Epsie Thompson yw enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel
- Cyhoeddwyd
Epsie Thompson ffliwtydd o Lanelli yw enillydd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2018.
Roedd yna chwech o enwau ar y rhestr fer gyda'r noson eleni yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Llandrindod ym Mhowys.
Mae'r enillydd hefyd yn cael gwobr o £4,000 i'w ddefnyddio er mwyn datblygu eu talent i'r dyfodol.
"Dwi methu credu fy mod wedi ennill yr Ysgoloriaeth hon, dwi'n credu wnaiff gymryd rai dyddiau i mi sylweddoli taw nid breuddwyd ydyw," meddai ar ôl y cyhoeddiad.
"Bydd y wobr yma yn gymorth mawr i mi gyda'm costau astudio yn Llundain gan fy mod yn awyddus iawn i sicrhau fy mod yn cymryd bob cyfle i ennyn profiadau yn y maes.
"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'm teulu am bob cefnogaeth, ac i'r holl athrawon a thiwtoriaid cerdd sydd wedi fy helpu dros y blynyddoedd."
Derbyniodd Epsie ei haddysg yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli ac yna Coleg Cerdd Chethams ym Manceinion.
Mae hi nawr yn astudio cwrs ôl-radd mewn cerddoriaeth yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Yn gynharach eleni fe wnaeth hi gipio'r wobr gyntaf i offerynwyr o dan 30 oed yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Ei uchelgais yw chwarae'r ffliwt yn broffesiynol mewn cerddorfa.
Dywedodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: "Profwyd unwaith eto heno, fel y gwnaethpwyd yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ym mis Mai, bod cyfoeth anhygoel o dalent gennym ymysg Cymry ifanc ein gwlad.
"Rydym yn falch iawn fel mudiad ein bod yn gallu darparu llwyfan genedlaethol ar eu cyfer."
Y pump arall oedd yn cystadlu yn Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel oedd:
Glain Rhys - Aelwyd Penllyn, Rhanbarth Meirionnydd
Celyn Cartwright - Canolfan Berfformio Cymru, Rhanbarth Caerdydd a'r Fro
Emyr Lloyd Jones - Aelod unigol Cylch Arfon, Rhanbarth Eryri
Elwyn Siôn Williams - Ysgol Gyfun Glantaf, Rhanbarth Caerdydd a'r Fro
Jodi Bird - Aelod o du allan i Gymru
Cafodd yr ysgoloriaeth ei dyfarnu am y tro cyntaf nôl yn 1999.
Yr enillydd cyntaf oed Mirain Haf sy'n wyneb cyfarwydd fel aelod o'r band 9Bach.
Cedron Siôn o Borthmadog oedd enillydd y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017