Ie Ie Ie: Profiad personol o drais rhywiol yn ysgogi drama un fenyw
- Cyhoeddwyd
Mae actor a digrifwr wedi sôn wrth BBC Cymru am ei phrofiad hi o ddioddef trais rhywiol a pham ei bod hi'n teimlo mor angerddol ynglŷn â rhannu ei stori.
Ar hyn o bryd mae Eleri Morgan yn serennu yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o 'Ie Ie Ie' - drama un fenyw sy'n trafod pynciau fel trais a chydsyniad.
Mae'r ddrama yn adrodd dwy stori gyfochrog am berson ifanc yn cael rhyw - un o'r profiadau hynny yn gydsyniol a'r llall ddim.
Gobaith Eleri yw bod y sioe yn agoriad llygad i nifer o bobl ifanc ac yn dangos pwysigrwydd cefnogi rhywun sydd wedi cael profiad o'r fath.
Mae 'Ie Ie Ie' yn addasiad a chyfieithiad o'r ddrama 'Yes Yes Yes' gafodd ei hysgrifennu gan Karin McCracken ac Eleanor Bishop o Seland Newydd.
Mae'r ddrama yn edrych ar sgil effeithiau achos o dreisio a sut mae ffrindiau'r prif gymeriad, Ri, yn delio â'r cyfan.
Fe eglurodd Eleri, sy'n chwarae'r brif ran, bod elfennau o stori Ri yn debyg i'w phrofiadau personol hi.
"Fi wedi cael fy nhreisio o'r blaen... Pan wnaeth e ddigwydd do'n i ddim yn sylweddoli pa mor niweidiol oedd e," meddai.
"Ro'dd e'n sefyllfa kind of weird. Na'th e ddigwydd, o'n i ddim yn hapus amdano fe ond o'n i ddim yn gwybod beth i alw fe."
Roedd Ms Morgan yn ei hugeiniau pan gafodd hi ei threisio, ond gymerodd hi sawl blwyddyn iddi siarad am y peth yn agored.
"Nath e cymryd siarad gyda therapist, siarad gyda ffrindiau a siarad gyda phobl eraill cyn i fi sylweddoli beth ddigwyddodd i fi."
Un elfen bwysig o'r sioe yw rôl ffrindiau wrth gefnogi unigolyn sydd wedi dioddef trais rhywiol, ac mae Eleri yn nodi nad oedd ei phrofiad hi o hynny yn un cadarnhaol ar y pryd.
"Ro'dd cael fy nhreisio yn ofnadwy, ond beth oedd yn rili ofnadwy oedd delio gyda phobl oedd ddim yn gwybod sut i ddelio gyda fi.
"Roedd pawb yn eithaf weird, a fi hefyd. Ro'n i'n sôn am be ddigwyddodd fel bod e'n jôc ddoniol... ond y ffordd o'dd ffrindiau yn ymateb wnaeth wneud i fi sylweddoli bod e ddim yn ddoniol."
Yn ôl Eleri, mae hi'n bechod na chafodd hi gyfle i weld sioe debyg i 'Ie Ie Ie' pan yr oedd hi'n iau.
"Os fyswn i wedi gweld y sioe 'ma, fyswn i'n gwybod beth i alw fe, sut i ddelio gyda fe a fyswn i'n teimlo'n well am ymateb ffrindiau fi."
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Steffan Donnelly, ei bod hi'n wirioneddol bwysig cael drama am faterion mor ddifrifol yn y Gymraeg.
"Mae'n bwnc hynod bwysig sydd yn dal yn gallu teimlo fel dipyn o tabŵ, felly dwi'n meddwl fod agor y drws efo'r sioe yma yn teimlo'n rili gyffrous a fresh a dwi'n falch bo' ni fel cwmni yn ymrwymo i drafod y pethau heriol, y pethau sydd wir yn effeithio ar bobl, y pethau perthnasol."
Mae'r sioe yn teithio i ysgolion ar hyd Cymru yn ogystal â theatrau, ac fel rhan o'r cynhyrchiad mae aelodau o'r gynulleidfa yn gwirfoddoli i chwarae rhan rhai o'r cymeriadau.
Mae'r Theatr Genedlaethol hefyd wedi gweithio gyda Brook Cymru, elusen iechyd rhywiol i bobl ifanc, er mwyn trefnu gweithdai ledled y wlad.
Yn y gweithdai hynny mae modd i bobl ifanc rannu profiadau a thrafod eu teimladau ynglŷn â rhai o'r themâu sy'n codi yn y ddrama.
Dywedodd Christian Webb o Brook Cymru: "Trwy greu llefydd diogel i bobl ifanc ddysgu a holi cwestiynau am berthnasau a chydsyniad rydyn ni'n paratoi nhw'n well - yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau fydda nhw eu hangen wrth ddatblygu a chynnal perthnasau ar hyd eu hoes.
"Mae dramâu fel 'Ie Ie Ie' yn dod â'r materion yma yn fyw i bobl ifanc, ac yn rhoi gwybod bod cymorth a chefnogaeth ar gael."
Mae'r Theatr Genedlaethol yn gobeithio gallu mynd â'r sioe dramor.
"Ry'n ni wastad yn edrych am gyfle i roi'r iaith Gymraeg ar blatfform ehangach, platfform Ewropeaidd," meddai Steffan Donnelly.
"'Dan ni wastad yn chwilio am gyfleoedd i gymryd ein gwaith y tu hwnt (i Gymru) a gobeithio dros y blynyddoedd nesaf fe welwch chi rywfaint o hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd4 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2023