Tywydd garw'n parhau

  • Cyhoeddwyd
Dwr ar y cledrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaeth bws yn cludo teithwyr rhwng Cwmbach ac Aberaman oherwydd fod dŵr ar y cledrau

Mae'r tywydd garw yn parhau i achosi trafferthion ledled Cymru wrth i wyntoedd cryfion a glaw trwm achosi llifogydd ac effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae 23 rhagrybudd mewn grym gan Swyddfa'r Amgylchedd, dolen allanol sy'n gofyn i bobl fod yn wyliadwrus gan fod posibiliad y gallai lifogydd effeithio ar eu hardal nhw.

Mae dau rhybudd fwy difrifol ar gyfer Tywi, Abergwili a Dyffryn Dyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a Threfalun gyda'r Swyddfa Dywydd yn dweud fod llifogydd yno'n "debygol o waethygu" ac y gallai nifer o dai gael eu heffeithio.

Yn ogystal mae tri o bobl wedi gorfod cael cymorth gan y gwasanaethau brys wedi i ddŵr uchel olygu eu bod nhw - a'u ci - yn sownd mewn car yn Sir Fynwy.

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu cludo i ffwrdd ac maen nhw bellach yn ddiogel.

Ymestyn rhybudd melyn

Mae rhybudd melyn Swyddfa Dywydd, dolen allanol wedi cael ei ymestyn tan 6pm ddydd Llun gan fod disgwyl i wynt o'r de droi tua'r gorllewin gan effeithio ar ardaloedd arfordirol a mynyddig.

Golygai'r rhybudd bod angen i'r cyhoedd fod yn ofalus oherwydd "y potensial ar gyfer amodau gyrru anodd, ac aflonyddwch".

Mae'r ardaloedd sy'n cael eu cynnwys o fewn y rhybudd yn cynnwys Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Yn gynharach yn y dydd fe wnaeth mesuryddion gofnodi gwynt o bron i 80 milltir yr awr yng Nghapel Curig Eryri.

Fe aeth rhyw 600 o dai heb drydan yn ystod y bore yn Sir Gâr yn ystod y bore ond roedd disgwyl i'r cyflenwad wedi cael ei adfer erbyn amser cinio.

Cafodd nifer o dai eu heffeithio gan lifogydd yn Aberhonddu, Llanbedr Pont Steffan, Llanberis, Caergybi a'r Rhondda ac fe gafodd diffoddwyr eu galw am fod llifogydd yn Nhafarn Cwmann ger Llambed.

Ffyrdd dan ddŵr

Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd: Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y dylai pobl fod yn wyliadwrus

Mae'r gwynt a'r glaw hefyd wedi effeithio ar nifer o ffyrdd ledled y wlad.

  • Mae adroddiadau fod llifogydd ar yr A494 rhwng Dolgellau a Brithdir;

  • Yng Ngheredigion roedd yr A475 wedi ei rhwystro'n rhannol am gyfnod oherwydd coeden wedi cwympo rhwng y B4458 (Rhydowen) a'r B4337 (Llanwnnen);

  • Cafodd yr A484 ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod ger Henllan yn Sir Caerfyrddin am fod coeden wedi cwympo ar y ffordd;

  • A chafodd yr A487 ei chau i'r ddau gyfeiriad yn Sir Benfro oherwydd yr un broblem rhwng y B4331 (Mathri) a'r B4330 (Croes-Goch);

  • Un lôn oedd ar agor ar yr A477 rhwng San Clêr a Llanddowror oherwydd llifogydd;

  • Roedd llifogydd ar yr A470 yn Libanus ger Aberhonddu ac yn Llanfaes;

  • Cafodd diffoddwyr eu galw am fod llifogydd ar Heol y Rhigos ger Aberdâr a gyrrwr mewn trafferth;

  • Yn Sir Fynwy roedd yr A465 ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd bod coeden wedi cwympo rhwng Y Pandy a'r B4347 (Pontrilas);

  • Roedd hen Bont Hafren yr M48 ar gau am gyfnod ac roedd cyfyngiadau ar Bont Llansawel ger Castell-nedd oherwydd gwyntoedd cryf.

Trenau'n cael eu heffeithio

Cafodd nifer o wasanaethau trên eu heffeithio gan y tywydd, gan gynnwys:

Roedd 20 munud o oedi ar drenau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog am fod llifogydd yn Llanrwst.

Mae gwasanaeth bws yn cludo teithwyr rhwng Cwmbach ac Aberaman oherwydd bod dŵr ar y cledrau.

Doedd dim trenau rhwng Fernhill ac Aberdâr oherwydd llifogydd na chwaith rhwng Pontypridd a Threherbert ac ym Maerdy yn y Rhondda Fach roedd diffoddwyr yn pwmpio dŵr o ychydig o dai.

Bydd tywydd ansefydlog weddill yr wythnos hon wrth i wasgedd isel i'r gogledd-orllewin arwain at fwy o law dros y dyddiau nesa'.

Mae'r ffaith bod y tir eisoes yn wlyb wedi iddi lawio'n ddiweddar yn gwneud llifogydd yn fwy tebygol.

Mae Swyddfa'r Met yn disgwyl mwy o law ar Ddiwrnod Calan gyda de Cymru'n debygol o wynebu trochfa, gyda rhai ardaloedd yn gweld 40mm o law yn disgyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol