Morgan yn gwrthod dweud a fyddai'n gweithio gyda Phlaid Cymru

Mae Eluned Morgan yn "gwybod bod sialens gyda ni" cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae Eluned Morgan wedi gwrthod dweud a fyddai hi'n cydweithio gyda phrif weinidog o Blaid Cymru petai Llafur yn cael eu trechu yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y prif weinidog bod ei phlaid yn wynebu her, wrth i arolygon barn awgrymu bod pleidiau eraill yn ennill cefnogaeth ar draul Llafur.
Canolbwyntio ar sicrhau mai hi sy'n parhau fel prif weinidog yw ei blaenoriaeth, meddai, nid trafod cytundebau posib gyda phleidiau eraill yn dilyn yr etholiad fis Mai.
Ar drothwy blwyddyn hollbwysig, bu Eluned Morgan yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C yn yr olaf mewn cyfres o gyfweliadau gydag aelodau blaenllaw y prif bleidiau gwleidyddol.
Gweddill y gyfres
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd14 Awst
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd15 Awst
Mae Llafur wedi bod mewn grym ac wedi gwneud cyfres o gytundebau gyda phleidiau eraill yr asgell chwith ers dechrau datganoli yn 1999.
Yn ôl rhai arolygon barn diweddar, mae cefnogaeth i Lafur yn llawer is na phob etholiad blaenorol i'r Senedd - a thu ôl i Blaid Cymru a Reform UK.
'Sicrhau mai fi fydd yn brif weinidog'
Fe ofynnwyd i Eluned Morgan a fyddai hi'n fodlon ffurfio clymblaid dan arweinyddiaeth Plaid Cymru mewn Senedd grog, er mwyn atal Reform rhag dod i rym.
"Dwi ddim yn mynd i ddelio gyda'r sefyllfa yna tan ein bod ni'n gwybod ble y'n ni'n sefyll," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Beth sy'n bwysig i fi, mai Llafur sy'n top pan mae'n dod i'r etholiad. Dyna'r peth pwysig. Dyna be ni'n gweithio tuag at.
"Ond be' sy'n bwysig yw bod pobl yn deall y bygythiad o Reform. Os maen nhw'n dod mewn, beth fyddai'n digwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ni?
"Dwi yn awyddus iawn i sicrhau mai fi fydd yn parhau fel Prif Weinidog Cymru."

Mae Eluned Morgan wedi dweud ei bod hi'n barod i feirniadu polisïau llywodraeth Syr Keir Starmer pan fo angen
Mewn ymateb i'r arolygon barn, dywedodd: "Ni'n gwybod bod sialens gyda ni."
Am y tro, dywedodd ei bod hi am ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r cyhoedd, gan gynnwys amseroedd aros am ofal iechyd, ond y byddai Llafur yn cyhoeddi gweledigaeth am y dyfodol "mewn ychydig o fisoedd".
Mynnodd bod cynnydd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - diolch i wariant ychwanegol yn San Steffan - yn dwyn ffrwyth.
Ond mae'r prif weinidog wedi dweud ei bod hi'n barod i feirniadu polisïau llywodraeth Syr Keir Starmer pan fo angen.
'Pwysig cydnabod sefyllfa Palestine'
Aeth hi ddim mor bell â beirniadu penderfyniad yr Ysgrifennydd Catref Yvette Cooper i wahardd y grŵp Palestine Action - penderfyniad sydd wedi hollti barn o fewn y Blaid Lafur.
Ond dywedodd: "Beth sy'n bwysig i fi yw cydnabod bod hawl gan bobl i brotestio a hefyd bod e'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y sefyllfa yn Palestine.
"Mae pobl yn diodde'n enbyd yn fanna ac mae'n rhaid i ni fod, dwi'n meddwl, yn gweithio yn fwy actif tuag at heddwch yn y wlad yna."
Gallwch ddarllen am gyfweliadau gyda chynrychiolwyr Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, Reform a'r Ceidwadwyr yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.