Costau uwch yn peryglu dyfodol papur bro Y Pentan

  • Cyhoeddwyd
Y Pentan

Mae pryder am ddyfodol papur bro Dyffryn Conwy a'r Glannau oherwydd "cynnydd sylweddol mewn costau argraffu".

Mae Y Pentan yn gwasanaethu ardal o Lanrwst yn y de i Landudno yn y gogledd, ac o Lanfairfechan yn y gorllewin i Hen Golwyn yn y dwyrain.

Mae tudalen flaen rhifyn Ebrill yn nodi na fydd hi, efallai, yn bosib i'r papur barhau ar ôl diwedd y flwyddyn oherwydd "cynnydd sylweddol" mewn costau.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd cadeirydd y papur, Emyr Jones, nad yw'n gweld bai ar wasg Carreg Gwalch ond "mae'r papur yn wynebu cynnydd o dros £400 y rhifyn mewn prisiau argraffu - sef £5,000 y flwyddyn".

Dywedodd Myrddin ap Dafydd ar ran Gwasg Carreg Gwalch bod y wasg wedi gorfod newid peiriannau dan amgylchiadau anodd.

'Angen gwaed iau'

"Mae nifer o fanteision i'r datblygiadau ond mae swm o'r fath yn anghynaladwy", meddai Emyr Jones.

"Mae modd i'r papur bara tan ddiwedd Rhagfyr trwy ddefnyddio'r arian sydd wrth gefn ond allwn ni ddim parhau ar ôl hynny."

Ychwanegodd Mr Jones mai dyma'r hoelen olaf yn yr arch i'r papur gan fod yna bryderon eisoes am gael "gwaed newydd i olynu'r rhai sydd wedi bod yn cynnal y papur - nifer ohonynt o'r cychwyn".

"Yn ein cyfarfod blynyddol, roedd yna ddau yn eu 60au a'r gweddill ohonom yn ein 70au.

"Rydyn ni wir angen pobl ieuengach i ysgwyddo'r baich - efallai wir y bydd modd sefydlu rhywbeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ond does 'na ddim lawer o ddiddordeb".

Roedd Emyr Jones hefyd yn awyddus i bwysleisio bod gwaith gwasg Carreg Gwalch ar hyd yr amser wedi bod yn wych gan mai yno mae'r gwaith yn cael ei gysodi ac mae nifer o gyfranwyr yn anfon deunydd yn uniongyrchol at y wasg.

"'Da ni ddim yn gweld bai ar y wasg o gwbl - maen nhw wedi bod yn wych gydol yr amser. Dydy o ddim yn bapur hawdd i'w gael at ei gilydd gan ei fod yn ymestyn dros ardal eang.

"'Da ni'n deall yn iawn fod yn rhaid i'r wasg newid y peirannau ond allwn ni ddim ymdopi â chostau o'r fath."

'Dygymod â chwyldro argraffu'

Ar ran Gwasg Carreg Gwalch, dywedodd Myrddin ap Dafydd mewn datganiad yn y papur bro: "Mae'r wasg wedi gorfod wynebu costau newid peiriannau dan amgylchiadau anodd.

"Yn fwy na hynny, mae'n gorfod dygymod â chwyldro argraffu arall - troi at argraffu digidol."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Myrddin ap Dafydd yn dweud bod Bwrdd y Pentan wedi gwneud cyfraniad anferth, nid yn unig i ardal Dyffryn Conwy ond i'r Gymraeg ac i Gymru

Ychwanegodd: "Y newydd da yw y bydd pob tudalen o'r Pentan yn lliw llawn o Fehefin tan Nadolig, ac y bydd y peiriannau newydd yn ei hel a'i blygu yn ogystal.

"Felly ni fydd angen trefnu nosweithiau arbennig i wneud hynny. Mae hyn yn cael ei gyflawni am chwarter y pris y byddai hynny yn ei gostio ar yr hen beiriannau."

Yn ogystal rhoddodd deyrnged i fwrdd presennol y Pentan, gan fynegi gobaith y daw eraill i gydio yn yr awenau.

"Fel yn hanes pob un o'r papurau bro mae Bwrdd y Pentan wedi gwneud cyfraniad anferth, nid yn unig i'r ardal hon ond i'r Gymraeg ac i Gymru."

"Mae amryw o'r aelodau wedi bod wrthi ers deugain mlynedd, sy'n ymroddiad arwrol."