Diwrnod 14: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Y Cymry sy'n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd ddydd Gwener.
Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara' i chi o'r campau.
ATHLETAU:
Roedd siom i ddau Gymro yn y ddwy ras gyfnewid yn y Stadiwm Olympaidd ddydd Gwener.
Yn rownd derfynol y ras 4X400m, roedd Dai Greene yn rhedeg yn nhîm Prydain ddaeth yn bedwerydd.
Gorffennodd y tîm gydag amser o 2 funud 59.53 eiliad, sef eu hamser gorau'r tymor hwn, ond syndod mawr y gystadleuaeth oedd gweld y Bahamas yn cipio'r fedal aur gyda'r ffefrynnau o'r Unol Daleithiau yn ail a Trinidad & Tobago yn cipio'r fedal efydd o drwch blewyn - roedden nhw 0.13 o eiliad o flaen Prydain.
Roedd Christian Malcolm yn aelod o dîm Prydain a gafodd siom aruthrol yn rownd gyntaf y ras gyfnewid 4X100m.
Doedd dim bai ar Malcolm wrth i'r tîm fethu â throsglwyddo'r baton o fewn y darn cywir o'r trac, ac fe gafon nhw'u diarddel o'r gystadleuaeth.
Digwyddodd yr un peth i'r tîm ym Mhencampwriaeth Ewrop ym mis Gorffennaf, ond y tro hwnnw Malcolm ollyngodd y baton.
Dyma felly oedd ras Olympaidd olaf Christian Malcolm yn ei bedwedydd Olympiad. Bu'n cystadlu yn Sydney (2000), Athen (2004), Beijing (2008) yn ogystal â Llundain eleni.
HWYLIO:
Yn Weymouth am 1:00pm cafodd Cymru fedal arian ddydd Gwener wrth i Hannah Mills o Ddinas Powys gystadlu yn yr hwylio (dosbarth 470) gyda'i phartner Saskia Clark.
Roedd y ddwy yn gyfartal ar bwyntiau gyda Seland Newydd fore Gwener wedi'r gyfres o ddeg ras yn y gystadleuaeth, oedd yn golygu eu bod yn sicr o fedal arian o leiaf, ond ni lwyddon nhw i basio Seland Newydd.
Enillodd Mills bencampwriaeth y byd gyda Saskia Clark ddeufis cyn y Gemau yn Llundain - y menywod cyntaf o Brydain i ennill medal aur yn y dosbarth 470.
Yn gyn bencampwr ieuenctid y byd, dechreuodd Mills ei phartneriaeth gyda Clark yn Chwefror 2011, ac o fewn dim roedd y ddwy wedi ennill medal efydd Ewropeaidd a medal arian ym Mhencampwriaeth y Byd.
BOCSIO:
Mae Fred Evans wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y pwysau welter (69kg).
Enillodd Evans o 11-10 ar bwyntiau yn erbyn Taras Shelestyuk o'r Wcrain - prif ddetholyn a phencampwr y byd - ar ddiwedd tair rownd galed.
Bydd yn wynebu Serik Sapiyev o Kazakhstan yn y rownd derfynol ddydd Sul, ac fe fydd ganddo fedal arian o leiaf.
Beth bynnag fydd lliw y fedal, Evans yw'r bocsiwr cyntaf o Gymru i enill medal Olympaidd ers Ralph Evans yn Munich yn 1972.
HOCI:
Roedd Sarah Thomas yn aelod o dîm hoci merched Prydain a gipiodd fedal efydd yn erbyn Seland Newydd ddydd Gwener.
Colli 2-1 wnaeth merched Prydain yn y rownd gynderfynol yn erbyn Ariannin ddydd Mawrth, ond yn y gêm i benderfynnu pwy fyddai'n gorffen yn drydydd, roedd merched Prydain yn fuddugol o 3-1 gyda Sarah'n sgorio'r drydedd gôl.
GYMNASTEG RHYDDMAIDD:
Roedd Frankie Jones yn y 21ain safle ar ganol y rowndiau rhagbrofol o'r gymnasteg rhyddmaidd.
Cafodd Jones berfformiadau calonogol gyda'r bêl a'r cylch ac fe gafodd ddiwrnod gwell gyda'r rhuban a'r clybiau ddydd Gwener.
Ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol, roedd yn y 15fed safle, sy'n golygu na fydd yn mynd ymlaen i'r rownd derbynol gan mai dim ond y deg uchaf fydd yn parhau yn y gystadleuaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2012