Galw am ddod â chytundeb cydweithredu Plaid Cymru i ben

  • Cyhoeddwyd
Ken Skates
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ken Skates yn aelod o'r cabinet o 2013 hyd at 2021

Mae cyn-weinidog economi wedi galw am ddod â chytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i ben.

Dywedodd Ken Skates o'r Blaid Lafur nad yw am ddelio "â bwlis, casawyr gwragedd neu unrhyw un sy'n gwahaniaethu yn erbyn eraill".

Mae'n dilyn adroddiad damniol o Blaid Cymru a nododd fod "gormod o achosion o ymddygiad gwael" wedi'u goddef yn y blaid.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymateb i sylwadau Mr Skates.

Mae'r llywodraeth wedi gwrthod gwneud sylw hefyd ar yr adroddiad.

'Mwy nag un bwli'

Mewn datblygiad arall ddydd Iau, mae cyn-brif weithredwr Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn "un o'r nifer o staff fu'n destun bwlio" yn y blaid.

Ysgrifennodd Gareth Clubb ar LinkedIn fod "mwy nag un" bwli yn y blaid.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Clubb: "Roeddwn i'n un o'r nifer o staff fu'n destun bwlio ym Mhlaid Cymru"

Dywedodd Mr Clubb: "Roeddwn i'n un o'r nifer o staff fu'n destun bwlio ym Mhlaid Cymru - yn fy achos i nid yn bennaf gan aelodau etholedig.

"Gall un bwli mewn sefydliad gael effaith andwyol enfawr ar sut mae'r sefydliad hwnnw'n gweithredu.

"Ac ym Mhlaid Cymru roedd mwy nag un.

"Felly mae fy empathi a'm cydymdeimlad yn mynd allan i bawb sydd erioed wedi dioddef, neu'n parhau i ddioddef, o'r niwed a achosir gan fwlio."

'Dadwenwyno'

Yn ôl yr adolygiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher, mae angen i Blaid Cymru "ddadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth".

Mae arweinydd y blaid, Adam Price, wedi ymddiheuro a dywedodd fod pob un o'r 82 argymhelliad yn yr adroddiad wedi eu derbyn.

Ddydd Mercher, dywedodd Mr Price wrth y BBC na fydd yn ymddiswyddo a'i fod am weithio i drwsio problemau yn y blaid.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod Aelodau o'r Senedd Llafur eisiau cyfarfod ddydd Iau i drafod yr adroddiad gan Nerys Evans.

Mae rhai ASau yn y grŵp eisiau i'r blaid feirniadu Adam Price.

Dywedodd ffynhonnell o'r blaid Lafur: "Mae'r grŵp Llafur yn ei gyfanrwydd wedi eu dychryn gyda'r adroddiad."

Dywedodd y ffynhonnell fod angen i Lywodraeth Cymru "ymateb yn gadarn ac mewn ffordd feddylgar".

Mae Plaid Cymru mewn cytundeb cydweithredu gyda Llywodraeth Cymru, sy'n gweld gweinidogion yn gweithio gyda'r blaid ar ystod o bolisïau gan gynnwys gofal plant a chinio ysgol am ddim.

Mae'r cytundeb yn golygu nad yw Plaid Cymru mewn llywodraeth ac mae'n dal yn wrthblaid yn dechnegol.

Mae cysylltiadau rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru wedi bod dan straen yn ddiweddar ar ôl i Blaid Cymru ddweud bod y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cael ei fychanu oherwydd sylwadau am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

'Annerbyniol'

Roedd Ken Skates, AS De Clwyd, yn weinidog yr economi tan ar ôl etholiad 2021.

Dywedodd Mr Skates wrth BBC Cymru: "Mae ymddygiad yn bwysig, mae sut rydych chi'n trin pobl yn bwysig, mae'r ffordd rydych chi'n arwain sefydliad yn bwysig.

"Mae bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn annerbyniol, atalnod llawn.

"Dylai'r cytundeb cydweithredu ddod i ben ar sail cynnal egwyddorion, moeseg a moesau Llafur Cymru.

"Ni fyddaf yn gwneud bargen gyda bwlis, casawyr gwragedd neu unrhyw un sy'n gwahaniaethu yn erbyn eraill."