Plaid: Rhun ap Iorwerth 'yn ystyried sefyll' fel arweinydd
- Cyhoeddwyd
Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod yn ystyried sefyll i fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru.
Mae wedi cynrychioli Ynys Môn yn Senedd Cymru ers 2013, ond llynedd fe gyhoeddodd ei fod yn bwriadu sefyll dros yr etholaeth yn San Steffan yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae'r sedd yn San Steffan yn cael ei chynrychioli gan y Ceidwadwyr, wedi i Virginia Crosbie ei hennill yn 2019.
Petai'n cael ei ethol i San Steffan byddai'n rhaid iddo roi'r gorau i'w sedd yn y Senedd - sy'n golygu na fyddai'n gallu arwain Plaid Cymru chwaith, gan fod y blaid yn dewis eu harweinydd o'u grŵp yn y Senedd.
Byddai'n rhaid iddo felly wneud tro pedol ar ei fwriad i sefyll yn yr etholiad cyffredinol, os yw'n dod yn arweinydd.
Dim ymgeiswyr eto
Bydd ras arweinyddol yn cael ei chynnal yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price, a hynny wedi i adroddiad dynnu sylw at ddiwylliant o fisogynystiaeth, aflonyddu a bwlio o fewn y blaid.
Mae'r arweinydd dros dro, Llyr Gruffydd bellach wedi dweud y dylai ef ac eraill fod wedi ymateb yn wahanol i'r pryderon a godwyd.
Fe wnaeth Mr ap Iorwerth, sy'n gyn-newyddiadurwr gyda BBC Cymru, herio Mr Price a Leanne Wood am yr arweinyddiaeth yn 2018, gan ddod yn ail.
Does dim un o ASau Plaid Cymru wedi datgan bwriad pendant i sefyll fel arweinydd eto - mae un arall o wleidyddion profiadol y blaid, y Llywydd Elin Jones, eisoes wedi dweud na fydd hi'n sefyll.
Mae'n rhaid i enwebiadau ar gyfer yr ornest gael eu cyflwyno erbyn 16 Mehefin.
Wrth siarad mewn sesiwn fyw ar ei dudalen Facebook, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod "eisiau bod mor onest ag y galla' i hefo pobl".
"Mae Ynys Môn a Chymru yn golygu cymaint i mi," meddai.
"Mae pobl, wrth gwrs, wedi gofyn 'wyt ti'n mynd i?' a llawer wedi dweud 'wnei di?'.
"Ond dwi jyst isio bod yn onest a dweud wrth gwrs 'mod i'n gorfod meddwl am y peth.
"Mae 'na lawer i wahanol rôl 'dan ni'n gallu ei chwarae er mwyn gwasanaethu ein cymuned, ein gwlad.
"Mae rhywun yn gorfod ystyried yn ofalus beth sydd er budd Ynys Môn ac er budd Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Mai 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Mai 2023