Covid-19: Pum marwolaeth a 764 achos newydd
- Cyhoeddwyd
Mae 764 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cofnodi yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cofnodi pum marwolaeth newydd o fewn cyfnod yma.
O'r achosion newydd, roedd 110 yng Nghaerdydd, 100 yn Rhondda Cynon Taf, 55 yn Abertawe, 51 yn Sir y Fflint, 48 yn Wrecsam, 32 yn Nedd Port Talbot a 29 yr un yng Nghonwy a Phen-y-bont ar Ogwr.
Roedd 114 o achosion ymysg Cymry sydd yn byw tu hwnt i ffiniau'r wlad, gyda'r mwyafrif yn fyfyrwyr mewn ardaloedd eraill o'r DU.
Cafodd 11,645 o brofion eu cynnal dros y diwrnod aeth heibio.
Bellach, mae cyfanswm o 31,370 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru, ac mae 1,678 wedi marw.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer ymateb i Covid-19 gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Rydym wedi gweld cynnydd yn y trosglwyddiad o coronafeirws mewn clybiau cymdeithasol, a hoffem atgoffa'r cyhoedd bod y feirws yn lledaenu'n dda iawn mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
"Mae'n hanfodol bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn cadw at ganllawiau pellhau cymdeithasol - mae hynny'n golygu aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill, ac i olchi dwylo'n rheolaidd. Rhaid iddynt hefyd hunan-ynysu ar unwaith pan ofynnir iddynt wneud hynny."
Ychwanegodd: "Rydym yn ymwybodol o wybodaeth anghywir sy'n cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol sy'n awgrymu bod profion Covid-19 yn cynhyrchu canlyniad cadarnhaol ar gyfer firysau ffliw neu annwyd cyffredin.
"Mae hyn yn hollol anghywir. Mae'r prawf swab (PCR, antigen) ar gyfer Covid-19 wedi'i ddatblygu'n benodol i ganfod presenoldeb y feirws SARS-CoV-2 - a elwir hefyd yn Covid-19 - ac mae ganddo gyfradd gywirdeb o 99.91%.
"Byddem yn atgoffa pawb i sicrhau eu bod yn cael eu gwybodaeth gan sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, a GIG Cymru, ac i beidio â rhannu unrhyw beth o ffynonellau sydd heb eu gwirio."
GWYDDONIAETH: Y gwyddoniaeth tu ôl i COVID-19
ADRODDIAD ARBENNIG: Stori un pentref yn ystod y cyfnod clo
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020