Galw am statws iaith arbennig i rai ardaloedd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Golygfa o'r awyr o dref Glynebwy yng NghymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiwn Cymunedau'r Gymraeg yn awgrymu y dylid addasu polisi a chydnabod anghenion gwahanol ardaloedd

Mae 'na alw am ddynodi rhannau o Gymru'n ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol "dwysedd uwch" er mwyn cryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Comisiwn Cymunedau'r Gymraeg sy'n awgrymu'r statws, er mwyn galluogi addasu polisi cyhoeddus a chydnabod anghenion gwahanol ardaloedd.

Daw'r alwad wrth i'r comisiwn gyhoeddi ei ganfyddiadau cyntaf yn eu hadroddiad rhagarweiniol - "Papur Safbwynt" - ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Fe gafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru fis Awst y llynedd er mwyn gwneud argymhellion polisi cyhoeddus i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith, a'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Mae 10 o aelodau i'r comisiwn dan gadeiryddiaeth yr academydd a'r ymgyrchydd iaith, Dr Simon Brooks.

Mae Dr Brooks yn pwysleisio bod "y Gymraeg yn perthyn i Gymru gyfan".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Simon Brooks bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg "yn edrych ar bolisi cyhoeddus ym mhob maes"

"Byddai statws yr iaith a hawliau ieithyddol yn aros yr un peth," meddai.

"Nid dymuniad y Comisiwn fyddai creu llinellau ar fap, ond sicrhau pwerau i awdurdodau lleol i allu amrywio polisïau er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol."

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, rhoddodd Dr Brooks esiampl o'r math o wahaniaeth yr oedd yn ei gyfeirio ato.

"Pan 'dych chi'n codi stâd o dai mewn rhywle fel, dudwn ni, ar gyrion Caerdydd, dydych chi ddim yn debyg o gael yr un math o impact ieithyddol ag y byddech chi'n ei gael tasech chi'n codi stâd o dai, dudwn ni, yng Nghrymych," meddai.

"Mae wedyn yn codi'r cwestiwn, a ddylsai'r ystyriaeth sydd yn cael ei roi o safbwynt ieithyddol i'r penderfyniad mewn lle fel Crymych fod yn wahanol?"

'Caniatáu i bolisïau amrywio'

Fis Awst nesaf, yn Eisteddfod Genedlaethol 2024, y bydd y Comisiwn yn cyhoeddi eu hadroddiad a'u hargymhellion terfynol.

Ychwanegodd Dr Brooks: "Ein canfyddiad cyntaf yw bod angen cymorth pellach i gefnogi'r Gymraeg fel iaith gymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd economaidd-gymdeithasol, er enghraifft ym meysydd tai, cynllunio, datblygu cymunedol yn ogystal ag addysg.

"Fe ellid cyflawni hyn drwy ganiatáu i bolisïau sy'n effeithio ar y defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Miles yn cydnabod fod yr heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf

Wrth roi croeso i waith y Comisiwn dwedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae'n hollbwysig bod ein cymunedau yn gryf ac yn cael eu diogelu fel y gall y Gymraeg ffynnu.

"Mae'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf.

"Fe welon ni hynny yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad llynedd, ac mae papur y Comisiwn yn adlewyrchu hynny."

Ond does dim awgrym eto a fydd y gweinidog a'r llywodraeth yn gweithredu unrhyw rai o'r argymhellion terfynol.

'Defnydd, defnydd, defnydd'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Mr Miles fodd bynnag ei fod yn gweld y syniad fel un "diddorol".

"Petasai hynny'n digwydd fe fyddai e'n caniatáu i ni weithredu mewn ffyrdd gwahanol, mewn cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith fwyafrifol," meddai.

"Mae'n syniad creadigol iawn, a fydda i'n edrych ymlaen i glywed manylion pellach maes o law."

Ond anghytunodd y byddai hynny gyfystyr â "rhoi statws arbennig" i'r iaith mewn rhai ardaloedd.

"Does neb yn sôn am greu rhyw fath o Gaeltacht Gymraeg... a fydden i ddim yn croesawu hynny o gwbl," meddai.

Disgrifiad,

Beth oedd canlyniadau'r Cyfrifiad yn ei ddatgelu am sefyllfa'r Gymraeg?

Ychwanegodd y byddai dal angen i unrhyw gynllun newydd barhau i roi pwyslais ar ddefnydd o'r iaith.

"Dwi wedi dweud fel gweinidog mai defnydd, defnydd, defnydd yw'r peth pwysicaf," meddai.

"Wrth gwrs mae angen sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn dysgu'r Gymraeg, ond os nad yw pobl wedyn yn defnyddio beth bynnag o Gymraeg sydd gyda nhw mor aml â phosib - dyna'r nod."

Yn ogystal â'r angen i roi hawl statudol i addasu polisi cyhoeddus ardaloedd, byddai llwyddiant cynlluniau o'r fath yn dibynnu ar ddemocratiaeth leol.

Cynghorau sir fyddai'n gweithredu unrhyw newidiadau gan ddibynnu hefyd ar ewyllys a chefnogaeth pobl leol.

Bwriad Jeremy Miles fydd ymweld â chymunedau Cymraeg i ymgysylltu, er mwyn clywed eu "profiadau, am eu dyheadau a'u hanghenion".

Fel rhan o hynny fe fydd Mr Miles yn trafod y canfyddiadau gyda Dr Simon Brooks mewn sesiwn holi ac ateb yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau, lle bydd cyfle hefyd i glywed safbwyntiau pobl ifanc ar y maes.

'Sylfaen gadarn at gadw'n hiaith yn hyfyw'

Yn ymateb i awgrym y Comisiwn, dywedodd mudiad Hawl i Fyw Adra: "Mae'n hen bryd ac yn dyngedfennol bwysig i roi pwyslais polisi ar y Gymraeg mewn ardaloedd ymhle mae hi'n iaith bob dydd, yn iaith y stryd.

"Heb wneud hynny byddwn yn gwneud cam mawr a'n hiaith ac bydd ei dyfodol fel iaith fyw yn gwbwl ansicr.

"Heb amheuaeth, byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn rhoi sylfaen gadarn at gadw'n hiaith yn hyfyw yn ein cymunedau drwy alluogi ymyraethau pellgyrhaeddol mewn sawl maes - o addysg i faes tai.

"Bydd y dynodiadau yno'i hunan yn gam arwyddocaol at sicrhau bod pobl leol yn gallu byw adra a byw'n Gymraeg."

'Rhybudd olaf'

Ychwanegodd Dylan Bryn Roberts, prif weithredwr mudiad Dyfodol i'r Iaith: "Mae'n gwbl amlwg i mi fel un a fagwyd yn Nefyn, Pen Llŷn, mai dim ond trwy fabwysiadu cyfundrefn benodol i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol arbennig (dwysedd uwch) y mae modd ceisio taclo'r dirywiad ieithyddol a chymunedol.

"Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn rybudd olaf am ddiflaniad llwyr y cymunedau Cymraeg yn y gogledd-orllewin oni wneir hynny.

"Y gwir yw, pe bai rhywogaeth o anifail neu blanhigyn prin mewn perygl o ddiflannu, y byddai cyfres o fesurau gwarchodol eisoes ar waith yn y cynefinoedd penodol hynny."