Panel annibynnol i ystyried effaith y Gymraeg ar ddatblygu economaidd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu panel annibynnol i ystyried effaith yr iaith Gymraeg ar ddatblygu economaidd.
Daw hyn ar ôl i Gomisiynydd y Gymraeg Meri Huws gyhoeddi safonau a fydd yn golygu y bydd rhai cwmnïau yn y sector preifat yn cael eu gorfodi yn gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg, yn hytrach nag ar sail wirfoddol.
Bydd barn y panel yn cael ei ystyried cyn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad terfynol.
Cadeirydd y grŵp fydd Elin Rhys, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Telesgôp.
Yr aelodau eraill fydd Martin Rhisiart o Brifysgol Morgannwg; Dylan Jones Evans o Brifysgol Cymru; Elin Pinnell, pennaeth cyfraith cyflogaeth yng nghwmni Capital Law; Rhodri Llwyd Morgan o Gyngor Ceredigion; Alun Shurmer o Ddŵr Cymru a Hywel Wigley o Stiwdio Acapela.
Sefydlwyd fframwaith ar gyfer safoni gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a'r comisiynydd sy'n gosod safonau statudol ar sefydliadau ac yn rheoleiddio sut maen nhw'n dilyn y safonau.
Mae yna bum dosbarth o safonau, cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithredu, hybu a chadw cofnodion.
Mae dwy egwyddor yn sail i waith y comisiynydd - ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru ac y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012