Ymosod ar lofrudd April Jones yn y carchar

  • Cyhoeddwyd
Mark BridgerFfynhonnell y llun, Police
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Mark Bridger gael pwythau yn yr ysbyty wedi'r ymosodiad ddydd Sul

Mae Mark Bridger, a gafwyd yn euog o lofruddio April Jones, wedi gorfod cael triniaeth ysbyty wedi i un o'i gyd-garcharorion ymosod arno.

Cafodd y dyn 47 oed ei gludo i'r ysbyty o garchar Wakefield wedi'r ymosodiad ddydd Sul.

Bu'n rhaid iddo gael pwythau ar ol i un o'r carcharorion eraill greu math o arf miniog a thorri gwddf Bridger wrth iddo gerdded ar hyd coridor.

Cafodd Bridger ei garcharu am oes ym mis Mai ar ôl i lys ei gael yn euog o gipio a llofruffio April Jones o Fachynlleth.

Cadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod carcharor wedi cael ei gludo i'r ysbyty a bod yr heddlu yn ymchwilio.

Diflannodd April wrth iddi chwarae ger ei chartre' ym Machynlleth fis Hydref y llynedd, gan arwain at un o'r ymdrechion chwilio mwyaf yn hanes plismona yn y DU.

Ond er bod arbenigwyr a swyddogion o 46 o heddluoedd, ynghyd â channoedd o aelodau o'r cyhoedd wedi chwilio mewn 650 o ardaloedd ger y dref, dyw ei chorff byth wedi cael ei ddarganfod.

Bydd Bridger yn treulio gweddill ei oes dan glo ar ôl i reithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug benderfynu'n unfrydol ei fod yn euog o lofruddio April oherwydd cymhelliad rhywiol.

Roedd o wedi honni iddo yrru dros y ferch yn ddamweiniol gyda'i gar ac nad oedd yn cofio ble'r oedd wedi gadael ei chorff.