3 AS Llafur amlwg mewn ras i fod yn ymgeiswyr mewn etholaeth yn y de

Person yn gwisgo dilledyn gyda logo Llafur CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na thraean yr ASau Llafur presennol wedi dewis peidio sefyll yn etholiadau'r Senedd yn 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur Cymru mewn perygl o golli o leiaf un ymgeisydd amlwg arall yn etholiad y Senedd yn 2026, oherwydd brwydr dair ffordd i gael eu dewis mewn etholaeth yn ne Cymru.

Fe fydd David Rees, Huw Irranca Davies a Buffy Williams i gyd yn gobeithio cael eu hethol i gynrychioli etholaeth newydd Afan Ogwr Rhondda.

Mae'n golygu felly y bydd y dirprwy lywydd presennol, y dirprwy brif weinidog a'r fenyw wnaeth adennill etholaeth Rhondda i Lafur yn 2021 yn mynd benben â'i gilydd yn y ras i gael eu dewis ar frig rhestr ymgeiswyr y blaid.

Dywedodd Llafur Cymru nad oeddynt am wneud sylw ar y mater.

Mae Llafur Cymru eisoes yn wynebu newidiadau mawr o fewn y blaid y flwyddyn nesaf, gyda mwy na thraean yr ASau Llafur presennol yn dewis peidio sefyll yn etholiadau'r Senedd yn 2026.

Mae'r cyn-brif weinidogion, Mark Drakeford a Vaughan Gething ymhlith y rhai sydd wedi datgan na fyddan nhw'n sefyll.

Ar hyn o bryd, mae'r pleidiau yn y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer pob un o'r 16 etholaeth nesaf yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

O dan y system bleidleisio newydd fe all pob plaid enwebu hyd at wyth ymgeisydd ymhob etholaeth - ac fe fydd nifer yr aelodau sy'n cael eu hethol yn ddibynnol ar y ganran o'r bleidlais maen nhw'n ei hennill.

Byddai Llafur, o bosib, yn disgwyl ennill dau o'r chwe sedd sydd ar gael, ond gallai fod yn anodd ennill trydydd.

Yn fras, i ennill tair o'r chwe sedd mewn unrhyw etholaeth mi fyddai angen tua 36% o'r bleidlais.

Mi fydd aelodau llawr gwlad Llafur nawr yn pleidleisio eto i benderfynu ar drefn yr ymgeiswyr - gyda disgwyl canlyniad o fewn yr wythnosau nesaf.

Buffy Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Buffy Williams yn un o wleidyddion benywaidd mwyaf adnabyddus Llafur Cymru

Mae 'na ymdeimlad yn barod y byddai rhywfaint o ddicter gan rai o fewn y blaid pe bai Ms Williams, un o wleidyddion benywaidd mwyaf adnabyddus y blaid – yn colli allan.

Bydd pobl yn "grac iawn", meddai un ffynhonnell wrth BBC Cymru.

Fe wnaeth Ms Williams sicrhau un o'r canlyniadau mwyaf arwyddocaol yn etholiad Senedd 2021, gan ennill Rhondda yn ôl oddi wrth gyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood gyda newid o 19% yng nghyfradd y bleidlais.

Y flwyddyn flaenorol, fe dderbyniodd hi Fedal Ymerodraeth Prydain am ei gwasanaethau i gymunedau yn Rhondda.

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Irranca-Davies yn ddirprwy brif weinidog ac yn weinidog materion gwledig

Er bod Llafur Cymru wedi ymrwymo i "restr amrywiol o ymgeiswyr" wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer yr 16 o etholaethau newydd, fe wnaeth llywodraeth Lafur Cymru gefnu ar gynlluniau am gwotâu rhywedd yn y Senedd fis Medi diwethaf.

Byddai'r cynlluniau wedi gorfodi pleidiau i sicrhau bod 50% o'u hymgeiswyr yn fenywod.

Roedd yna bryderon am gyfreithlondeb y cynlluniau a chwestiynau ynghylch a oedd gan y Senedd rym i gyflwyno'r fath newid.

Mae Huw Irranca-Davies yn aelod blaenllaw o'r llywodraeth bresennol ym Mae Caerdydd, wedi iddo gael ei benodi yn ddirprwy brif weinidog ac yn weinidog materion gwledig.

Mae wedi gorfod delio gyda nifer o brotestiadau gan rai o fewn y sector amaeth, a dywedodd fis Tachwedd ei fod wedi "gwrando" ar ôl gwneud tro pedol ar gynllun dadleuol i blannu coed ar o leiaf 10% o dir ffermio.

Treuliodd gyfnod fel gweinidog yn San Steffan yn ogystal.

David Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Rees wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers 14 o flynyddoedd

Mae Rees wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers 2011 ac yn ddirprwy lywydd am y pedair blynedd diwethaf.

Mae ei etholaeth bresennol yn cynnwys gwaith dur Port Talbot.

O dan amgylchiadau arferol byddai gan Lafur obeithion realistig o ennill tair sedd yn yr etholaeth, ond fel y dywedodd ffynhonnell arall: "Dyw rhain ddim yn amgylchiadau arferol".

Mae'n ymddangos bod rhai o fewn Llafur yn poeni am golli pleidleiswyr i Blaid Cymru, tra bod rhai o'r cyhoeddiadau diweddar gan arweinydd Reform, Nigel Farage, yn awgrymu eu bod nhw bellach yn troi eu sylw at ddenu cefnogwyr traddodiadol y Blaid Lafur hefyd.

Fe awgrymodd arolwg barn fis diwethaf fod y blaid wedi cwympo i'r trydydd safle y tu ôl i Blaid Cymru a Reform.

Roedd arolygon blaenorol wedi awgrymu fod y pleidiau hynny mwy neu lai yn gyfartal.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno rhestr amrywiol o ymgeiswyr, gan gynnwys menywod, pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, rhai sy'n uniaethu fel LHDTC+, a siaradwyr Cymraeg ymhlith cymunedau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol."