Arolwg siaradwyr Cymraeg y llywodraeth yn 'ddiwerth'
- Cyhoeddwyd
Mae gwybodaeth sy'n awgrymu nad ydyn ni ymhell o'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg wedi ei disgrifio fel un "diwerth" gan arbenigwr ar ystadegau.
Fe wnaeth data arolwg blynyddol y boblogaeth ddangos fod yna bron i ddwbl canran y siaradwyr Cymraeg o'i gymharu â'r hyn oedd yn y Cyfrifiad diwethaf.
Yn ôl Hywel Jones, cyn-ystadegydd Bwrdd yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg, rhan o'r broblem yw bod rhieni'n cofnodi sgiliau Cymraeg eu plant yn anghywir.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n defnyddio'r Cyfrifiad fel eu "ffynhonnell wybodaeth awdurdodol" am nifer y siaradwyr Cymraeg, a'u bod yn parhau i ymchwilio i'r gwahaniaeth rhwng hwnnw a'u harolwg nhw.
Gostyngiad yn 'sioc'
Tra bod canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8%, mae arolwg blynyddol y llywodraeth bron â dyblu'r ffigwr i 29.5%, gan nodi bod yna tua 900,000 o siaradwyr Cymraeg.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Yn ardal Casnewydd fe gofnododd y Cyfrifiad fod 7.5% o bobl yn siarad Cymraeg, ond yn ôl arolwg y llywodraeth roedd y ffigwr dair gwaith yn uwch ar 22.4%.
Yn ôl Dafydd Henry o'r fenter iaith leol, roedd canlyniadau'r Cyfrifiad yn siomedig yn dilyn blynyddoedd o dwf mewn addysg Gymraeg yn lleol.
"Mi oedd y gostyngiad yn y niferoedd yn sioc," meddai.
"'Dan ni ddim yn teimlo fod canlyniadau yn adlewyrchu yr hyn 'dan ni'n ei weld."
Ond mae'n cydnabod bod canlyniadau arolwg y boblogaeth yn afrealistig.
"Mae isio dod i waelod hyn er mwyn i lywodraeth leol a chenedlaethol fedru llunio polisi ar sail data cywir, cadarn," ychwanegodd.
Ffocws ar siaradwyr dyddiol
O'i gymharu â chanlyniadau'r Cyfrifiad, mae'r arolwg blynyddol yn dyblu canran y siaradwyr Cymraeg mewn 10 awdurdod lleol ac yn eu cynyddu o 10%+ mewn 10 arall.
Mae cyn-ystadegydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chomisiynydd y Gymraeg yn feirniadol iawn o ganlyniadau'r arolwg.
"Gan fod y ffigyrau mor anghredadwy o uchel, maen nhw'n ddiwerth fel maen nhw'n sefyll yn fy marn i," meddai Hywel Jones.
Rhan o'r broblem, meddai, yw fod rhieni plant sydd mewn addysg Saesneg yn dweud bod eu plant yn siarad Cymraeg am eu bod nhw'n cael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol.
"Byddai'n well gwybod bod 250,000 o bobl yn siarad Cymraeg ac yn ei siarad hi'n aml," meddai.
"Mae arolygon eraill yn awgrymu bod rhwng 10-12% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, ac mae hynny'n rhoi gwell syniad i ni o faint o bobl sydd yn gallu siarad Cymraeg mewn rhyw ffordd ddefnyddiol, mwy na dweud 'bore da' neu 'shwmae'."
Mae'n dadlau y dylai gallu ieithyddol plant gael ei seilio ar faint sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac y dylai arolygon holi am allu pobl i gynnal sgwrs yn Gymraeg.
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith, Heledd Fychan, mae gwendidau'r data yn golygu nad oes gyda ni ddarlun clir o nifer y siaradwyr Cymraeg.
"Os ydan ni o ddifri' am greu miliwn o siaradwyr, yna mae'n rhaid i ni ddeall beth yw'r ffigyrau presennol a sut mae pobl yn defnyddio'r iaith," meddai.
"Yn Iwerddon, yn eu cyfrifiad nhw, maen nhw'n holi amryw o gwestiynau am ddefnydd pobl o'r iaith sydd yn helpu o ran datblygu polisïau. Dyna 'dan ni angen yng Nghymru."
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod fod angen deall pam bod canlyniadau'r Cyfrifiad a'r arolwg mor wahanol.
"Dyma'r tro cyntaf i'r Cyfrifiad ddangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr un pryd ag y mae Arolwg Blynyddol y Boblogaeth (APS) yn dangos bod gyda ni nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg," meddai llefarydd.
"Rydyn ni wastad wedi bod yn glir ein bod ni'n ystyried y Cyfrifiad fel y ffynhonnell wybodaeth awdurdodol am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac rydym yn parhau i'w ddefnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn y targed Cymraeg 2050.
"Mae ystadegwyr y llywodraeth wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol dros y misoedd diwethaf i edrych beth allwn ni ei wneud i ddeall rhai o'r gwahaniaethau hyn yn well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022