Marwolaeth dynes ar Afon Menai yn ddamwain - cwest

  • Cyhoeddwyd
Jane WalkerFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jane Walker yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Afon Menai ger Porthaethwy

Roedd marwolaeth dynes mewn gwrthdrawiad ar Afon Menai yn ddamwain, yn ôl casgliad cwest.

Roedd Jane Walker, 52 oed o Sir Stafford, ar gwch RIB ar y Fenai gyda'i gŵr ac aelodau eraill o'i theulu ym mis Awst 2020.

Clywodd y cwest i'w marwolaeth fod aelodau eraill o'r grŵp ar feiciau dŵr, yn neidio dros y tonnau a oedd yn cael eu creu gan y RIB.

Ond wedi i'r RIB wneud troad sydyn, bu mewn gwrthdrawiad gydag un o'r beiciau dŵr, ac fe gafodd Ms Walker anafiadau difrifol i'w hysgyfaint, ei phen a'i hasgwrn cefn wedi i'r beic dŵr ei tharo.

Cafodd adroddiad swyddogol i'r digwyddiad ei gyhoeddi yn 2022, oedd yn dweud fod y beic dŵr yn "rhy agos at y RIB tra'n neidio tu ôl iddo".

"Doedd dim digon o amser iddo ymateb pan wnaeth gyrrwr y RIB newid cyfeiriad."

Ffynhonnell y llun, MAIB
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun yma ei gymryd o'r RIB cyn y gwrthdrawiad

Ychwanegodd yr adroddiad nad oedd gyrrwr y RIB wedi gwneud digon i sicrhau ei bod yn ddiogel i wneud y troad.

Dywedwyd hefyd fod "lefel gwybodaeth a sgil" y bobl a fu'n rhan o'r gwrthdrawiad, a'r rheiny oedd yn eu goruchwylio, "ddim yn briodol" ar gyfer yr hyn oedd yn cael ei wneud.

'Dim modd goroesi'

Dywedodd y crwner Kate Robertson ddydd Mercher ei bod hi'n derbyn canfyddiadau adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) o 2022.

Roedd y gwrandawiad ddydd Mercher felly yn canolbwyntio ar y gofal y cafodd Ms Walker gan griwiau ambiwlans.

Clywodd y cwest gan batholegydd a ddywedodd fod ganddi "anafiadau nad oedd modd eu goroesi, er efallai na fyddai hynny wedi bod yn amlwg ar y pryd".

Dywedodd y crwner fod yr adroddiad MAIB o 2022 wedi gwneud nifer o argymhellion ar sut y gallai Cyngor Môn wella diogelwch ar Afon Menai.

Ychwanegodd y byddai hi'n ysgrifennu at y cyngor er mwyn sicrhau bod y gwelliannau hynny wedi cael eu gwneud.

Pynciau cysylltiedig