Ymgais i adfer 'oes aur' pyllau nofio agored yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn haf llwyddiannus i'r unig bwll nofio agored yng Nghymru, mae ymgyrch ar droed i weld a oes modd ailagor rhagor ohonynt.
Roedd lidos yn arfer bod yn olygfa gyffredin ar draws Cymru, yn enwedig mewn trefi gwyliau poblogaidd, ond fe bylodd yr 'oes aur' hwnnw wrth i fwy o bobl fynd dramor am eu gwyliau.
Eleni fodd bynnag fe gafodd Lido Pontypridd - yr unig un sydd ar ôl - eu haf prysuraf erioed, ac mae ymgyrchwyr yn Y Fenni nawr yn gobeithio efelychu'r poblogrwydd hwnnw.
Bwriad Grŵp Lido'r Fenni yw codi digon o arian i adeiladu un newydd yn y dref, a hynny er mwyn manteisio ar y "brwdfrydedd sylweddol" ar gyfer pyllau nofio awyr agored.
Apêl yr awyr agored
Ar un adeg roedd dros 57 o byllau nofio agored yng Nghymru, ond bellach dim ond yr un ym Mhontypridd sydd dal ar agor, a hynny ar ôl ailwampiad gwerth £6.3m yn 2015.
Bu'n rhaid i'r lle gau yn ystod Covid, ond ar ôl ailagor mae rheolwr y safle, Brent Bennett, yn dweud ei fod wedi bod yn "hynod boblogaidd".
"Fe gawson ni tua 75,000 o ymwelwyr yn 2018, oedd yn flwyddyn eitha' poeth a braf, a nawr 'dyn ni ar dros 92,000," meddai.
"Rydyn ni wedi gwneud ein sesiynau'n fyrrach er mwyn caniatáu i fwy o bobl gael cyfle fel nad ydyn nhw'n cael eu siomi.
"Mae pobl wedi bod tu mewn mor hir, pan chi'n agor y drysau... mae'n boblogaidd."
Dywedodd Mr Bennett ei fod yn teimlo fod pobl wedi dechrau troi at fwy o ymarfer corff yn yr awyr agored yn barod, hyd yn oed cyn y pandemig.
"Mae'n gallu bod yn oer iawn, ond tu ôl i'r waliau 'dych chi'n gallu bod unrhyw le yn y byd," meddai.
"Os 'dych chi'n edrych i fyny ar y mynyddoedd a'r gwyrddni, gallwch chi fod unrhyw le, mae'n wych."
Lle arall?
Mae grŵp yn Y Fenni nawr yn cynnal astudiaeth dichonoldeb i weld a fyddai modd gwireddu'r prosiect - y cam cyntaf tuag at agor lido.
Fe agorodd lido gwreiddiol y dref yn 1938, gan gau yn 1996 a chael ei ddymchwel ddegawd yn ddiweddarach.
Byddai'r un newydd yn cael ei adeiladu ar safle'r hen un ym Mharc Bailey, gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy i'w bweru.
Dywedodd cadeirydd y grŵp, George Foster fod gan "lawer o bobl" atgofion da o'r lle, a bod diddordeb mewn nofio awyr agored wedi cynyddu'n sylweddol ers y cyfnodau clo.
Gallai fod yn ased go iawn i'r dref, yn atyniad twristaidd gwych a rhywbeth i fod yn falch ohono," meddai.
"Mae angen hwb ar y dref, fel unrhyw dref ar ôl y pandemig, ac mae hwn yn rhywbeth 'dyn ni'n teimlo y byddai llawer o bobl yn parhau i gefnogi."
Mae Cyngor Sir Fynwy, sydd berchen y tir, wedi rhoi caniatâd i'r grŵp geisio codi arian ar gyfer y cynllun.
Ond maen nhw'n dweud na allen nhw gynnig cymorth ariannol ychwanegol, gydag amcangyfrif y gallai ailadeiladu'r pwll gostio tua £7m.
Galw cymunedol
Yn ôl Dr Daryl Leeworthy, hanesydd ym Mhrifysgol Abertawe, mae lidos wedi dod i mewn ac allan o ffasiwn sawl gwaith yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Ond unwaith y daeth gwyliau tramor yn fwy fforddiadwy, doedd gan gwyliau yng Nghymru oer a gwlyb "ddim mo'r un apêl".
Yng ngogledd Cymru, meddai, roedd llawer o'r pyllau yn atyniadau ychwanegol i drefi glan môr.
Ond yng nghymoedd y de, y bwriad oedd darparu cyfleuster ar gyfer pobl yr ardaloedd hynny, yn aml wedi'i ariannu o gronfeydd lles glowyr.
"Felly roedd pyllau nofio a pharciau hamdden yn cael eu hadeiladu'n bennaf oherwydd galw gan y cymunedau eu hunain," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2021
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020