Llawer heb drydan wedi'r gwyntoedd
- Cyhoeddwyd
Mae peirianwyr yn gweithio i adfer cyflenwad trydan i nifer o gartrefi yn y gogledd wedi'r gwyntoedd cryfion ddydd Gwener.
Erbyn bore Sadwrn roedd dros 1,000 o gartrefi - yn bennaf yng Ngwynedd ac Ynys Môn - yn dal heb gyflenwad.
Mae gweithwyr y cyngor hefyd yn parhau i glirio coed wedi disgyn o ffyrdd yn yr ardaloedd dan sylw wedi i'r gwyntoedd gyrraedd cyflymder o hyd ar 109 m.y.a..
Mae rhannau o ganolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru hefyd wedi diodde'.
Erbyn bore Sadwrn mae un rhybudd llifogydd yn dal mewn grym am Ddyffryn Dyfrdwy isaf, a rhybydd i baratoi am lifogydd yn ne Sir Benfro.
Fe wnaeth y gwyntoedd achosi difrod strwythurol yng nghanol Caernarfon a Bangor, ac yn y de-orllewin cafodd criwiau o ddiffoddwyr eu galw i nifer o drefi yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i ddelio gyda llechi a simneau oedd wedi disgyn o gartrefi.
Dywedodd cwmni Scottish Power eu bod yn gweithio i adfer y cyflenwad trydan i gartrefi a busnesau, a'u bod eisoes wedi ail-gysylltu 19,500 o gartrefi ers i'r storm daro.
Yn ôl llefarydd: "Y broblem fwyaf i'r rhwydwaith yw coed a gweddillion eraill yn cael eu chwythu ar y gwifrau gan achosi difrod a thynnu ceblau i lawr mewn rhai ardaloedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2013