'Meddwl am ddyfodol y mab ar ôl fi farw yn cadw fi'n effro yn y nos'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder ynglŷn â'r hyn fydd yn digwydd i filoedd o bobl sydd ag anableddau dysgu difrifol ar ôl i'w rhieni farw.
Yn ôl elusen Mencap, dyw hyd at 75% o'r bobl hyn erioed wedi symud o'r cartref teuluol.
Mae rhai rhieni, meddai Mencap, hyd yn oed yn dweud eu bod yn gobeithio byw yn hirach na'u plant oherwydd yr ofn am yr hyn fyddai'n digwydd pe bai nhw'n marw gyntaf.
Ond mae grŵp o ffrindiau gydag anableddau yn benderfynol o "newid y drefn" drwy geisio dod o hyd i gartrefi eu hunain ble mae modd iddyn nhw fyw gyda'u gofalwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod "wedi ymrwymo i wella hygyrchedd mewn tai cymdeithasol".
'Cadw fi’n effro'
Mae Steffan, mab y gyflwynwraig a'r cynhyrchydd Gaynor Davies bellach wedi mynd i fyw yn annibynnol.
Dyw Steffan ddim yn gallu cyfathrebu drwy siarad ac mae'n defnyddio cadair olwyn.
Wrth siarad am ei phrofiad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Gaynor fod meddwl am ddyfodol Steffan hebddi hi yn ei chadw hi'n "effro" bob nos.
"Dwi'n siŵr fod pob rhiant yn meddwl am y peth, yn enwedig rhiant neu fam i blentyn ag anghenion dwys," meddai.
"Beth sy'n mynd i ddigwydd pan dwi'n marw? O'dd o’n cadw fi’n effro yn y nos.
"Pwy sy’n mynd i edrych ar ei ôl o fel dwi’n gofalu amdano fo? Pwy sy’n ei ddeall o fel dwi’n ei ddeall o?"
Esboniodd fod trafod y cwestiynau hyn yn "rhywbeth o’n i’n teimlo fod rhaid fi 'neud tra dwi yma".
- Cyhoeddwyd7 Hydref
- Cyhoeddwyd27 Medi
Symudodd Steffan i fyw yn annibynnol pan yn 32 oed, ac yn ôl Gaynor, roedd ei mab yn "fwy na parod i adael tŷ ei fam".
"O’n i'n meddwl 'o fydd o’n colli fi', 'fydd o ddim yn copio hebddo fi'. Ond wir ma'r holl beth wedi bod yn wych.
"Dwi jest mor falch o ba mor hapus ydy o," meddai.
Ychwanegodd: "Wrth gwrs mae’n wahanol i bob rhiant a ma' bob plentyn ac oedolyn hefo anghenion gwahanol ond mae o wedi gweithio i ni.
"I fi, mae o 'di bod yn faich anferth oddi ar fy ysgwyddau i weld o mor hapus.
"Ma’r boen yna wedi mynd yn rhyfeddol ac mae wedi gweithio i ni a dwi jest mor ddiolchgar o hynny."
Mae gan Ellie Lane, 24 oed o'r Gŵyr, syndrom Down a diabetes math 1.
Yn ddiweddar, fe gafodd ei mam, Jane, ddiagnosis o ganser - rhywbeth a sbardunodd sgyrsiau difrifol rhwng y ddwy ynglŷn â'r hyn y mae hi eisiau ei wneud gyda'i bywyd.
Daeth yr ateb yn syth, meddai Jane, sef "disgyn mewn cariad, dod o hyd i swydd sy'n talu a gadael cartref".
Erbyn hyn mae Ellie mewn gwaith ac mewn perthynas - ond mae'r drydedd nod yn profi'n lawer anoddach i'w chwblhau.
Oherwydd ei chyflyrau, bydd angen cefnogaeth ar Ellie os ydi hi'n symud allan o gartref ei rhieni.
Ar hyn o bryd, mae hawl gan oedolion gydag anableddau dysgu i wneud cais i'w hawdurdod lleol am lety.
Ond yn ôl Jane, sydd newydd ymddeol o fod yn nyrs, mae 'na brinder opsiynau ar gael, a ni fyddai gan Ellie lawer o ddylanwad ar le na gyda phwy y byddai hi'n cael byw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymrwymedig i wella hygyrchedd mewn tai cymdeithasol" ac wedi buddsoddi mewn adeiladu cartrefi newydd i'r pwrpas hwn.
Ychwanegodd eu bod yn darparu grantiau i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wneud cartrefi'n addas.
Fe aeth Jane ati i gysylltu â grŵp o deuluoedd oedd mewn sefyllfa debyg, oedd â diddordeb mewn sefydlu cydweithrediaeth dai.
Mae tai cydweithredol yn cael eu rhannu gan grwpiau o bobl sydd yn berchen ar gyfran deg o'r tŷ ac sy'n rhannu cyfrifoldebau o ran gwaith cynnal a chadw ac ati.
Wedi saith mlynedd o waith, mae'r grŵp yn credu eu bod yn agosáu at allu creu cydweithrediaeth gyfreithlon, fydd yn eu galluogi i wneud ceisiadau am grantiau i adeiladu'r tŷ.
Gobaith y grŵp - sy'n cynnwys wyth o deuluoedd - yw cynnig cartref sefydlog i'w plant lle bydd modd iddyn nhw fyw ar ôl i'w rhieni farw.
Un o'r rhai sy'n gobeithio byw gydag Ellie yw Elin, sy'n 26 oed ac yn dod o Abertawe.
Fe wnaeth ei mam hi, Alison, ddechrau chwilio o ddifrif am gartref hirdymor i'w merch ar ôl i hithau gael ei tharo'n ddifrifol wael.
"Un o'r pethau dywedodd Elin wrtha i oedd 'pwy sydd am edrych ar fy ôl i pan wyt ti wedi mynd?' felly mae hyn yn ymdrech i ddiogelu'r dyfodol mewn ffordd," meddai.
Fe wnaeth Elin symud o'r cartref teuluol yn ystod ei hamser yn y coleg, ond er symud yn ôl wedi ei hastudiaethau, mae hi'n benderfynol o symud i'w chartref ei hun.
Gobaith y grŵp - sy'n cwrdd o leiaf unwaith y mis - yw gweld eu plant yn symud i'w cartref newydd ymhen dwy flynedd.
Mae'r plant hefyd yn cwrdd yn gyson er mwyn ymarfer sgiliau ymarferol fel coginio.
Sefyllfa dai yn 'gymhleth'
Mae tua 16,000 o oedolion gydag anableddau dysgu difrifol yng Nghymru ar hyn o bryd, ond dim ond 4,000 o'r rheini sy'n byw mewn llety gyda chefnogaeth.
"Ry'n ni eisiau i hyn fod yn ffordd newydd o wneud pethau, rhywbeth fydd yn newid y drefn," meddai Alison.
"Does gan rieni pobl ag anableddau dysgu ddim yr amser i reoli cynllun fel hyn yn aml iawn, ond bydden ni wrth ein boddau yn gweld mwy o brosiectau tebyg yn cael eu datblygu."
Dywedodd Wayne Crocker o elusen Mencap fod clywed teuluoedd yn dweud eu bod yn gobeithio bod eu plant yn marw gyntaf wastad yn anodd iawn i'w glywed.
Ychwanegodd fod y sefyllfa dai ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn "gymhleth", a bod diffyg tai a'r holl ddisgwyliadau ar y teuluoedd yn gwneud y sefyllfa yn anodd iawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd8 Mehefin
- Cyhoeddwyd28 Awst