Ffair Aeaf: Ffliw adar, costau byw a thir comin

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
sioe aeaf
Disgrifiad o’r llun,

Y Sioe Aeaf yn agor fore Llun

Mae ffermwyr dofednod yn cael eu hannog gan Undeb NFU Cymru i fod "ar eu gwyliadwraeth am ffliw adar".

Mae Cadeirydd Bwrdd Dofednod yr Undeb, Richard Williams, yn rhybuddio am "amseroedd heriol iawn i'r sector" wrth i'r Ffair Aeaf ddechrau yn Llanelwedd.

Dros y penwythnos fe ddywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Interim Cymru, Dr Gavin Watkins, y bydd yn rhaid i adar caeth yng Nghymru gael eu cadw dan do i geisio atal cyswllt gydag adar gwyllt.

Ychwanegodd bod y data diweddaraf yn awgrymu y bydd ffliw'r adar yn lledaenu tua'r gorllewin i Gymru yn ystod y misoedd nesaf gan gynyddu'r risg y caiff adar yn yr awyr agored eu heintio.

'Angen unrhyw gymorth sy'n bosib'

Yn y cyfamser, mae nifer o ffermwyr wyau ym Mhrydain naill ai'n bygwth neu wedi gadael y diwydiant yn ystod y misoedd diwethaf - mae nhw'n dweud nad ydynt yn cael digon o arian am eu cynnyrch wrth i gostau byw a phris bwyd dofednod godi'n sylweddol.

Wrth siarad ar Dros Frecwast o Lanelwedd fore Llun, dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr yr FUW, bod angen "unrhyw fath o gymorth sy'n bosib" ar y sector amaeth ac yn enwedig ffermwyr dofednod.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i adar caeth yng Nghymru gael eu cadw dan do yn sgil achosion o ffliw adar

"Pan 'dach chi'n edrych ar y llun mawr... mae bwydydd 'di codi tua 25%, gwrtaith wedi codi rhyw bedair gwaith i be' oedd o dair, bedair blynedd yn ôl," dywedodd Glyn Roberts.

"Mae'r busnes wyau ma'n cael effaith mawr ar ein haelodau ni, a'r cwsmeriaid hefyd," ychwanegodd.

"Ddyle' bod y llywodraeth yn helpu'r diwydiant 'wan... i sicrhau bod 'na fwyd ar y plât i bobl sy'n prynu'n bwyd ni... ac amddiffyn y cyhoedd yn ogystal â'n diwydiant ni."

Ddydd Llun mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths ymweld â'r Ffair Aeaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd gwybodaeth ar gael ar eu stondin am ffliw adar, iechyd a diogelwch ar ffermydd a materion eraill.

Galw am atebion i ffermwyr tir comin

Ymhlith y materion eraill fydd yn cael eu codi gan Undeb NFU Cymru mae dyfodol tir comin - maen nhw am sicrhau fod tir comin yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ar ôl diwygio y polisi amaethyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tir comin yn cynnig tir pori gwerthfawr, medd undeb NFU Cymru

Mae yna bryderon na fydd hi'n bosib i ffermwyr tir comin gwrdd â gofynion y polisi newydd.

Heb ymyrraeth polisi a sicrhau cefnogaeth mae yna ofnau y gallai sefyllfa economaidd busnesau fferm yng Nghymru sy'n rheoli tir comin, fod o dan fygythiad.

Mae ffermio ar dir comin yn arfer traddodiadol, yn ymestyn yn ôl dros y canrifoedd. Yn aml iawn dyma lle mae bridiau da byw brodorol lleol yn cael eu magu a'u datblygu.

'Tir pori gwerthfawr'

Mewn adroddiad newydd sy'n cael ei gyhoeddi yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, ddydd Llun, mae NFU Cymru yn amlinellu yr heriau a'r cyfleoedd penodol i ffermwyr Cymru sydd â hawliau tir comin a hynny meddent, mewn cyfnod o ddiwygio polisi amaeth yng Nghymru.

Yng Nghymru mae bron i 10% o dir amaethyddol wedi ei gofrestru yn dir comin ac mae hwnnw'n dir pori gwerthfawr i'r ffermwyr sydd â hawl arno.

Yn ôl NFU Cymru mae'r rhain yn gwbwl angenrheidiol i economi cefn gwlad yn enwedig felly mewn ardaloedd yr ucheldir.

Maen nhw hefyd, yn ôl yr undeb, yn bwysig i "wasanaethau yn y system eco, ac yn rhan allweddol wrth warchod traddodiadau o ran diwylliant, etifeddiaeth ac wrth gwrs yr iaith Gymraeg".

Wrth gydnabod pwysigrwydd tir comin yng Nghymru mae'r undeb wedi ffurfio grŵp ymgynghori arbennig i ystyried beth fydd effaith newid y polisi amaethyddol ar ffermwyr tir comin ar adeg o newid digynsail yn y diwydiant.

Mae'r grŵp nawr yn cynnig nifer o argymhellion allweddol er mwyn sicrhau fod polisïau'r dyfodol yn galluogi ffermwyr tir comin i barhau i greu budd yn eu cymunedau ar draws Cymru.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fod yn hygyrch ac y byddan nhw yn rhoi sylw penodol i dir comin.

Disgrifiad o’r llun,

Tir comin Mynydd y Gwair ger Abertawe

Yn ôl Kath Whitrow, cadeirydd Bwrdd Ardaloedd Llai Ffafriol NFU Cymru mae tir comin yn "adnodd allweddol i rheiny sy' â busnesau ffermio sy'n dal hawliau dros dir comin. Mae hefyd yn bwysig o ran yr economi leol... yn enwedig yn ucheldiroedd Cymru."

Mae rheoli y tir yma yn llwyddiannus ac yn effeithiol, yn ganolog er mwyn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yng nghyd destun pynciau fel hinsawdd, a bioamrywiaeth, meddai'r undeb.

Dywed yr undeb y dylai pob un sy'n ffermio tir comin fod yn gallu cael mynediad i Gynllun Amaeth Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru ac yn gallu derbyn help o ganlyniad i hyn yn y tair haen o gefnogaeth: "yr haen gyffredinol, yr haen ddewisol a'r haen gydweithredol".

Heb hyn, y rhybudd yw y bydd ffermio tir comin dan fygythiad yn y dyfodol.

Gwerth tir comin

"Er gwaethaf eu rôl hollbwysig, mae ein diadellau cynefin a'r sgiliau sydd eu hangen i'w rheoli yn dirywio mewn sawl rhan o Gymru. Nid yw'r polisi presennol wedi cydnabod eu gwerth yn ddigonol," medd llefarydd.

Mae NFU Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, trwy ei bolisi amaethyddol yn y dyfodol i "warchod ffermwyr tir comin sy'n cyfrannu yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol mewn ardaloedd ar hyd a lled y wlad".

Maen nhw'n dweud fod angen "darparu sefydlogrwydd, a'r unig ffordd y gall hyn ddigwydd yw drwy sicrhau bod tir comin yn deilwng i dderbyn cefnogaeth drwy'r mesur sefydlogi sylfaenol".

Gall hyn ond ddigwydd, dywed yr undeb, os yw tir comin yn gymwys ar gyfer cefnogaeth yn y dyfodol.

"Rhaid i'r dull o roi cymorth amaethyddol yn y dyfodol sicrhau bod hyfywedd y systemau ffermio traddodiadol hyn yn cael ei ddiogelu fel bod modd rheoli tir comin yn gynaliadwy er budd pawb."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi sefydlu grwpiau arbennig ar gyfer tenantiaid, ffermwyr sy'n newydd i'r maes a rhai hŷn yn ogystal â ffermwyr tir comin. Bydd y grwpiau yma yn cynnwys NFU Cymru.

"Bydd yna sylw penodol yn un o'r grwpiau ar sut mae addasu y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer tir comin gan sicrhau sylw i werthoedd diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y tir."