Lleihau'r chwilio dros y Nadolig am April Jones

  • Cyhoeddwyd
April Jones a'i mam CoralFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

April Jones gyda'i mam Coral cyn ei diflaniad

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn cynnal cynhadledd newyddion 10 wythnos wedi diflaniad y ferch fach bump oed, April Jones, ym Machynlleth.

Does neb wedi gweld April ers iddi ddiflannu wrth chwarae ger ei chartref yn y dref ar Hydref 1.

Mae dyn 47 oed yn y ddalfa yn aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o lofruddio a chipio'r ferch fach.

Yn y gynhadledd newyddion fore Mercher, roedd datganiad hefyd gan rieni April, Coral a Paul Jones.

'Un o'r mwyaf erioed'

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Ian John wrth y wasg bod proffil uchel yr achos yn y wasg wedi cadw'r gwaith o chwilio am April yn llygad y cyhoedd.

"Dyma un o'r ymgyrchoedd chwilio mwyaf yn hanes heddlu'r DU," meddai.

"Mae 16 o dimau wedi bod wrthi'r wythnos hon eto ac ymhob tywydd ar hyd y mynyddoedd a dyffrynnoedd o gwmpas Machynlleth ar dir heriol."

Pwysleisiodd y byddai'r gwaith yn parhau yn y flwyddyn newydd, ond y byddai'r gwaith yn lleihau dros gyfnod y Nadolig.

Dywedodd hefyd y byddai'r chwilio yn parhau tan fod yr heddlu yn fodlon eu bod wedi dilyn pob trywydd.

"Nid ydym am roi cyfyngiad amser ar hynny," meddai, "ond rydym wedi ymrwymo i aros yma tan y gallwn fod yn siŵr nad oes mwy o leoedd posibl i chwilio am gorff April."

'Cysur'

Ychwanegodd bod teulu April wedi dangos cryfder anhygoel drwy gydol eu profedigaeth, gan ddangos hefyd wytnwch ac urddas.

Yn eu datganiad nhw i'r wasg ddydd Mercher, dywedodd Coral a Paul Jones bod y negeseuon o ewyllys da o bob cornel o'r byd wedi bod o gymorth iddyn nhw.

"Rydym yn ddiolchgar ein bod ym meddyliau a gweddïau pobl o hyd.

"Rydym yn ddiolchgar iawn hefyd i Heddlu Dyfed Powys am eu hymdrechion i ddod o hyd i April.

"Mae ymroddiad y timau chwilio sydd wedi dod yma o bob rhan o'r DU wedi bod yn anhygoel.

"Mae'n gysur meddwl y byddan nhw'n dychwelyd at eu teuluoedd dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd am orffwys y maen nhw'n ei haeddu.

"Fe fydd y Nadolig yn gyfnod anodd i ni heb April yn ein plith, ond fel rhieni i Harley a Jazmin fe fyddwn yn cydnabod cyfnod yr ŵyl cystal ag y gallwn ni.

"Diolchwn hefyd i bobl am barchu ein preifatrwydd fel teulu, yn enwedig y cyfryngau.

"Rydym yn sylweddoli bod hon yn stori fawr, ond ein bywyd ni yw hwn, ac rydym yn ceisio ymdopi â'r ffaith bod ein babi ni wedi cael ei chymryd oddi wrthym."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol