Ceredigion: Angen i 2,000 wneud cais newydd am dŷ cymdeithasol

Adeilad Cyngor CeredigionFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn dweud bod angen aildrefnu'r gefnogaeth sydd ar gael yn sgil cynydd yn y galw

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd rhaid i dros 2,000 o bobl wneud cais o'r newydd am dŷ cymdeithasol yng Ngheredigion ac fe fydd y gofrestr yn cau yn y sir am fis.

Dywedodd y cyngor sir fod y galw am lefydd ar y gofrestr a gwasanaethau digartrefedd wedi cynyddu, ac o ganlyniad roedd angen aildrefnu'r gefnogaeth.

Mae'r awdurdod lleol yn dweud eu bod am newid y ffordd y mae cartrefi yn cael eu dyrannu a'r modd y maen nhw'n penderfynu pwy sy'n cael blaenoriaeth.

Ond, mae elusen Shelter Cymru yn dweud eu bod yn poeni y gallai rhai pobl "ddisgyn drwy'r rhwyd".

Mae modd i unrhyw un wneud cais am dŷ cymdeithasol, ac mae gan bob awdurdod lleol yn y wlad gofrestr, neu restr aros.

Mae prisiau rhent ar gyfer tai cymdeithasol yn fwy fforddiadwy o'i gymharu â llety preifat, ac mae tenantiaethau, yn gyffredinol, yn fwy sefydlog.

Yng Ngheredigion, mae dros 2,000 o bobl ar y rhestr aros am dŷ cymdeithasol ar hyn o bryd.

Tai cymdeithasolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 94,000 o aelwydydd yng Nghymru yn aros am dŷ cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl Shelter Cymru

Dywedodd Cyngor Ceredigion nad oedden nhw wedi adolygu'r system ers 2019, a bod amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers hynny o ystyried yr argyfwng costau byw a ffocws Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd.

Mae hynny wedi golygu fod mwy o bobl wedi ymuno â'r gofrestr, tra bod y galw am wasanaethau digartrefedd hefyd wedi cynyddu.

Mae'r cyngor yn dweud y byddai'r gofrestr ar gau i geisiadau newydd tan ddechrau Gorffennaf, ond os oes rhywun yn ddigartref ac angen ymyrraeth frys, yna byddai cefnogaeth ar gael.

Yn ôl llefarydd, mae pawb oedd ar y gofrestr wedi cael gwybod bod angen iddyn nhw wneud cais o'r newydd, ac y gallai hynny newid eu safle ar y rhestr aros.

"Hoffwn gadarnhau, os yw pobl yn ail-geisio am le ar y gofrestr erbyn 31 Ionawr 2026 - fe fyddwn yn cydnabod dyddiad y cais gwreiddiol, ac ni fydd angen ail-gyflwyno tystiolaeth megis tystysgrifau meddygol," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd y byddai staff hefyd ar gael i gefnogi pobl.

Sefyllfa 'dorcalonnus'

Dywedodd un ddynes sydd ar y gofrestr ei bod hi wedi poeni pan welodd hi neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud bod angen gwneud cais o'r newydd.

Yn ôl y ddynes, oedd am aros yn ddienw, roedd hi'n poeni y byddai siarad yn gyhoeddus am y sefyllfa yn amharu ar ei chais.

"Dyw fy sefyllfa i ddim yn grêt, ond dwi wir yn teimlo dros y rhai hynny sy'n fwy bregus - mae'n dorcalonnus iddyn nhw," meddai.

"Fe fydd yna rai sydd methu cael mynediad at negeseuon e-byst ac ati, ac fe fyddan nhw'n disgyn oddi ar y rhestr."

Mae'r cyngor bellach wedi e-bostio'r ddynes dan sylw.

Er hynny, mae'n dweud iddi deimlo'n rhwystredig: "Does gen i ddim ffydd yn y cyngor, dydyn nhw ddim yn gwrando. Dwi o fewn y band uchaf ar y rhestr ac wedi bod yn aros dwy flynedd."

Ruth PowerFfynhonnell y llun, Shelter Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruth Power yn galw ar y llywodraeth i gynyddu nifer y tai cymdeithasol fel mater o flaenoriaeth

Yn ôl Prif Weithredwr Shelter Cymru, Ruth Power, mae hi'n ymwybodol bod rhywfaint o ddryswch a phryder a bod pobl eisiau gwybod pa effaith fyddai'r newidiadau yn ei gael arnyn nhw.

Mae Ms Power yn poeni yn benodol am unigolion bregus, rhai sydd ddim â chyswllt a'r we neu sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â heriau o ddydd i ddydd yn annibynnol.

"Dyna'r bobl sydd â risg gwirioneddol o ddisgyn drwy'r rhwyd," meddai.

Mae 94,000 o aelwydydd yng Nghymru yn aros am dŷ cymdeithasol ar hyn o bryd, yn ôl Shelter Cymru, ac os yw'r system yn parhau i ddarparu tai ar yr un cyflymder - yna fe fydd hi'n cymryd 35 mlynedd i glirio'r rhestrau aros.

'Ceisio mynd at wraidd y broblem'

Mae Ms Power yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael fel mater o flaenoriaeth.

"Yn syml, dyw'r argyfwng tai yng Nghymru ddim am gael ei ddatrys nes bod cynnydd sylweddol ym mha mor gyflym yr ydyn ni'n darparu tai cymdeithasol," meddai.

Dywed Llywodraeth Cymru fod tai cymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol, eu bod wedi buddsoddi bron i £2bn yn ystod tymor presennol y Senedd a bod graddfa'r tai sy'n cael eu darparu ar ei uchaf ers 2008.

Dywedodd llefarydd fod nifer y bobl mewn llety dros dro yn adlewyrchu'r pwysau sy'n wynebu'r system ar hyn o bryd, yn ogystal ag effaith yr argyfwng costau byw.

"Er hyn, rydyn ni'n ymgymryd â pholisi 'gadael neb ar ôl' fel na ddylai neb gael eu gorfodi i gysgu ar y stryd, ac rydyn ni'n cynnig cefnogaeth drwy gynlluniau fel Cymorth i Aros er mwyn ceisio mynd at wraidd y broblem," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig