Cosbau a dirwyon am oryrru o hyn ymlaen ar rai ffyrdd 20mya
- Cyhoeddwyd
Bydd mesurau gorfodi - sef cosb am oryrru - yn dechrau ar rai ffyrdd sydd â therfyn cyflymder 20mya o 18 Mawrth ymlaen.
Fe wnaeth partneriaeth GanBwyll, sy'n ceisio sicrhau diogelwch ar y ffyrdd, ohirio mesurau gorfodi mewn ardaloedd gafodd eu newid i rai 20 milltir yr awr ym mis Medi 2023 er mwyn i bobl ddod i arfer â'r newid ac i gasglu data.
Dywedodd GanBwyll fod "mesurau gorfodi bob amser yn cael ei wneud yn y lle iawn, ar yr amser iawn, a hynny am y rhesymau iawn - i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, "mae cyflwyno terfyn cyflymder 20mya - mewn ardaloedd preswyl yn bennaf - wedi'i gynllunio i achub bywydau".
Hyd yma mae'r gyfraith, a gostiodd £34m i'w sefydlu, wedi rhoi'r dewis i yrwyr dderbyn cyflwyniad 10 munud gerllaw os ydyn nhw'n gyrru dros y terfyn cyflymder yn hytrach na derbyn cosb.
Mae GanBwyll yn cosbi gyrwyr sy'n goryrru ar y ffyrdd os ydyn nhw'n gyrru 10% + 2mya dros y terfyn cyflymder.
Fis Ionawr eleni, cafodd Ymgyrch Ugain ei sefydlu, a oedd yn gyfle i GanBwyll, Heddluoedd Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru helpu gyrwyr i addasu i'r terfyn cyflymder is.
Cafodd bron i 25,000 o gerbydau eu monitro yn ystod deufis cyntaf yr ymgyrch, ac roedd 97% o'r cerbydau hynny yn gyrru ar gyflymder o 25mya neu lai.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Trudi Meyrick, Arweinydd Plismona Ffyrdd Cymru: "Cyflwyno mesurau gorfodi mewn ardaloedd 20mya newydd yw'r cam nesaf yn ein dull o arwain drwy ymgysylltu gyda'r cyhoedd.
"Rydym wedi parhau i adolygu ymddygiad gyrwyr a'r ymateb i'r newid yn y terfyn cyflymder, wrth ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru gydag Ymgyrch Ugain.
"Bydd mesurau gorfodi'n cael eu defnyddio'n gymesur ac yn deg. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â phobl ledled Cymru ac rydym yn hyderus y gellir defnyddio lefel gymesur o orfodi erbyn hyn i'n cadw i symud tuag at gael ffyrdd mwy diogel."
'Costio awr ecstra'
Dywed un perchennog cwmni tacsis o Fôn fod y newid i 20mya wedi cael effaith negyddol ar ei busnes.
Dywedodd Jane Jones: "Mae'n tacsis yn cludo plant i'r ysgolion - pan oedden ni'n rhoi'r cytundebau mewn i adrannau addysg, doedd 20mya ddim mewn grym.
"Roedd o'n cymryd awr i neud un [taith] - erbyn hyn mae'n cymryd awr a hanner, yn y bore ac yn y prynhawn. Rŵan, mae'n costio awr ectstrai ni dalu pwy bynnag sy'n dreifio'r tacsi.
"Mae wedi costio lot fawr o bres i ni... 'dan ni'n rhedeg ceir diesel ac mae ganddyn nhw filter DPF. Ond am ein bod ni'n gyrru 20mya, mae'r filter yn clogio, sy'n golygu fod mwy o fwg yn dod allan o'r exhaust.
"Dydi o'm yn rhad - mae'n costio tua £300 bob tro i lanhau'r DPF."
Wrth drafod cost cyflwyno'r gyfraith newydd, dywedodd Ms Jones: "Dwi'n meddwl fasa hi wedi bod lot gwell i roi'r pres tuag at yr NHS, er mwyn rhoi mwy o gyflogau i weithwyr yr NHS.
"Wrth ysgolion, ysbytai neu cartrefi henoed, mae 20 milltir yr awr yn iawn - ond dim i 'neud ryw filltir a hanner drwy bentref ac ati."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyflwyno terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd preswyl yn bennaf wedi'i gynllunio i achub bywydau a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel i bawb, gan gynnwys modurwyr.
"Mae wedi'i ymchwilio'n drylwyr, roedd pleidlais arno yn y Senedd a chafodd gefnogaeth gan fwyafrif o Aelodau'r Senedd.
"Rydym bob amser wedi dweud mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw penderfynu pa ffyrdd ddylai gadw'r cyfyngiad 30mya mewn ymgynghoriad â'u trigolion ac yn seiliedig ar ganllawiau i helpu i sicrhau cysondeb ledled Cymru."
Difrodi arwyddion
Mae'r gyfraith wedi bod yn ddadleuol ac wedi arwain at ddeiseb gafodd ei harwyddo gan bron i hanner miliwn o bobl.
Mae arwyddion 20mya wedi cael eu difrodi, gydag o leiaf 145 o achosion o ddifrod i arwyddion yng Ngwent ers mis Medi, yn ôl ffigyrau'r Gwasanaeth Newyddion Democratiaeth Leol.
Cofnodwyd y nifer uchaf o achosion o fandaliaeth neu ddifrod i arwyddion terfyn cyflymder yn ardaloedd cynghorau bwrdeistref Torfaen a Chaerffili, gyda 103 o arwyddion wedi'u difrodi.
Dywed Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr bod 100 arwydd wedi eu difrodi, roedd yna 66 o achosion yn Ynys Môn, 33 ym Merthyr Tudful ac "o leiaf 22" yn Sir Fynwy.
Mae cynghorau Torfaen a Blaenau Gwent wedi cofnodi 10 achos yr un o ddifrodi.
Doedd Cyngor Dinas Casnewydd ddim yn gallu darparu ffigyrau ar nifer yr achosion am fandaliaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Chwefror