Teyrngedau gan ACau ar lawr y Senedd i Carl Sargeant
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Cynulliad yn rhoi teyrngedau i Carl Sargeant wrth i'r gwleidyddion ailymgynnull ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.
Cafwyd hyd i gorff Mr Sargeant yn ei gartref, bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet gan Carwyn Jones am ei fod yn wynebu honiadau o ymddwyn yn amhriodol gyda menywod. Roedd yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Clywodd cwest ddydd Llun mai crogi oedd achos ei farwolaeth, yn ôl dyfarniad cychwynnol gan y crwner.
Mae'r prif weinidog wedi addo ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo fel ysgrifennydd cymunedau, a'i wahardd o'r Blaid Lafur.
Dechreuodd y cyfarfod llawn yn y Cynulliad awr yn gynharach na'r arfer ddydd Mawrth, er mwyn i aelodau allu rhoi teyrngedau i AC Alun a Glannau Dyfrdwy.
Wedi'r teyrngedau, bydd 'na gwestiynau i'r prif weinidog.
Mae Mr Jones wedi cael ei feirniadu gan aelodau o deulu Mr Sargeant ynglŷn â'r ffordd y gwnaeth e ddelio gyda'r honiadau yn ei erbyn.
Yn ogystal, mae'r cyn-weinidog Leighton Andrews a Steve Jones, fu'n ymgynghorydd i'r prif weinidog, wedi dweud eu bod nhw wedi gweld "awyrgylch wenwynig" o fwlio tra roedden nhw yn y llywodraeth.
Mae'r ddau yn honni bod rhai ymgynghorwyr wedi ceisio tanseilio Mr Sargeant.
'Prif weinidog llwyddiannus'
Dydd Llun, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford nad oedd e'n "cydnabod" honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.
Gan roi ei gefnogaeth yn llawn i'r prif weinidog, dywedodd: "Mae'r ddau [Leighton Andrews a Steve Jones] yn honni bod rhai ymgynghorwyr wedi ceisio tanseilio Mr Sargeant.
"Dwi'n meddwl ei fod e wedi wynebu wythnos ryfeddol o anodd yn bersonol. Dwi'n credu ei fod yn gwneud ei orau glas i ymateb yn onest i'r pryderon sy'n cael eu codi.
"Dydw i ddim yn credu bod codi cwestiynau am ddyfodol [Carwyn Jones] yn helpu o gwbl i ddatrys rhai o'r materion ry'n ni wedi'u trafod.
"Mae e wedi bod yn brif weinidog llwyddiannus iawn a tra'i fod e'n fodlon cario 'mlaen a dal y pwysau personol sylweddol iawn mae hyn yn ei roi arno, yna yn sicr fe fydd ganddo fy nghefnogaeth lawn."
Ddydd Mawrth cafodd y sylwadau hynny eu hategu gan gyn-Gwnsel Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw.
"Dwi'n 'nabod llawer o'r unigolion sydd wedi eu crybwyll a dyw'r mater yma erioed wedi cael ei godi gyda fi. Felly dyw e ddim yn rhywbeth dwi'n ei adnabod," meddai AC Pontypridd.
Ar y Post Cyntaf fore Mawrth, dywedodd AC Plaid Cymru, a chyn-ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru, Simon Thomas, ei fod "wedi synnu i glywed rhai o'r pethau sydd wedi cael eu dweud am y diwylliant o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru ond yn benodol tu fewn i'r Blaid Lafur".
Ychwanegodd: "Does gen i ddim lle i amau'r bobl sydd wedi dweud y pethau hyn - yn eu plith y cyn-weinidog Leighton Andrews - ond os felly mae wedi cael ei gadw tu mewn i deulu Llafur.
"Yn sicr doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r math yma o ymddygiad y tu fewn i'w llywodraeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2017