'Ofn ymhlith athrawon' am gynlluniau addysg Gymraeg y llywodraeth

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yw'r ysgrifennydd cabinet sy'n gyfrifol am lywio'r Bil trwy'r Senedd

  • Cyhoeddwyd

Mae undebau athrawon wedi mynegi pryder am gynlluniau'r llywodraeth i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol.

Bydd Bil y Gymraeg ac Addysg yn rhoi’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mewn cyfraith, a’i nod yw sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda’r gallu i siarad Cymraeg.

Ond mae nifer o undebau athrawon wedi galw am fwy o sicrwydd am y cyllid a'r gefnogaeth fydd ar gael i ysgolion, ac wedi mynegi pryder am eu gallu i gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg o ystyried yr "argyfwng staffio a recriwtio" presennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "dim ond rhan o nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yw deddfwriaeth".

'Ofn gwirioneddol ymhlith athrawon'

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i un o bwyllgorau’r Senedd roedd yr undebau athrawon yn croesawu amcanion y mesur ond yn poeni am sut y byddai'n cael ei gyflawni.

Mae 'na bryder nad oes asesiad wedi’i wneud o effaith y newidiadau ar lwyth gwaith athrawon, nac o’r cyllid ychwanegol sydd ei angen i gefnogi’r cynigion.

Dywedodd NAHT Cymru fod mwyafrif eu haelodau yn "gwneud toriadau sylweddol i adnoddau, torri oriau staff, ac mewn rhai achosion, gweithwyr er mwyn mantoli eu cyllidebau".

Maen nhw'n dadlau bod rhaid mynd i'r afael â'r "argyfwng presennol cyn y gallwn ddechrau cymryd camau tuag at gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion".

Mae’n safbwynt sy'n cael ei rannu gyda nifer o undebau athrawon eraill.

Yn ôl ASCL Cymru, bydd "cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac oriau cyswllt y Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru yn hynod heriol, o ystyried yr argyfwng staffio a recriwtio".

Galwodd undeb arall am ymrwymiad na fyddai unrhyw aelodau o staff yn colli eu swyddi os nad ydynt yn gallu dysgu digon o'r iaith i allu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl NASUWT, "mae 'na ofn gwirioneddol ymhlith athrawon uniaith Saesneg am y pwysau posib a allai gael ei roi arnyn nhw, neu ar fygythiadau i'w bywoliaeth".

“Fe allai'r newid yma o ddull cydweithredol calonogol effeithio’n wael ar iechyd meddwl athrawon di-Gymraeg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed Llywodraeth Cymru mai nod y mesur yw rhoi "cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru i siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus, beth bynnag fo'u cefndir neu eu haddysg".

Bydd ysgolion yn cael eu rhoi mewn categorïau gwahanol yn dibynnu os ydynt yn addysgu yn Gymraeg yn unig, yn ddwyieithog, neu’n cynnal gwersi yn Saesneg yn bennaf.

Bydd gan bob ysgol dargedau iaith yn dibynnu ar y categori y maen nhw ynddo, gan gynnwys isafswm lefelau derbyniol.

Ond mae NEU Cymru yn dweud bod "angen bod yn ofalus wrth orfodi isafswm o ddarpariaeth Gymraeg ar ysgol cyfrwng Saesneg", gan y byddai hynny yn eu barn nhw yn gallu cael "effaith andwyol ar staff, yn enwedig os nad yw staff yn hyderus wrth addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg".

Effaith ar ddatblygiad ysgolion Cymraeg?

Mae yna bryder hefyd y gallai cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru gael effaith andwyol ar ysgolion cyfrwng Cymraeg

Mae UCAC yn credu bod gan ysgolion rôl bwysig i’w chwarae wrth gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac maen nhw'n dweud bod cynlluniau’r llywodraeth yn “ganmoladwy ac uchelgeisiol”.

Ond maen nhw hefyd yn "ofni y gallai rhai rhieni dybio (yn anghywir felly yn ein barn ni), y byddai eu plant yn dod yn siaradwyr rhugl o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Maen nhw'n poeni y gallai hyn gyfyngu ar ddatblygiad ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae'n fater sydd hefyd yn peri pryder i Estyn, yr arolygydd ysgolion, sy'n credu bod yna bosibilrwydd y byddai cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg yn gyffredinol yn "rhwystro'r symudiad tuag at sefydlu ysgolion Cymraeg newydd mewn rhai awdurdodau".

Maen nhw'n rhybuddio bod yna “berygl y bydd rhai rhieni yn teimlo bod y ddarpariaeth o fewn ysgolion categori 'dwyieithog' a 'Saesneg, rhannol Gymraeg' yn ddigonol i ddiwallu anghenion eu plant o ran darpariaeth Gymraeg", yn hytrach na bod y disgyblion hynny yn elwa o ysgolion uniaith Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod cael gweithlu addysg digonol yn allweddol i weithredu Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Mae'r Bil yn mynd i'r afael â'r mater hwn ar lefel genedlaethol a lleol.

"Dim ond rhan o nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yw deddfwriaeth.

"Mae ein Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg, dolen allanol yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc, neu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg."