Edrych yn ôl ar y byd chwaraeon yng Nghymru eleni
- Cyhoeddwyd
"We've punched massively above our weight" - Warren Gatland, Hydref 2019.
Sôn oedd cyn-hyfforddwr Cymru am lwyddiant ei dîm yng Nghwpan y Byd yn cyrraedd y pedwar ola'.
Ond mae ystyr ehangach i'w eiriau i genedl o ychydig dros dair miliwn sydd unwaith eto eleni wedi cystadlu ac wedi llwyddo ar y llwyfan rhyngwladol.
Fis Chwefror cafwyd gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Ffrainc. Cymru ar ei hôl hi o 16-0 ar yr hanner yn y glaw mawr ym Mharis a theimlad o pathetic fallacy.
Dilyw wedi 12 mlynedd wrth y llyw i Warren? Na, fe frwydrodd y Cymry yn eu holau a'r fuddugoliaeth o 24-19 yn gatalydd i drydedd bencampwriaeth i Gatland.
Cafwyd rhediad diguro o 14 gêm ddaeth yn record ac fe aeth â'i wŷr i rif un y byd - anrhydedd na chafwyd o'r blaen i'r Cymry.
Cipio Cwpan y Byd oedd y nôd wrth i'r gŵr o Seland Newydd baratoi i'w throi hi am adre ond doedd hi ddim i fod yn Japan fis Tachwedd.
Boddi wrth ymyl y lan yn erbyn De Affrica a thri phwynt yn unig ynddi. Y cewri mewn coch yn crïo wrth feddwl am beth allai fod wedi bod a cholled yn erbyn y Crysau Duon yn eu gadael yn bedwerydd.
Ond i gapten Cymru, Alun Wyn Jones, roedd 'na garreg filltir bersonol - fe bellach sydd â'r nifer fwya o gapiau dros Gymru o fewn y byd rygbi - ac ar lefel rhyngwladol mae e'n ail yn unig i gyn-gapten Seland Newydd, Richie McCaw.
Yn 2020 does bosib y bydd y bytholwyrdd Alun Wyn yn gosod record newydd?
Hir yw pob aros... weithiau
Roedd yn rhaid i gefnogwyr y bêl gron aros am 58 o flynyddoedd i gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau - ond bedair blynedd wedi i Chris Coleman greu hanes a mynd â'i garfan i Ffrainc, fe ddilynodd Ryan Giggs yn ôl ei draed gan arwain ei dîm i Euro 2020.
Gyda thriphwynt yn unig o'u tair gêm gynta', roedd hi'n edrych yn dywyll ar adegau.
Ond wedi gêm gyfartal yn erbyn Croatia a buddugoliaeth yn erbyn Azerbaijan ac yna Hwngari mae Baku a Rhufain yn galw yr haf nesa'.
Byrhoedlog oedd cyfnod yr Adar Gleision yn ôl yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Tymor yn unig gafodd Caerdydd yn ôl yn y brif adran. Oddi ar y cae roedd hi hefyd yn anodd.
Fe adawodd Emiliano Sala glwb Nantes fis Ionawr wedi gwireddu breuddwyd plentyndod - i gael chwarae yn un o gynghreiriau gorau'r byd - chafodd e ddim o'r cyfle i gicio'r un bêl wedi damwain awyren drasig.
A nawr wedi blwyddyn gythryblus i'r Adar Gleision mae Warnock bellach wedi gadael y nyth a Neil arall - Harris - wedi ei olynu.
Dafydd yn erbyn Goliath oedd hi i Gasnewydd unwaith eto yng Nghwpan FA Lloegr.
Mae'r gystadleuaeth yn dod â'r gorau allan o ŵyr Mike Flynn - yn llorio Caerlŷr yna Middlesbrough cyn croesawu un o gewri'r gynghrair, gŵyr Pep, Manchester City i faes Rodney Parade.
Daeth yr hud i ben yn y pumed rownd - ond roedd y coffrau yn llawn - ac eleni eto maen nhw eisoes yn y drydedd rownd ac yn gobeithio am fwy.
Yr unigolion
Mae 2019 i rai wedi bod yn flwyddyn o gyrraedd carreg filltir bersonol.
Y chwaraewraig hoci Leah Wilkinson sydd â'r nifer fwya' o gapiau dros Gymru mewn unrhyw gamp erbyn hyn ac wedi 15 mlynedd o aros mae wedi ei galw i garfan Prydain â'i bryd ar fynd i'r Gemau Olympaidd yn Tokyo yr haf nesa'.
A hithau eisoes wedi sefyll ar frig y podiwm Olympaidd ddwywaith ma' hi'n hawdd meddwl bod Jade Jones o'r Fflint wedi ennill popeth posibl o fewn y byd Taekwando.
Ond fe ddaeth llwyddiant newydd i'w rhan yn 2019 - ei theitl byd cyntaf.
Wyth mlynedd ers cipio'r arian yn y gystadleuaeth, eleni roedd hi ar ben y byd.
Ym mhencampwriaethau para-athletau'r byd yn Dubai fis Tachwedd roedd y Cymry unwaith eto yn disgleirio.
Roedd 'na bedwerydd teitl o'r bron i Hollie Arnold wrth daflu'r waywffon ac i Sabriana Fortune roedd 'na deitl cynta' yn taflu'r pwysau.
Ac yna ar lethr, roedd Menna Fitpatrick ar wib. Ynghyd â'i thywysydd Jennifer Kehoe roedd 'na bum medal i gyd yn dychwelyd i Gymru o bencampwriaethau para-alpaidd y byd gan gynnwys dwy fedal aur.
Mae'r rhestr yn ddiddiwedd a'r nod i bawb sydd wedi cyrraedd carreg filltir bersonol dros y 12 mis diwetha' fydd adeiladu ar hynny yn 2020 gan sicrhau bod Cymru yn parhau i gyflawni'n well na'r disgwyl am flynyddoedd i ddod.