Cludo ar y copa: Codi cwestiynau
- Cyhoeddwyd
Mae rhai wedi beirniadu'r ffaith mai'r dringwr enwog, Syr Chris Bonington, gafodd y fraint o gludo'r fflam Olympaidd i gopa'r Wyddfa fore Mawrth.
Ar bumed diwrnod ei thaith o amgylch Cymru cyrhaeddodd y ffagl gopa uchaf Cymru a Lloegr.
Cafodd ei rhoi mewn lantern i'w chludo i fyny ar Reilffordd yr Wyddfa cyn i'r dringwr 77 oed ei chludo i'r copa, 1,085m (3,650 troedfedd) uwchlaw lefel y môr.
Dywedodd fod cario'r fflam i fyny'r mynydd ble y dechreuodd ei yrfa dringo yn "golygu llawer iawn."
'Braint'
"Mae'n fraint cael cludo'r ffagl ac ymuno â chludwyr eraill ar draws y DU ... mae'r holl beth yn anhygoel," meddai wedi'r profiad.
Dechreuodd ei yrfa yn dringo'r Wyddfa 61 mlynedd yn ôl.
Ond dyw pawb ddim yn hapus mai fo gafodd y fraint o gario'r fflam.
Mae John Ellis Roberts, cyn warden Parc Cenedlaethol Eryri a mynyddwr profiadol, wedi cwestiynu'r dewis.
'Digon o Gymry'
"Dwi yn meddwl y dylsan nhw fod wedi cael hyd i Gymro," meddai.
"Mae 'na ddigon o Gymry yn y byd mynydda i'w chario hi i'r darn diwetha' heb gael Sais yma."
Dywedodd ei fod yn teimlo bod hynny wedi tynnu oddi wrth yr holl achlysur.
"Ma' Bonington - ma' pawb yn ei 'nabod o - ond ma' gynnon ni Gymry - Eric Jones, John Disley wedi cael ei fagu fyny yng Nghorris, gweithio ym Mhlas y Brenin, Caradog Jones sy' wedi bod fyny Everest, digon ohonyn nhw.
"Ma'n biti na fasa'r bobl o gwmpas y trefniadau yng Nghymru wedi meddwl tipyn bach mwy am hyn, yn enwedig bod nhw 'di defnyddio'r Wyddfa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd29 Mai 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd27 Mai 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd27 Mai 2012
- Cyhoeddwyd26 Mai 2012
- Cyhoeddwyd26 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd26 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Mai 2012