Tystiolaeth fforensig yn achos Siddiqi

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref yn 2010

Mae llys wedi clywed bod olion gwaed ar gar yr honnwyd iddo gael ei ddefnyddio fel rhan o lofruddiaeth llanc 17 oed yn cyfateb i DNA'r dioddefwr.

Honnir bod dau wedi ymosod ar Aamir Siddiqi, 17 oed, oherwydd "camgymeriad anhygoel".

Mae Jason Richards, 38 oed, a Ben Hope, 39 oed, yn gwadu llofruddio'r llanc a cheisio llofruddio ei rieni yn eu cartref yn Y Rhath yn Ebrill 2010.

Dywedodd y gwyddonydd fforensig, Jessica Adby, mai'r tebygolrwydd fod yr olion gwaed yn eiddo rhywun heblaw'r llanc oedd "un mewn biliwn".

'Esgidiau'

Dywedodd wrth Lys y Goron Abertawe fod pum trwch o olion gwaed o dan sedd y gyrrwr "lle y byddai troed chwith rhywun wedi bod" yn y car Volvo yr oedd yr heddlu wedi dod o hyd iddo.

Clywodd y llys fod "ychydig" o olion gwaed o dan y sedd arall ym mlaen y car a dywedodd hi y gallai'r gwaed o dan y sedd arall fod wedi deillio o Aamir Siddiqi.

"Yn fy marn i, mae presenoldeb y gwaed yn awgrymu bod unigolion ag olion gwaed ar eu hesgidiau wedi bod ar ochr y gyrrwr ac ochr y teithiwr yn y cerbyd," meddai.

Ychwanegodd y gallai mwy nag un fod wedi gadael yr olion gwaed ar lawr y car.

Clywodd y llys fod profion wedi bod ar dop llwyd â chwfl.

'Cyfateb'

Dywedodd Ms Adby fod tair rhan o'r dilledyn wedi eu profi a bod pob un yn "cyfateb i DNA Jason Richards".

Ond clywodd y llys nad oedd unrhyw dystiolaeth o olion gwaed ar eitemau Jason Richards a Ben Hope fyddai'n eu cysylltu â'r digwyddiad.

Pan gafodd ei holi gan yr erlynydd, Patrick Harrington QC, cytunodd Ms Adby nad oedd hyn yn golygu nad oedd y diffynyddion yn rhan o'r digwyddiad.

"Yn anaml mae unigolion yn gwaedu ar unwaith," meddai.

Mae'r achos yn parhau.