Angen 'economi bren' i gyrraedd targedau net sero

  • Cyhoeddwyd
gweithiwr

Mae angen cynhyrchu mwy o bren ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru er mwyn torri allyriadau carbon, medd arbenigwyr yn y diwydiant.

Maen nhw am i Gymru ddatblygu "economi bren" ei hun gan arwain at greu swyddi mewn ardaloedd gwledig a mwy o gartrefi gwyrdd.

Ar hyn o bryd, mae'r DU yn mewnforio tua 80% o bren - dim ond China sy'n mewnforio mwy.

Dim ond 15% o arwynebedd tir Cymru sy'n goetir - o gymharu â chyfartaledd Ewropeaidd o tua 46%.

4% o bren o Gymru i adeiladu

Mae gweithgynhyrchwyr pren fel Castleoak yn Nglynebwy yn dweud eu bod yn sicrhau bod eu pren yn dod o ffynonellau cynaliadwy. Ond mae'r cyfan yn dod o Ewrop.

Mae'n "hynod rwystredig" yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Andrew Duggan.

Dim ond 4% o bren Cymreig wedi'i gynaeafu sy'n cael ei brosesu ar gyfer adeiladu.

"Mae yna bren yn cael ei dyfu yng Nghymru ar hyn o bryd, ond yn aml mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchion o ansawdd isel; pyst ffensys, deciau... a dyw e ddim yn cyrraedd gradd dderbyniol ar gyfer adeiladu," meddai.

Ychwanegodd fod datblygu economi bren yng Nghymru yn rhywbeth amlwg i'w wneud.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Duggan eisiau i Gymru dyfu mwy o goed i greu cyflenwad lleol o bren

"Mae cael ffynhonnell gynaliadwy o'r ansawdd cywir ar garreg ein drws yn gyfle enfawr ac yn rhywbeth y byddem ni yn Castleoak yn elwa ohono.

"Ond ar ben hynny, mae pren yn nwydd byd-eang. Mae gan Gymru gyfle i allforio'r hyn rydyn ni'n ei dyfu ar ôl i ni edrych ar ôl ein hunain.

"Er mwyn datrys y broblem rwy'n credu bod yn rhaid meddwl am y tymor hir. Y gwir amdani yw bod coed yn cymryd amser hir i dyfu.

"Os ydyn ni'n gallu datrys hyn heddiw bydd fy wyrion, mwy na thebyg, yn elwa o hynny."

Yn ystod eu cylch bywyd mae coed yn amsugno carbon o'r atmosffer ac yn helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd - mae defnyddio pren fel deunydd adeiladu yn cloi'r carbon.

Awgrymodd astudiaeth yn 2019 gan Brifysgol Bangor ar ran y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd y gallai defnyddio cynhyrchion pren yn hytrach na gwaith maen arwain at ostyngiad o 20% mewn allyriadau a chynnydd o 50% yn y carbon sy'n cael ei storio.

Dywedodd Dr Morwenna Spear, un o awduron yr adroddiad fod lleihau allyriadau o fewn y diwydiant adeiladu yn heriol.

"Mae ffigyrau diweddaraf Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU yn awgrymu fod cyfwerth o oddeutu 45 mega tunnell o garbon deuocsid yn gysylltiedig ag adeiladu.

"Dim ond 25% o hynny sy'n ymwneud â thai, mae'r gweddill yn isadeiledd ac adeiladau diwydiannol fel ffatrïoedd ac ati.

"Ac mae angen i bob un o'r rheini ddatgarboneiddio erbyn 2050."

Mae Woodknowledge Wales yn dwyn ynghyd pob rhan o'r broses gweithgynhyrchu coed, er mwyn galluogi defnydd pellach o bren yn y diwydiant tai.

Mae'r Prif Weithredwr, Gary Newman, eisiau dyblu y tir coedwigol yma a hoffai weld Cymru'n dod yn 'genedl goedwigol'.

"Mae Cymru wedi'i datgoedwigo yn y bôn, dim ond traean o'r cyfartaledd Ewropeaidd sy'n goedwig," meddai.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr yn galw am fwy o goedwigoedd yng Nghymru

"Mae gennym ni ddigon o dir, tir o ansawdd isel a gwerth isel nad yw'n tyfu cynnyrch o werth uchel - byddai plannu coedwigoedd arno yn rhywbeth addas i'w wneud," ychwanegodd.

Er mwyn cyflawni targedau hinsawdd fel net-sero "mae'n rhaid i ni adeiladu gyda phren mewn gwirionedd," ychwanegodd.

Mae Mr Newman yn awgrymu y bydd angen mwy o sgiliau i alluogi twf yr economi bren ynghyd â chefnogaeth ariannol cyhoeddus a phreifat.

Tra bod gan rai diwydiannau mwy sefydledig ffrwd gyson o fuddsoddiad, mae'r diwydiant coed "o hyd yn dameidiog iawn", meddai.

Byddai defnyddio pren sydd wedi ei dyfu'n lleol o fudd i'r amgylchedd ond byddai'n gostwng costau hefyd.

Mae costau pren sy'n cael ei fewnforio wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar - prosiectau adeiladu ar ôl y cyfnod clo ac effeithiau newid hinsawdd sy'n cael y bai.

'Deunydd iach iawn'

Gall pobl sy'n byw mewn cartrefi sydd wedi'u hadeiladu o bren elwa hefyd, yn ôl pennaeth cynaliadwyedd ac arloesedd grŵp tai, Pobl.

"Y tu hwnt i fanteision amlwg byw mewn cartref carbon is… mae pren yn ddeunydd iach iawn ac yn ddeunydd naturiol," meddai Elfed Roberts.

"Mae deunydd inswleiddio ffibr pren, er enghraifft, yn ddeunydd cwbl naturiol, nid oes unrhyw brosesau cemegol yn gysylltiedig â'i weithgynhyrchu."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Elfed Roberts mae tai pren yn cynnig llawer o fanteision

"Mae'r deunyddiau hynny, deunyddiau naturiol yn dda iawn i'n hiechyd a'n lles," ychwanega Mr Roberts.

"Mae llawer wedi'i ddweud am ansawdd yr aer y tu allan… ond mae llawer mwy o'n hamser yn cael ei dreulio y tu mewn i'r tŷ.

"Felly, mae cael ansawdd aer mewnol da trwy ddefnyddio deunyddiau naturiol yn bwysig iawn, a chredaf y bydd ein cwsmeriaid yn dod i sylweddoli hynny, wrth i ni adeiladu mwy a mwy."

Pynciau cysylltiedig