Dyn yn gwadu llofruddio dynes 69 oed yn Y Rhyl

Catherine FlynnFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Catherine Flynn ei disgrifio fel "mam, nain, hen nain, modryb a chwaer hyfryd" gan ei theulu

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 34 oed wedi cyfaddef lladd dynes 69 oed yn Y Rhyl, ond mae'n gwadu ei llofruddio.

Fe wnaeth Dean Mears bledio'n euog i ddynladdiad Catherine Flynn yn ei chartref ar Ffordd Cefndy yn y dref ar 24 Hydref y llynedd.

Mae Mr Mears yn gwadu llofruddio Ms Flynn, a thri chyhuddiad arall o ladrata ar y noson cafodd Ms Flynn ei lladd a'r diwrnod blaenorol.

Fe fydd Mr Mears - wnaeth ymddangos yn y gwrandawiad drwy gyswllt fideo - yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 29 Ebrill.

Mewn teyrnged wedi ei marwolaeth, dywedodd teulu Catherine Flynn fod "Cathy yn fam, nain, hen nain, modryb a chwaer hyfryd, ac yn ail fam ac yn ffrind da i nifer".

"Roedd yn caru ei theulu yn fwy na dim byd arall.

"Mae ei marwolaeth wedi gadael bwlch enfawr yn ein calonnau, a bydd pethau byth yr un peth hebddi.

"Nid yn unig yr ydym wedi colli ein mam a'n nain, ond rydym wedi colli ein ffrind gorau, ein lle saff, ein diogelwch, asgwrn cefn y teulu a'n goleuni dyddiol."

Pynciau cysylltiedig