'Disgyblion yn gwisgo festiau trywanu i'r ysgol oherwydd ofn'

Wes CunliffeFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth rhywun ymosod ar Mr Cunliffe wrth iddo fod â rhan mewn gwerthiant cyffuriau

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn prynu festiau trywanu ar-lein a'u gwisgo i'r ysgol, yn ôl ymgyrchydd yn erbyn troseddau cyllyll.

Mae Wes Cunliffe o Gasnewydd wedi trawsnewid ei fywyd ar ôl i rywun ymosod arno wrth iddo fod â rhan mewn gwerthiant cyffuriau.

Mae'n credu bod cymaint o ofn am droseddau cyllyll yng Nghymru fel bod pobl ifanc yn ei ardal yn prynu eitemau i amddiffyn eu hunain.

Daw hyn wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi mesurau newydd i wneud prynu arfau ar-lein yn anoddach.

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedden nhw'n ymwybodol bod festiau trywanu'n cael eu gwisgo, ond y bydden nhw'n hoffi clywed mwy am brofiadau pobl ifanc.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd diogelwch mewn ysgolion "o ddifrif".

Cyfeiriodd Mr Cunliffe yn benodol at achosion amlwg diweddar, gan gynnwys achos o drywanu athrawon yn Rhydaman, a llofruddiaeth Harry Baker o Gasnewydd.

Mae pobl ifanc yn gwisgo festiau trywanu am eu bod ofn ymosodiad, meddai'r ymgyrchydd a mentor i bobl ifanc.

"Mae pobl ifanc yn dweud wrtha i eu bod yn cario cyllyll oherwydd ofn.

"Os oes ffraeo rhwng dau unigolyn, er enghraifft, yna bydd y ddau yn cario arf fel amddiffyniad.

"Ym mhobman ar wefannau cymdeithasol, 'dy chi'n gweld pobl ifanc â balaclafas yn ymosod ar ei gilydd gyda machetes, cyllyll ac ati."

Troseddau cyllyll ar eu lefel uchaf erioed

Pan oedd Mr Cunliffe, sydd bellach yn 34, yn ddyn ifanc, roedd yn ymwneud â gwerthu cyffuriau.

Cafodd ei drywanu mewn ymosodiad, ac er ei fod yn lwcus i fod yn fyw, dywedodd bod "llawer sydd ddim yr un mor ffodus".

Roedd nifer y troseddau difrifol yn ymwneud â chyllyll neu arfau miniog a gofnodwyd yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2024 yng Nghymru a Lloegr 54% yn uwch na'r nifer yn 2016, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn 2020, cyrhaeddodd troseddau cyllyll eu lefel uchaf erioed.

Mae rheolau newydd Llywodraeth y DU yn ymwneud â gwerthu cyllyll ar-lein, ac yn cynnwys cosbau llymach i'r rhai sy'n eu torri.

Wes CunliffeFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Cunliffe yn aml yn ymweld ag ysgolion i rannu ei brofiadau am "risgiau a chanlyniadau" troseddau cyllyll

Dywedodd Mr Cunliffe bod y rheolau newydd yn ddechrau da, ond nid yn "ateb llawn".

Mae'n galw am ddatrysiad sy'n delio gyda'r gymuned i gyd.

Mae Mr Cunlliffe wedi ymweld ag ysgolion yng Nghasnewydd, Caerdydd ac Abertawe, ac mae'n dweud bod yr heddlu wedi bod yn gefnogol i'w waith.

Dywedodd Heddlu Gwent bod "na ddim rheswm" i unrhyw un gario cyllell, a bod swyddogion yn ymweld ag ysgolion a cholegau yn gyson.

Ychwanegodd y llefarydd nad yw'r llu wedi dod o hyd i festiau trywanu yng Nghasnewydd hyd yn hyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn trin diogelwch mewn ysgolion "o ddifrif", a'u bod yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU ynghylch gwerthu cyllyll ar-lein.