Rhun ap Iorwerth: 'Dim clymblaid enfys wedi etholiad y Senedd'

Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Bu Rhun ap Iorwerth yn sgwrsio gyda'r gohebydd Bethan Rhys Roberts ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud na fyddai'n ystyried bod yn rhan o glymblaid enfys wedi etholiad y Senedd fis Mai nesaf.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth na fyddai ei blaid yn cydweithio â'r Ceidwadwyr ar unrhyw gyfri'.

Ychwanegodd ei fod yn hyderus bod ganddo'r gallu i gael y gorau i Gymru o ran ariannu gan Lywodraeth y DU - rhywbeth mae'n credu bod Llafur Cymru wedi methu â gwneud.

Ar drothwy blwyddyn hollbwysig, bu'n siarad â Bethan Rhys Roberts o raglen Newyddion S4C yn y cyntaf mewn cyfres o gyfweliadau gydag aelodau blaenllaw y prif bleidiau gwleidyddol.

Dywedodd Mr ap Iorwerth bod Plaid Cymru "mewn lle da", a'u bod yn disgwyl bod y blaid fwyaf yn y Senedd wedi'r etholiad.

"Mae'r sylfeini yn gryf - yr etholiad gorau erioed y llynedd," meddai.

"Mae'r neges, dwi'n meddwl, yn glir - bod dybryd angen arweinyddiaeth newydd ar Gymru, a Phlaid Cymru ydi'r blaid i gynnig yr arweinyddiaeth honno."

'Plaid Cymru yn lywodraeth gredadwy'

Yn ganolog i weledigaeth Plaid Cymru mae'r syniad o ariannu teg i Gymru - diwygio'r ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu trwy fformiwla Barnett.

Pan ofynnwyd iddo sut y byddai'n mynd ati i wneud hynny pe bai ei blaid yn ennill yr etholiad, dywedodd ei fod yn "barod i sefyll i fyny dros Gymru" mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

"'Dan ni angen perswadio pobl bod ganddyn nhw ym Mhlaid Cymru lywodraeth gredadwy yn barod i ddechrau ar y gwaith yn syth i fynd i'r afael â'r gwasanaeth iechyd, addysg, yr economi ac yn y blaen.

"Wrth gwrs mae 'na elfen arall yno, a 'dan ni wedi dod i ddeall ei hangen hi fwy nag erioed dros y flwyddyn ddiwethaf - bod angen llywodraeth sy'n barod i sefyll i fyny dros Gymru.

"Dwi'n meddwl mai dyna o bosib sy' 'di siomi pobl yn fwy na dim dros y flwyddyn ddiwetha' - methiant llwyr Llafur yng Nghymru i hyd yn oed trio, a ma' hynny'n allweddol."

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Eluned Morgan wedi methu â chael y gorau i Gymru gan Lywodraeth Lafur y DU

Gofynnwyd iddo sut y byddai Plaid Cymru'n llwyddo i newid agwedd Llywodraeth Lafur y DU, lle mae Llafur Cymru wedi methu.

"Mae Eluned Morgan yn dweud hynny wrthon ni dro ar ôl tro - os dwi'n methu, sut wyt ti'n mynd i wneud?

"Gweld Llafur yng Nghymru yn methu â gwneud yr achos yn ddigon cadarn ydw i, dro ar ôl tro, a dyna mae pobl Cymru yn ei weld.

"'Dan ni isio rhoi llywodraethau'r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa lle maen nhw'n deall yn union be' ydi gofynion pobl Cymru.

"Dydi Eluned Morgan a Llafur Cymru ddim hyd yn oed yn rhoi Llafur Prydain mewn sefyllfa lle maen nhw'n gorfod teimlo'r angen i weithredu er budd Cymru.

"Mi fydd teyrngarwch Plaid Cymru, yn yr holl drafodaethau yna efo Keir Starmer, i bobl Cymru."

'Dylai pawb boeni am Reform'

Mae arolygon barn yn awgrymu y bydd hi'n agos rhwng Plaid Cymru a Reform UK i fod y blaid fwyaf yn y Senedd wedi'r etholiad fis Mai.

"Mae hwn yn ffenomenon fyd-eang, a phe bai o ddim yn Reform mi fyddai o'n rhywun arall," meddai Mr ap Iorwerth.

"Dyma sy'n digwydd ar hyn o bryd. Twf yr asgell dde eithafol, sy'n codi ofn ar bobl - dyna ydi eu currency nhw.

"'Dan ni yn gorfod cynnig atebion mewn ffordd sydd yn bositif, sydd yn wirioneddol yn mynd i'r afael â'r problemau - iechyd, addysg ac yn y blaen."

Pan gafodd ei holi a yw'n poeni am Reform, dywedodd y dylai "pawb boeni am Reform".

"Dwi'n gwneud hynny'n glir iawn, iawn. Mae'r gwleidyddiaeth maen nhw yn ei gynnig yn wleidyddiaeth sydd â dim diddordeb yn yr hyn sy'n iawn i Gymru.

"Dim diddordeb mewn adeiladu rhaglen bolisi, na chael ymgeiswyr, nac arweinydd, nac unrhyw beth sy'n blaenoriaethu Cymru.

"Dim ond targedu Prydain maen nhw, ac mae o'n wleidyddiaeth beryglus."

Dim cydweithio â'r Ceidwadwyr

Mae Mr ap Iorwerth wedi dweud eisoes na fyddai'n gweithio gyda Reform ar ôl yr etholiad er mwyn ffurfio clymblaid, ac fe wnaeth yn amlwg yn y cyfweliad nad yw am weithio gyda'r Ceidwadwyr chwaith.

"Na, dydan ni ddim yn mynd i fod yn cydweithio efo'r Ceidwadwyr," meddai.

"'Dan ni ddim yn gwybod a fydd y Ceidwadwyr yno mewn unrhyw niferoedd - mae ganddyn nhw eu problemau difrifol eu hunain ar hyn o bryd.

"Un blaid, fwy na heb, ydy'r Ceidwadwyr a Reform erbyn hyn - y naill yn trio mynd yn fwy i'r dde na'r llall."

Ychwanegodd na fyddai Plaid Cymru'n fodlon bod yn rhan o unrhyw fath o glymblaid enfys wedi'r etholiad.

"Be' 'dan ni angen ydi sefydlogrwydd, a ma' hynny'n gallu cymryd sawl ffurf, a hynny i'w benderfynu ar ôl yr etholiad."

Pan holwyd ef a fyddai'n barod i gydweithio gyda Llafur, dywedodd fod "cydweithio yn hollol normal".

"Mae hynny'n gallu digwydd yn ffurfiol neu'n anffurfiol."

Bydd Newyddion S4C yn cyfweld chynrychiolwyr gweddill y pleidiau dros yr wythnosau nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.