Ymddeoliad i'r ffotograffydd cyntaf yn Aberfan
- Cyhoeddwyd
Yn hydref 1966 roedd y ffotograffydd Ernie Husson ym mhentref Aberfan i wneud stori gyda phennaeth Ysgol Gynradd Pantglas.
Roedd rhieni wedi bod yn cwyno bod eu plant yn gorfod croesi "môr o slyri" oedd yn llifo o'r domen uwchlaw'r pentref ar y ffordd i'r ysgol.
O fewn wythnosau, ar 21 Hydref, roedd Mr Husson yno unwaith yn rhagor.
Roedd y llif bach o slyri wedi troi'n don enfawr gan daro'r ysgol.
Roedd Miss Jennings, y brifathrawes y bu'n ei holi, yn un o'r 144 fu farw.
I Mr Husson, sy'n ymddeol fel ffotograffydd a newyddiadurwr yn 76 oed, mae atgofion am Aberfan yn boenus o hyd.
"Fi oedd y ffotograffydd cyntaf i gyrraedd Aberfan," meddai.
"Ro'n i yna yn y 15 munud cyntaf gan mod i ond yn byw tair milltir i ffwrdd. Fe ges i alwad gan rhywun yn y swyddfa yn dweud bod to'r ysgol wedi dymchwel. Fy ymateb cyntaf oedd y byddai hynny'n gwneud llun da i dudalen flaen y South Wales Echo'."
Ond daeth difrifoldeb y digwyddiad yn glir i Mr Husson wrth iddo wneud y daith i'r pentref.
"Wrth i mi yrru tuag at Aberfan fe wnes i sylweddol bod rhywbeth mwy na llun tudalen flaen oherwydd faint o ambiwlansys oedd yn dod allan o Aberfan, a faint o gerbydau'r gwasanaethau brys oedd yn mynd i mewn."
Wedi dyddiau o law trwm, roedd tunelli o wastraff, pridd a slyri wedi taro'r ysgol am 09:15, ychydig wedi'r cynulliad boreol.
Erbyn 23:00 y noson honno, roedd Mr Husson yn dal yn Aberfan pan gyrhaeddodd y prif weinidog ar y pryd, Harold Wilson.
Dywedodd Mr Husson: "Edrych ar aelodau'r wasg a gwenu. Maen nhw'n dweud fy mod i wedi dweud 'dyw hyn ddim yn fater i chwerthin amdano syr' wrtho."
"Wedi i'r prif weinidog adael dywedodd fy ngolygydd wrthyf i fynd adre a gorffwys. Es i adre, ond o'n i'n methu cysgu ac fe wnes i godi am tua 06:30 a dychwelyd i Aberfan.
"Fe wnaeth rhywun gynnig paned o de i mi, ac fe glywais i ar y newyddion Cymreig am Aberfan... dyna pryd nes i dorri lawr.
"Ro'n i'n methu siarad am drychineb Aberfan am tua 20 mlynedd ar ôl hynny."
Gadawodd Mr Husson asiantaeth newyddion Thompson llai na dwy flynedd ar ôl Aberfan, gan symud i fyw yn Llandrindod, Powys.
Treuliodd dros 50 mlynedd wedi hynny fel ffotograffydd llawrydd i dri papur newydd lleol yn yr ardal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2016