'Mwy o law trwm a llifogydd'

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer o ddŵr ar y cledrau rhwng Cwmbach ac Aberaman ddydd Llun

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhybuddio y gallai rhagor o law trwm arwain at lifogydd mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru.

Roedd 17 rhybudd ynglŷn â'r posibilrwydd o lifogydd yn ystod y bore ar ddiwrnod ola'r flwyddyn ac un rhybudd mwy difrifol yn Nyffryn Dyfrdwy rhwng Llangollen a Threfalyn.

Mae manylion rhybuddion ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fore Mawrth: "Mae lefelau'r afonydd yn uwch nag arfer ond nid ydym yn disgwyl llifogydd mewn tai ar hyn o bryd.

"Yn sicr, mae lefel yr afon yn Farndon yn codi a'r disgwyl yw y bydd hyn yn parhau am y 24 awr nesaf.

"Mae lefel yr afon yn Manley Hall yn codi a'r disgwyl yw y bydd yn parhau am y chwe awr nesaf.

'Dros nos'

"Rydym yn rhagweld glaw trwm dros nos fydd yn achosi i afon godi rhagor ac yn ychwanegol i'r ardal a nodwyd efallai y bydd yna drafferthion llifogydd lleol oherwydd dŵr ar yr wyneb."

Mae'r A4042 yn Sir Fynwy yn parhau i fod ar gau oherwydd dŵr ar y ffordd ac mae un lôn wedi ei chau ar Bont Hafren M48 oherwydd gwyntoedd cryf rhwng cyffordd J1 a J2 lle mae cyfyngiad o 40 mya.

Mae trydan wedi cael ei adfer i gannoedd o dai gollodd gyflenwad oherwydd gwyntoedd cryfion ddydd Llun.

Roedd rhyw 900 o dai ym Mhenllŷn wedi cael eu heffeithio wedi i bolion trydan gael eu chwythu i lawr ond mae Scottish Power bellach wedi llwyddo i'w hatgyweirio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol