Neges y rhubanau pinc dal yn glir yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd
Pan ofynwyd i mi ysgrifennu pwt am fy mlwyddyn i'n gohebu o'r canolbarth anodd oedd edrych y tu hwnt i'r un stori ysgytwol honno a fu am gyfnod yn hawlio'r penawdau yn bell o ffiniau Ceredigion a Phowys.
Wrth gwrs mae straeon mawr eraill wedi ein cadw ni'n brysur yn ystod y flwyddyn.
Roedd taith y Fflam Olympaidd yn brofiad newyddiadurol na wela'i mo'i thebyg eto.
Braint oedd cael y dasg o geisio disgrifio'r digwyddiad hanesyddol hwnnw.
Roeddwn i'n gohebu o Aberaeron ble'r oedd y bridiwr ceffylau Eric Davies yn cario'i ffagl yntau ar gefn cob Cymreig.
Roedd y cyffro ar strydoedd y dref glan-môr yn drydanol ac amhosib fyddai peidio ymgolli'n y cynnwrf wrth i'r don Olympaidd gyrraedd y Canolbarth.
Drannoeth dyma ailgychwyn ar y gwaith wrth i'r Fflam barhau ar ei thaith drwy ogledd Ceredigion gan ymweld â phentrefi Bow Street a Thal-y-Bont.
A'r haul yn gwenu, roedd 'na groeso cynnes yn aros amdani.
Roedd pethau'n dra gwahanol yn yr ardal hon gwta bythefnos yn ddiweddarach.
Tua 6 o'r gloch ar fore Sadwrn oedd hi pan ges i'r alwad gyntaf i ddweud bod llifogydd wedi taro Tal-y-Bont.
Cyd-dynnu
A dyna ddechrau ar benwythnos hir a heriol.
Yn fuan iawn mi ddaeth i'n amlwg bod nifer o bentrefi eraill wedi ei chael hi'n wael hefyd.
Yr atgof mwya sydd gen i o'r cyfnod hwnnw ydy gweld pobl leol yn cyd-dynnu - pob un yn barod i estyn llaw, a chodi rhaw.
Oedd, roedd ysbryd cymuned Tal-y-Bont yn beth arbennig iawn i'w brofi.
Ac eto doedd dim cymhariaeth â'r ymateb a welais i 10 milltir i'r gogledd rai misoedd yn ddiweddarach.
Roeddwn i eisoes wedi gweld negeseuon yn ymddangos ar wefanau cymdeithasol yn crybwyll diflaniad merch leol pan ddaeth yr alwad o'r gwaith yn gofyn i mi fynd i Fachynlleth i weld beth oedd yn digwydd.
Mi gyrhaeddais i ganolfan hamdden y dref tua hanner awr wedi deg y nos.
Roedd y lle'n orlawn gyda channoedd o bobl yn prysur rannu eu hunain i grwpiau ac yn penderfynu ble roedden nhw am fynd i chwilio am April Jones.
'Anodd credu'
Yno yr arhosais i'n sgwrsio a thrigolion lleol ac yn darlledu'r manylion prin oedd gen i tan oriau man y bore.
Ar ôl awr o gwsg roedd hi'n amser dychwelyd yno. Wrth i'r haul wawrio, fe glywais i rywrai'n gweiddi enw April ac yn bloeddio ei bod hi'n amser iddi ddod adref.
Dros yr wythnos ganlynol roeddwn i yn y dref drwy'r dydd, bob dydd. A minnau'n fachgen o'r ardal roedd hi'n anodd credu bod y stori yma oedd yn datblygu o'm mlaen i'n digwydd ym Mach.
Roedd hi'n anodd peidio meddwl hefyd fy mod i o dan draed ac y dylwn innau fod yn torchi llewys ac yn helpu i chwilio am April.
Ond rhaid oedd ceisio rhoi teimladau o'r fath i'r naill ochr a chanolbwyntio ar adrodd yr hanes mewn modd proffesiynol a sensitif. Gyda chymorth parod fy nghydweithwyr dwi'n gobeithio fy mod i wedi llwyddo i wneud hynny.
Ond wrth gwrs dydy'r stori ddim ar ben. Dri mis ar ôl iddi fynd ar goll mae'r chwilio am April yn parhau.
Mae'n bosib bod achos llys ar y gorwel hefyd ac felly does yna ddim argoel y bydd dechrau 2013 yn haws na diwedd 2012.
Mae'r rhubanau pinc a ymddangosodd ym mhob ffenest ac ar bob car a chôt yn arwydd o gefnogaeth pobl Machynlleth bellach yn colli eu lliw.
Ond mae eu neges mor glir ag erioed. Fydd hynny ddim yn newid yn y flwyddyn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2012