'Ofni colli gofal' yn sgil gohirio yn ystod Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Jenna KearnsFfynhonnell y llun, Jenna Kearns
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gofal Jenna Kearns ei ohirio am ddeufis oherwydd y pandemig

Dywed menyw ei bod hi'n byw mewn ofn parhaus y bydd ei gofal yn cael ei atal eto wedi iddi fynd heb gymorth am ddeufis yn ystod y pandemig.

Arferai gofalwr ymweld â Jenna Kearns o Gasnewydd bedair gwaith y dydd oherwydd ei harthritis gwynegol.

Ond fe gafodd yr ymweliadau eu hatal yn sgil problemau staffio.

Nid Ms Kearns oedd yr unig un - dywed astudiaeth newydd fod 40% o'r bobl yng Nghymru sydd angen gofal cymdeithasol heb dderbyn gwasanaethau yn ystod y pandemig.

Cafodd ei gomisiynu gan Senedd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, gan gasglu profiadau ac agweddau dros 2,500 o bobl ddwy flynedd ers dechrau'r pandemig.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio i gynyddu capasti'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys ymgyrch recriwtio genedlaethol.

Fe wnaeth y cwmni preifat oedd yn darparu gofal Ms Kearns rhoi diwedd ar yr ymweliadau yn sgil problemau staffio.

Roedd y penderfyniad mor fyr rybudd fel nad oedd hi'n bosib i wasanaethau cymdeithasol drefnu gofal amgen, felly ni wnaeth Ms Kearns dderbyn gofal am tua deufis.

"Dwi'n cofio pan ddigwyddodd y peth. Y cyfan roeddwn i eisiau 'neud oedd gorwedd yn y gwely gan 'mod i mor drist," meddai.

'Fydd e'n digwydd eto?'

Mae'r adroddiad yn dangos mai prinder staff oedd y prif reswm aeth pobl heb ofal.

Yn ôl yr adroddiad, y prif resymau oedd:

  • Prinder staff (22%)

  • Ddim yn gymwys am gymorth (17%)

  • Balchder yn atal rhywun rhag gofyn am ofal (15%)

  • Proses ymgeisio rhy gymhleth (10%)

Roedd 33% o'r ymatebwyr yn anfodlon gyda gwasanaethau gofal, ond roedd ychydig dros 50% yn fodlon gyda'r cymorth i'w hunain neu i berthynas.

Ffynhonnell y llun, Jenna Kearns
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Kearns yn ofni colli ei gofal eto yn sgil y profiad

Dywedodd Ms Kearns: "Dwi ddim yn hoffi gofyn am gymorth, ac fe wnaeth y sefyllfa fy ngorfodi i wneud hynny achos mi oedd angen yr help arna i. Mewn ffordd mi wyt ti'n teimlo'n euog.

"Roeddwn i'n teimlo'n wael iawn amdanaf fi fy hun, achos roeddwn i'n meddwl, 'mae'n rhaid i fi ddibynnu ar bobl,' a doedd e ddim yn deg."

Fe wnaeth ei gofal ailgychwyn ar ôl deufis, ond dywed Ms Kearns bod y profiad yn pwyso'n drwm arni.

"Bob tro dwi'n clywed eu bod nhw'n cael problemau staffio dwi'n meddwl, 'yw e'n mynd i ddigwydd eto?'"

'Oriau hir, blinder a straen'

Dywedodd Jane Davies, sy'n rhedeg cwmni All Care yn Y Barri, bod trafferthion staffio gydol y pandemig wedi creu anawsterau.

"Wrth i bobl ddal Covid, cyn unrhyw frechiadau, roedd rhaid hunan-ynysu am wyth diwrnod dan y gyfraith," meddai.

"Roedden ni'n gofyn i deuluoedd helpu ond roedd y ffaith bod angen i staff hunan-ynysu am mor hir - roedd yn lleihau nifer eich prif weithwyr."

Ffynhonnell y llun, SPL

Ychwanegodd: "Drwy'r pandemig, roedd gyda ni broblem recriwtio. Doedd neb, am ba bynnag reswm, i'w weld eisiau ymuno â'r sector gofal cartref.

"Ble cynt roedd modd recriwtio'n eithaf hawdd, fe ddaeth yn broblem fawr ac roedd hynny'n wir, rwy'n credu, ar draws y sector.

"Fe wnaethon ni weithio oriau hir iawn, ac wrth i'r sefyllfa rygnu ymlaen - wnaethon ni ddim dychmygu y byddai'n rhygnu ymlaen mor hir - y canlyniad oedd gweithlu blinedig iawn."

Dywedodd Ms Davies bod y gweithwyr, er y fath flinder a phwysau, "wedi rhoi popeth", gan fod "angen angerdd i weithio yn y sector yma", a'r canlyniad maes o law oedd dirywiad yn eu hiechyd meddwl.

"Fe wnaethon ni fel rheolwyr, bron â bod, lunio gwasanaethau cwnsela ar gyfer ein staff ein hunain, gan eu cyfeirio ar ymgynghorwyr i'w helpu," meddai.

Ychwanegodd: "Fe wnaeth y straen a'r oriau hir adael eu hôl, ac fe adawodd rhai pobl o'r herwydd - pobl na fydden i fyth wedi disgwyl.

"Roedd yn drist ac yn anodd dygymod ag e, ond roedd rhaid canolbwyntio ar yr unigolion rheiny oedd eisoes ar ein llyfrau.

"Yn y diwydiant yna, eich greddf yw i helpu'r bobl hyn, ond os na allwch chi ddarparu'r gwasanaeth i bobl, mae'n well peidio trio.

"Rwy'n falch o bobl aelod o fy nhîm, maen nhw wedi bod yn wych a ni allwch ofyn am well."

Stigma

Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe wnaeth arwain yr ymchwil ar ran Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.

"Nid yn y pandemig y dechreuodd yr argyfwng yma, ond mae'n ymddangos bod y pandemig wirioneddol wedi gwaethygu'r argyfwng gofal cymdeithasol," meddai.

Dywedodd bod 86% o'r ymatebwyr yn teimlo bod angen diwygio system gofal cymdeithasol Cymru, ac yn ôl 94% fe ddylai bod yn flaenoriaeth i lywodraethau Cymru a'r DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae'n bwysig nawr bod y llywodraeth yng Nghymru, rheiny sy'n creu polisïau gofal cymdeithasol a darparwyr, wir yn ceisio deall a goresgyn y prif rwystrau hyn at sicrhau gofal cymdeithasol," meddai Dr Williams.

"Mater arall sydd angen sylw yw stigma - rhaid tynnu'r stigma o ofal cymdeithasol.

"Mae llawer o bobl yn dal yn teimlo eu bod nhw, neu aelod o'r teulu, heb ymgeisio neu ddim yn dymuno cael gofal cymdeithasol am eu bod yn 'rhy falch'... neu eisiau ymdopi ar eu pen eu hunain.

"Deillia rhan o hynny o'r darlun bod gofal cymdeithasol, efallai, yn rhywbeth i ofyn amdano os daw hi i'r pen... ond weithiau mae derbyn rhywun i'r system yn gynt wir yn gallu gwella ansawdd bywyd."

'Cynnal gwasanaethau safon uchel'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r holl sector gofal cymdeithasol wedi gweithio'n ddiflino drwy'r pandemig gan roi gwasanaethau hanfodol.

"Er gwaetha'r pwysau, mae awdurdodau lleol wedi cynnal gwasanaethau safon uchel i oedolion, plant a theuluoedd bregus .

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol i gynyddu capasti'r gweithlu gofal cymdeithasol gan gynnwys ymgyrch recriwtio genedlaethol sy'n ei gydnabod fel gyrfa werthfawr, broffesiynol, a threfnu trosglwyddo pobl yn amserol o'r ysbyty i'w cartrefi gyda chefnogaeth briodol yn ei lle."