Canolfan sŵ Borth i gau 'yn syth' am gyfnod

  • Cyhoeddwyd
Wild Animal Kingdom

Bydd canolfan Wild Animal Kingdom Borth yng Ngheredigion yn cau "yn syth" o achos diffyg mewn trefniadau cadw drylliau.

Yn gynharach eleni fe ddywedodd Cyngor Ceredigion fod yn rhaid cael un aelod o dîm tanio drylliau yn gweithio ar y safle bob dydd rhag ofn i anifail ddianc.

Ym mis Ionawr fe gafodd y sŵ orchymyn i gau'r corlannau oedd yn gartref i'r anifeiliaid peryclaf ar y safle.

Mae sawl anifail wedi dianc o'r sŵ yn y gorffennol, gan gynnwys Lilleth y lyncs. Cafodd ei saethu'n farw ar ôl cael ei darganfod ar faes carafanau yn 2017.

Bu farw ail lyncs, Nilly, o ganlyniad i "gamgymeriad" wrth ymdrin â'r gath wyllt.

Ym mis Mawrth fe ddihangodd tri o'r ganolfan cyn cael eu darganfod a'u dychwelyd yn ddiogel.

Dywedodd datganiad ar wefan y ganolfan y byddai'r busnes yn "cau'n syth" am "yr wythnosau nesaf" tra roedd "addasiadau" yn cael eu gwneud ar y safle.

"Fe gawsom ychydig o drafferth i gydymffurfio gyda'r disgwyliadau drylliau eleni," meddai'r datganiad.

"Mae hyn wedi cael ei achosi i raddau gan newid personél ym mis Ionawr 2020, ac yna nid oedd staff newydd yn gallu cwblhau eu hyfforddiant wrth i'r lleiniau hyfforddi tanio gau, ynghyd â gweddill y byd am lawer o 2020."

Brwydr gyfreithiol

Ychwanegodd y datganiad fod hyn wedi arwain at "dorri un o'r amodau a roddwyd arnom gan y cyngor, ac fe wnaethant gyflwyno rhybudd cau arnom, y buom yn ei herio yn y llys ar 8 Medi".

"Fe allen nhw fod wedi ein cau ni i lawr yn llwyr, ond fe wnaethon ni lwyddo i ddod i gyfaddawd.

"Yn anffodus bydd yn rhaid ffarwelio â'n cathod am gyfnod byr. Bydd yn rhaid symud ein llewod, ein lyncs a'n serfal i gyfleusterau eraill yn ystod yr wythnosau nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Perchnogion Borth Wild Animal Kingdom ers 2016 - Tracy a Dean Tweedy,

Dywedodd y sŵ fod angen tri aelod o staff yn byw ar y safle "sydd wedi eu hyfforddi'n llawn yn y defnydd o arfau".

Nid yw'n eglur i ble fydd yr anifeiliaid yn cael eu symud am y tro.

Mae disgwyl i berchnogion y ganolfan ddarparu cynllun ailgartrefu a gofal i'r cyngor lleol o fewn 21 diwrnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion fod y sw wedi cynnig ildio'r rhan o'i drwydded sy'n caniatáu cadw anifeiliaid rheibus categori un.

"Mewn ymateb i'r cynnig yma, cytunodd Cyngor Sir Ceredigion i newid i'r drwydded i gau'r rhan yma o'r sw yn unig, sef llociau'r llewod, lyncs a serfal,"meddai.

"Mae cau'r rhan yma o'r sw'n golygu ni ellir cadw anifeiliaid categori un."