Gwynt a glaw yn achosi trafferth dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth Tân
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criwiau Tân eu galw i bwmpio dŵr nos Fercher

Mae gwyntoedd cryf a glaw trwm yn achosi problemau ar draws Cymru, gyda'r gwasanaethau brys yn dweud bod "cannoedd" wedi eu galw.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn "cannoedd" o alwadau am lifogydd a choed wedi eu dymchwel, tra bod Gwasanaethau Tân y De a'r Gorllewin wedi derbyn llawer iawn o alwadau am lifogydd.

Mae adroddiadau o lifogydd yn ardal y Fenni a'r Coed Duon.

Roedd tua 900 o dai yng Nghwm Nedd heb drydan wedi i gebl pŵer ddod i lawr oherwydd gwyntoedd cryfion ar draws dde Cymru, ond mae cwmni Western Power wedi trwsio'r broblem erbyn hyn.

'Fel afon'

Mae'r Swyddfa Dywydd, dolen allanol wedi cyhoeddi rhybudd melyn, gan ddisgwyl gwyntoedd o hyd at 70 m.y.a. a llifogydd lleol yn bosib yn y de a'r gorllewin.

Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol nifer o rybuddion am lifogydd posib, ac yn dweud mai de Gwynedd, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion fydd yr ardaloedd sy'n debyg o ddiodde' waethaf.

Roedd hen Bont Hafren ar gau nos Fercher oherwydd gyntoedd cryf, ac roedd Ffordd Pennau'r Cymoedd, yr A465 ar gau rhwng Cefn Coed a Dowlais.

Dywedodd Heddlu Gwent bod rhwng 3 a 4 troedfedd o ddŵr ar y B4521 yng Nghroes Onnen ger y Fenni, a bod pobl yn gadael eu ceir mewn 2 droedfedd o ddwr yn y Coed Duon.

Mae manylion am ffyrdd ar gau ar gael ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Mae nifer o goed wedi disgyn ac yn rhwystro ffyrdd yn ardal Castell-nedd, tra bod Ffordd y Fynwent yn Aberdâr wedi ei ddisgrifio "fel afon".

Dywedodd y Gwasanaeth Dân eu bod yn y broses o gael bagiau tywod i'w rhoi yn ardaloedd Merthyr Tudful, Rhymni, Aberdâr, Treorci a Maesteg.

Mae eira hefyd yn bosibilrwydd ar dir uchel.

Peryglon

Dywed y Swyddfa Dywydd bod disgwyl y gwyntoedd cryfaf mewn ardaloedd ger yr arfordir.

Dywedodd Steve Cook o Cyfoeth Naturiol Cymru: "Fe fydd glaw trwm dibaid yn ystod y dydd ac mae hynny'n debyg o achosi llifogydd yn lleol ar y ffyrdd, ac fe all hynny wneud teithio yn beryglus yn enwedig gyda'r gwyntoedd cryfion.

"Gyda dail yn disgyn o'r coed, mae potensial i'r draeniau gael eu blocio ac arwain at lifogydd ar wyneb y ffyrdd.

"Rydym hefyd am i bobl fod yn ymwybodol o lifogydd ger yr arfordir."

Mae'r rhybuddion tywydd wedi cael eu cyhoeddi yn ardaloedd llawn Dale a Phentywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Mae CNC hefyd wedi cyhoeddi saith rhybudd i baratoi am lifogydd, gyda'r ardaloedd yn ymestyn o Fae Abertawe i arfordir gogledd Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol