Huw Edwards ddim eto wedi dychwelyd £200,000 i'r BBC
- Cyhoeddwyd
Mae “trafodaethau yn parhau” am y posibilrwydd o geisio cael y cyflwynydd newyddion Huw Edwards i ad-dalu £200,000 yn ôl i'r BBC, medd cyfarwyddwr cyffredinol y gorfforaeth.
Mae’r BBC wedi gofyn i Edwards dalu'n ôl y cyflog a enillodd wedi iddo gael ei arestio fis Tachwedd diwethaf am greu delweddau anweddus o blant.
Wrth siarad mewn pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Mawrth, dywedodd y cyfarwyddwr cyffredinol Tim Davie: “Rydyn ni wedi gwneud y cais ffurfiol ac ni allaf fynd i ormod o fanylion ond mae trafodaethau ar y gweill.
"Dylai'r arian gael ei ddychwelyd ac fe wnaethom y cais."
Pan holodd cadeirydd y pwyllgor cyfathrebu a digidol, y Farwnes Stowell, a oedd y BBC wedi gosod dyddiad penodol i Edwards, dywedodd Mr Davie nad oedd dyddiad penodol.
“Ond rydyn ni’n disgwyl symud ymlaen a chael ateb,” meddai.
Ychwanegodd pennaeth y BBC y gallai’r gorfforaeth ymchwilio i ffyrdd cyfreithiol o adennill yr arian.
'Wedi niweidio enw da’r BBC'
Cafodd Huw Edwards ei wahardd o'r gwaith ym mis Gorffennaf 2023 a’i arestio bedwar mis yn ddiweddarach. Fe ymddiswyddodd o'r BBC ym mis Ebrill eleni.
Ym mis Gorffennaf, plediodd Edwards yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.
Fe wnaeth y cyn-gyflwynydd “ymddwyn yn anonest” wrth barhau i gymryd ei gyflog er ei fod yn gwybod beth roedd wedi’i wneud, meddai cadeirydd y BBC, Samir Shah, mewn llythyr at staff fis diwethaf.
Wrth siarad â'r pwyllgor ddydd Mawrth, dywedodd Mr Shah fod "dim byd pwysicach nag ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC ac rydyn ni'n geidwaid yr ymddiriedaeth honno".
Ychwanegodd: “Fe wnaeth yr hyn a wnaeth Huw Edwards niweidio enw da’r BBC.
"Roedd yn sioc canfod ei fod wedi'i gyhuddo ac wedi byw bywyd dwbl.
"Y person a wnaeth fradychu ymddiriedaeth y genedl yn y BBC oedd Huw Edwards."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd8 Awst