Ddim yn 'amlwg' y byddai Covid yn cyrraedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, Nick Mason
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl pennaeth GIG Cymru yn ystod y pandemig, doedd hi ddim yn amlwg y byddai achosion yn lledu o Loegr

Doedd hi ddim yn "amlwg" y byddai Covid yn cyrraedd Cymru hyd yn oed ar ôl i'r achos cyntaf o'r feirws gael ei gofnodi yn y Deyrnas Unedig, yn ôl pennaeth y gwasanaeth iechyd ar y pryd.

Dr Andrew Goodall oedd prif weithredwr GIG Cymru pan darodd y pandemig.

Wrth iddo roi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid y DU ddydd Mawrth, bu'n ateb cwestiynau am yr ymateb yng Nghymru i Covid ar ddechrau 2020.

Gofynnwyd iddo onid oedd hi'n glir ar 29 Ionawr, pan gofnodwyd yr achos cyntaf yn y DU, na fyddai modd atal y feirws rhag cyrraedd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Eglurodd Dr Andrew Goodall mai'r strategaeth cyn i'r feirws daro Cymru oedd i fonitro'r sefyllfa a sicrhau bod yr ymateb yn "gymesur"

Dywedodd Dr Goodall: "Dwi ddim yn meddwl bod hi wedi bod yn amlwg i ni yng nghanol popeth roedden ni'n ei wneud ar y pryd.

"Wrth edrych yn ôl wrth gwrs dyna'r achos am ddymuno i fod wedi ymateb yn gynt."

Eglurodd bod yna strategaeth ar y pryd i fonitro'r sefyllfa a sicrhau bod yr ymateb yn "gymesur".

Ychwanegodd bod yr ymateb wedi dwysau ar ddiwedd Chwefror 2020 ar ôl i'r achos cyntaf o Covid gael ei gofnodi yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Goodall, cafodd y cynlluniau cychwynnol eu gwneud gan gymryd y byddai'r pandemig yn para am 13 wythnos

Dywedodd Dr Goodall erbyn 12 Mawrth 2020, roedd hi'n amlwg bod angen gweithredu ar frys i ddiogelu'r gwasanaeth iechyd.

Ddiwrnod yn ddiweddarach gwnaed y penderfyniad i ganslo llawer iawn o weithgaredd y gwasanaeth iechyd nad oedd yn ymwneud â gofal brys.

Roedd angen ymateb "digynsail", meddai.

Dywedodd hefyd nad oedd yna ddisgwyliad y byddai'r pandemig yn para mor hir.

"Roedd ein cynllunio'n ffocysu ar gyfnod o 13 wythnos," meddai Dr Goodall.

"Pe baen ni'n gwybod y byddai'r pandemig yn parhau am ddwy flynedd a hanner mae'n bosib iawn y bydden ni wedi addasu rhai o'r penderfyniadau hynny."

Yn ystod y gwrandawiad cafodd rhan o ddatganiad ysgrifenedig Dr Goodall i'r ymchwiliad ei ddarllen.

Yn y ddogfen honno dywedodd Dr Goodall bod gwaith modelu ar gyfer Cymru'n rhagweld yr angen am 900 o welyau gofal dwys a 10,000 yn rhagor o welyau ar draws y gwasanaeth iechyd.

Roedd y senario gwaethaf posibl yn awgrymu y byddai'r galw am ofal yn "sylweddol uwch" na chapasiti y gwasanaeth iechyd, gyda "dros hanner y boblogaeth yn dangos symptomau'r feirws, a chyfran uchel o bobl wedi eu heintio angen gofal yn yr ysbyty".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cyn-weinidog iechyd gydnabod nad oedd yr holl offer PPE i staff iechyd o safon addas

Yn ystod y dystiolaeth fe ddaeth hi i'r amlwg hefyd bod y cyn-weinidog iechyd Vaughan Gething wedi cydnabod nad oedd yr holl offer diogelwch personol oedd ar gael i staff y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig o safon addas.

Cafodd rhan o'i ddatganiad ysgrifenedig i'r ymchwiliad ei darllen gan Bethan Harris, sy'n aelod o dîm cyfreithiol grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, yn ystod sesiwn dystiolaeth Dr Goodall.

Yn ei ddatganiad, dywedodd Mr Gething: "Fe wnaethon ni dan-amcangyfrif pa mor gyflym y byddai'r stoc o offer diogelwch personol yn cael ei ddefnyddio, pa mor gyflym y byddai cadwyni cyflenwi yn methu, a sut doedd cyfran fechan o'r stoc ddim o safon addas."

Dywedodd Dr Goodall ei fod yn "cytuno" gydag asesiad Mr Gething.

Yn gynharach, dywedodd wrth yr ymchwiliad bod yna bryderon yn ystod cyfnod cynnar y pandemig na fyddai digon o offer diogelwch personol i bawb.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Tracey Cooper fod y penderfyniad i agor canolfan brofi Covid yng Nghaerdydd wedi'i wneud heb i gyrff yng Nghymru wybod

Clywodd yr ymchwiliad hefyd gan Dr Tracey Cooper, sef prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Fe soniodd hi am y foment y cysylltodd cwmni Deloitte â ICC i ddweud eu bod wedi cael eu comisiynu gan Lywodraeth y DU i agor canolfan brofi torfol yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Ebrill 2020.

"Yn anffodus doedden ni na Llywodraeth Cymru ddim yn gwybod am hynny," meddai Dr Cooper.

Ychydig yn ddiweddarach, ac yn amlwg wedi ei synnu gan y dystiolaeth, gofynnodd cadeirydd yr ymchwiliad - y Farwnes Hallett - os oedd hi'n gywir bod rhywun wedi penderfynu agor canolfan brofi o'r fath yng Nghaerdydd heb roi gwybod i ICC na Llywodraeth Cymru.

"Yn wir," atebodd Dr Cooper.

Wrth i'r drafodaeth droi at ddechrau'r pandemig, fe glywodd yr ymchwiliad am sylw roedd Dr Cooper wedi ei wneud yn ei thystiolaeth ysgrifenedig.

Yn y ddogfen, dywedodd Dr Cooper, ag eithrio'r Prif Swyddog Meddygol, doedd Llywodraeth Cymru ddim wedi "gwerthfawrogi difrifoldeb" y bygythiad gan Covid-19 tan ganol Chwefror 2020.

Dywedodd hefyd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â Heddlu'r De wedi cynnal ymarfer i dreialu cyfnod clo ar y 3ydd o Fawrth 2020.

Pwrpas yr ymarfer, meddai, oedd deall sut fyddai hynny'n gweithio a beth fyddai angen ei ystyried.

Dechreuodd y cyfnod clo cyntaf ar y 23ain o Fawrth.

Dywedodd Dr Cooper, yn ei barn hi ac o ystyried beth oedd yn digwydd ar y pryd, byddai hi wedi bod yn fwy "naturiol" i ddechrau'r cyfnod clo tua 10 diwrnod ynghynt.

Pynciau cysylltiedig