Ydy perchnogion ail gartrefi yn dechrau gwerthu?

  • Cyhoeddwyd
Tŷ sydd yn y broses o gael ei brynu yng Nghwm-y-glo
Disgrifiad o’r llun,

Mae prynwyr tro cyntaf lleol yn y broses o brynu'r eiddo yma yng Nghwm-y-glo fu'n dŷ gwyliau "poblogaidd" am gyfnod

Gyda rheolau newydd yn dod i rym y flwyddyn nesa', mae rhai gwerthwyr tai wedi dweud bod y newidiadau'n dechrau cael effaith ar y farchnad yn barod wrth i rai perchnogion ail gartrefi ddechrau gwerthu er mwyn osgoi trethi cyngor uwch.

Ond mae ymgyrchwyr ac arbenigwyr yn y maes wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C fod angen mesurau pellach i sicrhau bod mwy o dai ar gael i bobl leol eu prynu.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mi fyddan nhw'n monitro'r sefyllfa'n ofalus ac mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno mwy o gynigion i daclo'r broblem yn fuan.

O fis Ebrill 2023, bydd cynghorau Cymru'n cael codi'r dreth ar ail dai i hyd at 300%, a bydd y cyfnod lle mae llety hunanarlwyo yn gymwys ar gyfer trethi busnes yn ymestyn o 70 i 182 diwrnod.

Mae'n rhan o gytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru i geisio'i gwneud hi'n haws i bobl leol brynu tŷ yn eu milltir sgwâr.

Y cynghorau eu hunain fydd yn penderfynu ar ba lefel sy'n briodol i'w sefyllfa nhw yn lleol, felly mae'n bosib na fydd rhai cynghorau yn cynyddu'r dreth.

24,000 o ail gartrefi

Mae rhai awdurdodau lleol eisoes yn codi trethi cyngor uwch, gan gynnwys 100% yng Ngwynedd a Sir Benfro, sydd â'r lefelau uchaf o ail gartrefi - sef 3,746 a 3,794 eleni.

Yn ôl corff data'r llywodraeth, Stats Cymru, roedd cyfanswm o 23,974 o ail gartrefi yng Nghymru oedd yn talu treth cyngor yn 2022, yn ogystal â 22,140 o gartrefi gwag.

Mae arbenigwyr ac ymgyrchwyr yn dweud ei bod yn rhy gynnar i asesu effaith cychwynnol unrhyw newidiadau sydd ar droed, ac maen nhw'n galw am wneud mwy i sicrhau tai fforddiadwy i bobl leol.

Ond mae rhai gwerthwyr tai, fel Ian Wyn-Jones, yn dweud bod mwy o ail gartrefi yn dechrau dod ar y farchnad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna arwyddion cynnar bod penderfyniadau cynghorau i godi'r dreth ar ail dai yn dechrau cael effaith, medd Ian Wyn-Jones

"Mae gen i'r tŷ yma yng Nghwm-y-glo ger Llanberis sy' newydd werthu," meddai. "O'dd hwn yn holiday let, ac yn un poblogaidd hefyd.

"Maen nhw 'di penderfynu ei werthu fo, ac mae 'na gwpl ifanc wedi'i brynu fo. First-time buyers lleol sy'n byw lawr lôn - mae o jyst yn ticio'r bocsys i gyd.

"Mae 'na lot o dai yn dod ar y farchnad lle o'r blaen doeddan nhw ddim yn meddwl - fasa nhw'n dal yn holiday lets.

"Mae 'na lot yn cael eu hailwerthu rŵan i bobl leol so ma' be' mae'r llywodraeth yn drio'i wneud, mae o'n dechra' gweithio'n slow bach.

"Ond eto mae 'na rhai llefydd yng ngogledd Cymru lle dim ots gan rhai pobl, 'nawn nhw'n dal brynu nhw. Llefydd fel Abersoch, Llanbedrog, Bae Trearddur ar Ynys Môn.

"Ma' lot o bobl sy'n fanna efo'r pres a dydyn nhw'm yn fussed, really."

'Dibynnu ar dwristiaeth'

Ond mae Mr Wyn-Jones yn credu bod angen bod yn ofalus i beidio cau'r farchnad ail gartrefi yn llwyr.

"Dwi'm yn meddwl dylia ni fynd yn gungho a d'eud 'dim holiday lets' na dim byd fel 'na. Mae'n rhaid iddo fod yn fair i bawb.

"Yn enwedig yng ngogledd Cymru, 'da ni'n dibynnu ar dwristiaeth. Mae jyst yn bwysig bod ni'm yn pwshio pawb o 'ma, ond eto edrych ar ôl ein hunain hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tŷ yng Nghwm-y-glo yn arfer bod yn llety gwyliau, ond mae cwpl lleol yn y broses o'i brynu

Yn ôl Owain Llywelyn, llefarydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yng Nghymru, mae angen camau pellach.

"'Da ni'n sôn am dipyn o sialens, gan ddefnyddio arfau llywodraeth, i wyrdroi dros 30 i 40 mlynedd o farchnad rydd lle mae tai haf wedi bod yn cael eu prynu," meddai.

"Arwyddion cynnar iawn iawn ydy hyn bod 'na rai pobl wedi penderfynu symud ymlaen, os mynnwch chi, a gwerthu'u hasedau."

Mae'n credu bod nifer o gamau pellach y gellid eu cymryd, gan gynnwys "codi'r dreth trafod tir o 4% i falla 8%".

"Peth arall efallai ydy caniatáu llywodraeth leol i gynyddu treth cyngor nid bedair gwaith ond 10 gwaith y lefel bresennol.

"Wedyn mae'n rhaid cau'r loophole bondigrybwyll 'ma o ran creu busnesau yn hytrach na thalu treth cyngor - newid y gyfraith cynllunio tref a gwlad i greu categori o ddefnydd penodol a wnelo â thai haf."

'Angen mesurau mwy grymus'

Mae un o sylfaenwyr ymgyrch Hawl i Fyw Adra, Rhys Tudur, yn cytuno bod angen gwneud mwy.

Dywedodd: "Mae'n rhy gynnar i allu d'eud achos dydy'r cynghorau heb eu rhoi nhw mewn lle eto, ond mae'n rhaid iddyn nhw roi mesurau lot mwy grymus yn eu lle - fel gosod treth benodol ar ail dai fel maen nhw'n cael eu prynu ac hefyd bod chi'n capio nifer yr ail dai sydd mewn cymuned.

Disgrifiad,

Dywedodd Rhys Tudur fod angen i gynghorau ddefnyddio'r arian o godi trethi ar ail gartrefi er mwyn helpu pobl i brynu tai yn eu milltir sgwâr

"Mae hynny eto i gael ei wneud er bod y llywodraeth wedi ymgynghori ar hynny. Mae'n rhaid gweithredu arno fo yn fuan iawn.

"Faswn i hefyd yn licio gweld y llywodraeth yn sefydlu corff monitro, fatha watchdog mewn ffordd, sy'n edrych ar y sefyllfa'n fanwl i weld faint o dai sy'n mynd i afael pobl leol o fis i fis. Ma' hynny'n anghenraid."

'Sicrhau cyfraniad teg i gymunedau'

Mae Llywodraeth Cymru'n annog cynghorau i wario unrhyw arian ychwanegol ar adeiladu tai fforddiadwy.

Nid ffordd o godi arian i gynghorau ydy'r drefn newydd, meddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ond "ymgais i leihau'r galw am ail gartrefi" ac mi fyddan nhw'n "monitro'r sefyllfa'n ofalus".

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y bwriad ydy "sicrhau fod perchnogion ail dai yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maent yn berchen ar gartrefi neu'n rhedeg busnesau".

Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wedi ymrwymo i weithredu ar unwaith ac mewn modd radical, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau yn y farchnad dai bresennol, gan gynnwys yr effaith negyddol y gall ail gartrefi a thai anfforddiadwy ei chael.

"Cyn bo hir, bydd gennym becyn o gynigion i fynd i'r afael â'r gwahanol broblemau y mae hyn yn eu cyflwyno.

"Rydym yn parhau i weithio tuag at ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu yn ystod tymor y llywodraeth hon."

Pynciau cysylltiedig