Allyrwyr gwaethaf y de yn cyhoeddi cynlluniau datgarboneiddio
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o'r cwmnïau sy'n allyrru fwyaf yn ne Cymru wedi cyhoeddi cynllun i dorri eu hallyriadau carbon yn llwyr.
Dywed Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) y gallai eu cynlluniau leihau allyriadau CO2 Cymru 40% erbyn 2040, gan ddiogelu dros 100,000 o swyddi a sbarduno buddsoddiad o £30bn.
Mae tua 40 o gyrff - gan gynnwys gweithfeydd dur, purfeydd olew, gweithfeydd cemegol, porthladdoedd, prifysgolion ac awdurdodau lleol - wedi gweithio gyda'i gilydd ers dros ddwy flynedd fel rhan o brosiect gwerth £40m i roi adroddiad manwl yn esbonio sut y byddant yn cyrraedd sero net ar y cyd erbyn 2040.
Ar hyn o bryd, de Cymru yw'r rhanbarth llygredig mwyaf ond un yn y DU oherwydd y diwydiant trwm yno.
Mae'r adroddiad yn cynnwys galwadau am ddatblygu'r grid trydan a'r seilwaith hydrogen ar frys, am gefnogaeth i storio a defnyddio carbon sydd wedi ei gasglu, a datblygu system i'w symud ar longau.
Mae hefyd yn galw am wneud prisiau ynni fwy cystadleuol yn y DU yn gan fod diwydiant a busnesau yma yn talu mwy na busnesau mewn gwledydd Ewropeaidd am drydan.
Mae'r cais i greu Porthladd Rhydd yn ne-orllewin Cymru hefyd yn hanfodol i'r cynllun.
Dywedodd Dr Chris Williams, pennaeth datgarboneiddio diwydiannol Diwydiant Cymru, fod hwn yn "fap ffordd cam-wrth-gam ar gyfer datgarboneiddio diwydiant de Cymru a'r isadeiledd sydd ei angen i gyflawni sero net".
"Mae angen cynllun cadarn ar ein diwydiannau, gyda chefnogaeth polisïau cefnogol, i'w galluogi nhw i barhau ar eu teithiau datgarboneiddio unigol eu hunain," meddai.
Yn ôl Flora Davies o CR Plus, sydd wedi bod yn rheolwr prosiect ar y cynllun, efallai y bydd datgarboneiddio diwydiant yn caniatáu i fwy o'n cartrefi fod yn sero net yn y dyfodol hefyd.
"Drwy ddatgarboneiddio diwydiant yn y DU mae'n datgloi llawer o gyfleoedd i sefydliadau a chartrefi ddatgarboneiddio hefyd drwy sefydlu'r isadeiledd," meddai.
Mae gan RWE, sy'n rhedeg Gorsaf Bŵer Penfro, gynlluniau mawr ar gyfer cyrraedd sero net, gan gynnwys prosiectau hydrogen gwyrdd a glas, dal a storio carbon, yn ogystal â batris fydd yn storio ynni o wynt arnofiol ar y môr ar ei safle.
Yn ôl Richard Little, cyfarwyddwr Canolfan Sero Net Penfro RWE, mae dwy ffordd o gyrraedd sero net.
"Fe allwn ni ddatgarboneiddio de Cymru drwy gau'r holl ddiwydiant yma, neu gallwch gefnogi'r cynllun yma i greu'r gwynt sy'n arnofio - y dechnoleg i'w ddosbarthu o dde Cymru a'r seilwaith o bibellau i ddal CO2 ac i ddosbarthu hydrogen," meddai.
"Mae hynny'n caniatáu chi nid yn unig i gadw'r diwydiant sydd gennym, ond creu diwydiant gwyrdd i dde Cymru.
"Felly rydych chi'n cyrraedd eich targed net yn gyflymach, a heb golli eich swyddi diwydiannol."
Mae'r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad sy'n awgrymu y byddai cynllun SWIC i ddatgarboneiddio yn arwain at gyrraedd sero net cyn 2040, tra byddai cau'r diwydiant yn cymryd tan tu hwnt i 2050.
Ger Pen-y-bont ar Ogwr, mae Rockwool yn cyflogi 500 o bobl.
Maent yn toddi craig folcanig ar 2000C i wneud inswleiddio gwlân ar gyfer cartrefi ac adeiladau.
Efallai bod y cynnyrch mae'r cwmni'n ei wneud yn dda i'r amgylchedd, ond mae'r broses o'i wneud yn ddwys iawn o ran ynni.
Maen nhw eisoes wedi bod yn treialu technoleg ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe i geisio dal y carbon sy'n cael ei allyrru yn y broses o wneud eu cynnyrch, ond maen nhw hefyd yn edrych ar ddatgarboneiddio eu fflyd o lorïau dosbarthu ac ailgylchu'r insiwleiddio.
'Edrych ar bob elfen o'r busnes'
Dywedodd Nick Wilson, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni: "Os nad ydyn ni'n datgarboneiddio, mae'n peryglu ein hehangiad yn y dyfodol, ein twf, a'r buddsoddiad yr ydym yn ei roi yn y maes hwn.
"Ond os ydych chi'n edrych ar y targedau datgarboneiddio, erbyn 2050 does dim dewis gyda ni.
"Mae'n rhywbeth ry'n ni'n cymryd o ddifrif fel busnes.
"Mae'r dechnoleg dal carbon rydyn ni'n gweithio arno gyda SWIC yn bwysig iawn, ond nid dyma'r unig ateb.
"Rydyn ni hefyd yn edrych ar hydrogen, rydyn ni'n edrych ar solar, rydyn ni'n edrych ar fiogas ar gyfer ein fflydoedd cludo nwyddau.
"Mae datgarboneiddio yn broses sy'n golygu edrych ar bob elfen o'r busnes."
Mae'r cynllun yn amlinellu'r hyn mae'n ei alw'n "bum cog o ddatgarboneiddio", sy'n gorfod digwydd ar y cyd i gyflawni sero net.
Yn gyntaf, rhaid i gwmnïau ddod yn effeithlon o ran ynni ac adnoddau er mwyn lleihau'r galw a'r angen am seilwaith cyflenwi.
Bydd y gostyngiad mwyaf mewn allyriadau carbon o bell ffordd yn dod o newid tanwydd.
Mae hynny'n golygu symud i ffwrdd o danwydd ffosil - nwy naturiol yn bennaf - i ffynonellau adnewyddadwy fel gwynt arnofiol ar y môr yn y môr Celtaidd, a hydrogen.
Y trydydd cog yw'r hyn sydd wedi'i fathu'n 'Ganolfannau Twf Glân', sy'n golygu creu rhwydwaith yn lleol i rannu adnoddau fel ynni glân a seilwaith.
Bydd y cydweithio a ddechreuwyd fel rhan o adroddiad SWIC yn parhau er mwyn sicrhau gwytnwch y seilwaith newydd.
Mae'r pedwerydd a'r pumed cog yn ymwneud â dal carbon, sef Dal a Defnyddio Carbon (CCU) a Dal a Storio Carbon (CCS).
Y cyntaf yw'r broses o ddal carbon deuocsid o nwyon corn simnai neu o'r aer i gael ei ailgylchu mewn pethau fel bwyd a diod.
Mae Dal a Storio Carbon (CCS) yn cael ei weld fel yr ateb i'r busnesau hynny lle nad oes modd osgoi allyriadau.
Mae CO2 sy'n cael ei ollwng yn cael ei ddal a'i gludo i ffwrdd i'w storio.
Mae'r adroddiad yn dweud y bydd angen datblygu'r gallu i symud CO2 ar y môr yn Aberdaugleddau, Port Talbot, Y Barri, Caerdydd a Chasnewydd.
Angen cefnogaeth llywodraethau
Mae'r cynllun yn we pry cop cymhleth o dechnolegau arloesol gwahanol a fyddai'n cynrychioli £30bn o fuddsoddiad i dde Cymru.
Ond mae cefnogaeth gan lywodraethau'r DU a Chymru yn hanfodol i'w lwyddiant yn ôl Ben Burggraaf o Ddiwydiant Sero Net Cymru.
Dywedodd: "Mewn amgylchedd sy'n gystadleuol ar lefel fyd-eang, mae angen cefnogaeth weithredol y DU ar ddiwydiant Cymru, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i greu'r fframweithiau diwylliant, polisi a rheoleiddio cefnogol a seilwaith sy'n creu chwarae teg ac yn annog y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen i wneud y newid i sero-net."
Mae'r adroddiad yn galw am fuddsoddi mewn uwchsgilio'r gweithlu, ymchwil ac arloesi, seilwaith ynni glân a gwneud y broses gynllunio yn haws.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Mae Llywodraeth y DU yn falch o ariannu prosiectau fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru, sy'n dod â diwydiant at ei gilydd i ddatblygu llwybrau at ddatgarboneiddio.
"Rydym am wneud yn siŵr bod economi Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol, yn darparu swyddi da, a sbarduno ffyniant ochr yn ochr â chyrraedd ein targedau sero net.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i'n helpu i gyflawni'r nodau hyn."
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru ei bod yn "gyfle pwysig i gydnabod y gwaith a chymeradwyo pawb sy'n ymwneud â chyflawni Cynllun Clwstwr Diwydiannol De Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am eu canfyddiadau".
Cafodd y clwstwr £1.5m gan gronfa 'Her Datgarboneiddio Diwydiannol' Ymchwil ac Arloesi Llywodraeth y DU i gefnogi'r rhaglen £2.2M.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022