Tywydd: Problemau yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth Tân
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn helpu gyda'r problemau tywydd

Mae tywydd garw wedi bod yn achosi problemau ddydd iau, gyda gwynt, glaw ac eira mewn mannau.

Dywedodd y gwasanaethau brys bod eira trwm wedi effeithio rhai ffyrdd ym Mhowys, gan gynnwys yr A4518 ger Machynlleth lle aeth car oddi ar y ffordd.

Mae rhagor o rybuddion mewn grym ar gyfer Cymru gan fod disgwyl i fand arall o law trwm symud i mewn dydd Gwener.

Mae disgwyl glaw trwm i effeithio llawer o'r wlad brynhawn Gwener, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol yn annog pobl i fod yn wyliadwrus.

Roedd glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi taro Cymru nos Fercher, gan olygu bod sawl rhybudd am lifogydd mewn grym.

Ffynhonnell y llun, Mathew Keeble Payne
Disgrifiad o’r llun,

Roedd eira trwm yn Llysdinam ddydd Iau

Roedd 900 o gartrefi heb drydan am gyfnod nos Fercher, ac ar Ynys Môn fe gafodd ceblau eu chwythu i'r llawr gan gau ffordd yr A4080 ym Mrynsiencyn.

Ddydd Iau, cafodd yr A4518 ei chau wedi damwain.

Dywedodd yr heddlu bod car wedi gadael y ffordd a mynd i ffos am tua 3.00yh.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond cafodd y ffordd ei chau i osgoi mwy o ddamweiniau.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn disgwyl glaw am gyfnodau hir ddydd Gwener, ac y byddai'n disgyn ar dir gwlyb, all achosi problemau.

Mae disgwyl y glaw trymaf yng nghymoedd y de a Bannau Brycheiniog.

Dywedodd llefarydd: "Mae nifer o rybuddion wedi eu codi heddiw, ond mae tir yn wlyb, a bydd glaw yn mynd i'r afonydd yn sydyn, gan olygu bod mwy o rybuddion yn debygol."

Mae disgwyl i'r tywydd ansefydlog barhau i mewn i wythnos nesaf a'r Nadolig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol