Cymru v Twrci: Gêm gyntaf Bellamy fel rheolwr

Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Craig Bellamy ei benodi yn rheolwr Cymru yng Ngorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Nos Wener bydd Craig Bellamy yn cael gwireddu ei freuddwyd fawr o reoli tîm dynion Cymru wrth iddyn nhw wynebu Twrci yn eu gêm gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni.

Cafodd Bellamy, sy’n 45 oed ac yn gyn-gapten ar ei wlad, ei benodi’n rheolwr Cymru ar gytundeb pedair blynedd ym mis Gorffennaf, gan olynu Rob Page.

Fe enillodd 78 o gapiau yn chwarae yn y crys coch. Nos Wener cawn weld Cymru o dan Bellamy y rheolwr am y tro cyntaf.

Twrci yw’r gwrthwynebwyr – tîm a gyrhaeddodd rownd wyth olaf Pencampwriaeth Ewro 2024.

Does dim dwywaith bod yna bwysau ar ysgwyddau Bellamy - gyda Chymru wedi ennill ond un o'u chwe gêm diwethaf.

“Mae pwysau’n fraint," meddai, "ac ry’n ni’n mynnu hynny ohonom ni ein hunain.

“Dyw pwysau byth yn broblem i mi – fe fyddai yna rhywbeth o’i le pe na bai yna bwysau. Dwi’n mwynhau’r ochr yna.”

Balchder Bellamy

Sgoriodd Bellamy 19 o goliau rhyngwladol yn ystod ei yrfa lewyrchus. Bu'n chwarae hefyd ar y lefel uchaf gyda chlybiau Manchester City, Lerpwl a Newcastle United.

Ond chafodd e fyth y cyfle i gynrychioli Cymru mewn prif gystadleuaeth, gan ymddeol o bêl-droed rhyngwladol lai na thair blynedd cyn i Gymru gystadlu’n Ewro 2016.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bellamy yn is-reolwr i Vincent Kompany yn Burley cyn ei benodiad fel rheolwr Cymru

Wedi bod yn is-reolwr i Vincent Kompany - sydd bellach gyda Bayern Munich - gyda chlybiau Burnley ac Anderlecht, mae Bellamy wedi dychwelyd i’w wlad enedigol, gyda’r bwriad o geisio arwain Cymru i Gwpan Y Byd.

Ond cyn i rowndiau rhagbrofol y gystadleuaeth honno ddechrau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, mae’n rhaid creu argraff yn eu grwp B4 yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Twrci, Montenegro a Gwlad yr Iâ - cystadleuaeth all brofi’n allweddol wrth geisio sicrhau lle mewn rowndiau terfynol, diolch i gemau ail-gyfle.

Mae'r gêm gyntaf ar y daith honno nos Wener ac mae Bellamy yn cyfaddef y bydd yna emosiynau pan fydd yn sefyll ar ochr y cae.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n mynd i fod yn foment fydd yn llawn balchder i mi," meddai Bellamy

"Dwi wedi gweithio'n galed iawn i gyrraedd y pwynt yma," meddai, wrth siarad gyda'r wasg am y tro olaf cyn y gêm.

"Mae'n mynd i fod yn foment fydd yn llawn balchder i mi... fe fydd yna emosiynau... ond mae gen i ddyletswyddau ac unwaith y bydd y chwiban cyntaf yna'n cael ei chwythu fe fydd fy meddwl yn llwyr ar y gêm, ar wneud y penderfyniadau gorau.

"Dwi'n mynd i fwynhau y profiad yma. Dwi'n difaru na wnes i fwynhau mwy o fy ngyrfa. Dwi'n deall pwysigrwydd y swydd, beth mae'n ei olygu i gynrychioli eich gwlad. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle ond dwi hefyd am ei fwynhau."

Cyffro chwaraewyr a chefnogwyr

Ddydd Llun yr wythnos hon oedd ei ddiwrnod cyntaf gyda’i chwaraewyr, ond mae Bellamy’n barod wedi creu agraff – Connor Roberts a Harry Wilson yn ddau sydd wedi sôn am eu cyffro o fod yn rhan o garfan Bellamy a’r steil newydd o chwarae y gwelwn o dan y cyn-chwaraewr.

Nid y chwaraewyr yn unig sy'n edrych ymlaen at y cyfnod newydd yma i'r tîm cenedlaethol o dan Bellamy.

Disgrifiad o’r llun,

Heledd Ifans a Gwenllian Evans, cefnogwyr Cymru

"Dwi'n gyffrous iawn," meddai'r gefnogwraig Heledd Ifans o Gaerdydd. "Dwi ychydig bach yn nerfus, ond yn edrych ymlaen i weld beth fydd dylanwad Bellamy ar y ffordd y byddwn ni'n chwarae."

Mae Gwenllian Evans, hefyd o'r brifddinas, yn cytuno.

"Fi’n credu 'na'th Page llawer o gamgymeriadau erbyn y diwedd. Mae'r chwaraewyr angen newid, a dwi’n meddwl y bydd ‘na ffordd gwahanol o chwarae, mwy ymosodol o dan Bellamy.

"Mae ganddo lawer o wybodaeth tactegol felly dwi'n gobeithio y bydd e'n dod â llawer i'r tîm."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan James yn un o sawl chwaraewr na sydd ar gael i Bellamy yn erbyn Twrci

Fe fydd Cymru heb nifer o’u chwaraewyr ymosodol oherwydd anafiadau – mae David Brooks o glwb Bournemouth, Daniel James o Leeds United a Rabbi Matondo o Rangers yn absennol. Mae chwaraewyr Ipswich Town Nathan Broadhead a Wes Burns hefyd wedi’u hanafu.

Yn sgil yr anafiadau, mae chwaraewr Caerdydd Rubin Colwill a chwaraewr canol cae 18 oed Leeds, Charlie Crew, wedi’u hychwanegu i'r garfan.

Mae dau chwaraewr sydd eto i ennill cap ar y lefel yma yn y garfan – golwr Leeds Karl Darlow a’r amddifynnwr Owen Beck sydd ar fenthyg gyda Blackburn Rovers o Lerpwl.

Cymru yn erbyn Twrci

Dim ond un o’u pum gêm diwethaf yn erbyn Twrci mae Cymru wedi’i hennill - o 2 i ddim yn Ewro 2020. Colli dwy a dwy gêm gyfartal oedd canlyniad y gweddill.

Serch hynny, dydy Twrci heb lwyddo i guro Cymru yn eu pedair gêm oddi cartref diwethaf nhw, gan sgorio dim ond un gôl yn erbyn y crysau cochion.

Ond mae goliau wedi bod yn brin i Gymru hefyd - dydyn nhw ddim wedi sgorio yn eu tair gêm diwethaf, ac fe gollon nhw eu gêm mwya' diweddar o bedair i ddim yn erbyn Slofacia ym mis Mehefin eleni.

Dydy Twrci ddim wedi ennill un o’u pum gêm diwethaf i ffwrdd o gartref – dwy gêm gyfartal a thair colled, tra bo’ record gartre Cymru yn un i’w chanmol - ennill 17, 10 gêm gyfartal a cholli dim ond tair o’u 30 gêm o flaen eu torf eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru 1 - 1 Twrci, 21 Tachwedd, 2023

Dim ond dwy o’u 11 gêm diwethaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd mae Twrci wedi’u colli - maen nhw wedi ennill pump a chael pedair gêm gyfartal - ond fe gollon nhw eu gêm mwyaf diweddar ym mis Medi 2022 yn erbyn Ynysoedd Ffaroe, sy’n rhif 125 ar restr detholion y byd.

Mae Harry Wilson wedi bod yn rhan o bum gôl yn ei saith gêm diwethaf i Gymru – dwy gôl, a chreu tair – gydag un o’r rheiny yn erbyn Twrci fis Tachwedd y llynedd.

Mae Cenk Tosun wedi sgorio tair gôl yn ei bedair gêm ddiwethaf i Dwrci, a phob un fel eilydd. Mae e wedi rhwydo 21 o goliau dros ei wlad gydag ond Hakan Sukur (51), Burak Yilmaz (31) a Tuncay Sanli (22) yn sgorio mwy nag e.