhw'n cael neidio, pryd maen nhw'n cael gwneud athletau.
"Mae rhai'n gofyn fydda' nhw'n cael gwibio fel Ussain Bolt, felly mae'r Gemau Olympaidd yn hybu lot o bethau - gan gynwys yr elfen gystadleuol, sy'n beth da dwi'n meddwl."
Mae Barry John Edwards o Athletau Cymru hefyd yn gweld bod y Gemau wedi annog mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon.
'Dim cyd-ddigwyddiad'
"'Dan ni 'di gweld bod niferoedd sy'n dod i'r clybiau, i wersi'r Urdd, gweithgareddau dros dymor y gwanwyn a'r haf - mae'r niferoedd i gyd i fyny," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl ei fod o'n gyd-ddigwyddiad ei fod i gyd wedi digwydd ers yr haf diwetha' ymlaen tuag at Gemau 2012.
"Er mai Gemau Llundain 2012 maen nhw'n cael eu galw, 'da ni'n gweld bod 'na gyfleoedd ar gyfer plant Ynys Môn, plant Gwynedd ac yn y blaen. Mae'n neis gweld bod y ffagl yn cael ei chyflwyno ar draws Cymru gyfan hefyd."
Dydd Llun mae Elin yn cario'r fflam, a Kaeti yn cael ei chyfle ddydd Mawrth - gwobr am eu gwaith caled yn yr ymdrech fawr i fagu brwdfrydedd mewn chwaraeon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd27 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd23 Mai 2012
- Cyhoeddwyd18 Mai 2012
- Cyhoeddwyd19 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012