Dan Lydiate i adael y Dreigiau ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Dan LydiateFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dan Lydiate yn gadael y Dreigiau ar ddiwedd y tymor presennol

Bydd blaenasgellwr y Dreigiau, Dan Lydiate, yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor i ymuno â thîm yn Ewrop.

Dywedodd y chwaraewr ar ei wefan Twitter fore Mercher ei fod yn gadael, ac mae'r Dreigiau wedi cadarnhau hynny.

Lydiate enillodd y wobr am chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012.

Bu'n chwarae i'r Dreigiau ers 2006, ac yn ystod ei gyfnod yno fe wellodd o anaf difrifol i'w wddf oedd wedi bygwth dod â'i yrfa i ben yn 2007.

'Allweddol'

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi'r Dreigiau, Rob Beale: "Yn amlwg rydym yn siomedig bod Dan wedi penderfynu gadael y Dreigiau.

"Bu'n rhan allweddol o'r rhanbarth ers blynyddoedd lawer, ac mae'n boblogaidd ymysg y chwaraewyr a'r hyfforddwyr.

"Gallaf sicrhau'r cefnogwyr ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw gwasanaeth Dan, ond yn syml fedrwn ni ddim cystadlu gyda rhai o'r cynigion sydd wedi eu gwneud iddo."

Mae Lydiate yn ymuno gyda phentwr o chwaraewyr sydd wedi gadael rhanbarthau Cymru i ymuno â chlybiau yn Ewrop.

Mae James Hook, Mike Phillips, Lee Byrne, Gethin Jenkins a Luke Charteris ymhlith yr aelodau o'r garfan ryngwladol sydd eisoes yn ennill eu bara menyn yn Ffrainc, ac mae nifer wedi mynegi eu pryder bod cymaint o chwaraewyr gorau Cymru yn gadael am yr arian mawr sy'n cael ei gynnig gan glybiau yn Ffrainc.

Nid yw Lydiate hyd yma wedi dweud i ba glwb y bydd yn symud.

Fe ddaw'r cyhoeddiad ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru bod bwrdd newydd wedi ei sefydlu i gryfhau a datblygu rygbi proffesiynol yng Nghymru.

Mae'n cynnwys amcan i gadw prif chwaraewyr rhyngwladol Cymru i chwarae yng Nghymru lle mae'n bosib.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol