Disgwyl glaw trwm yng Nghymru allai achosi llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae corff amgylcheddol yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus am y posibilrwydd o lifogydd yn lleol am fod 'na ddisgwyl glaw trwm dros y dyddiau nesaf.
Mae disgwyl i'r glaw effeithio canolbarth, gorllewin a dwyrain Cymru erbyn bore Mercher ac y bydd yn para tan fore Iau.
Y darogan yw mai yn yr ardaloedd yn y gorllewin y bydd y glaw trymaf yn y prynhawn.
Mi allai'r glaw olygu y bydd yna rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Y peryg arall ydy bod gwteri yn cael eu blocio achos bod na ddail ar y ddaear. Mi allai hyn olygu hefyd y bydd yna lot o ddŵr ar y ffyrdd.
Mae CNC yn dweud wrth bobl am gadw golwg ar y rhagolygon tywydd ac i fod yn ofalus wrth yrru neu deithio.
Hefyd maent yn rhybuddio pobl i beidio cerdded na gyrru trwy ddŵr uchel am fod hyn yn medru bod yn beryglus.
Mae rhybuddion cyson am lifogydd i'w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. , dolen allanol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013